banner with 8 logos

Rhaglen Amrywiaeth Arweinyddiaeth ar gyfer cwmnïau celfyddydau cenedlaethol Cymru: Brif ymchwil

Y prosiect

Mae wyth cwmni celfyddydol cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i greu newid yn y sector celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru. Wedi'u sbarduno gan ddyhead cryf i amrywio'r rheiny a gyflogir ar lefel uwch o fewn sefydliadau, dymuna'r cwmnïau greu swyddi cyfnod penodol, 12-18 mis ar lefel uwch o fewn eu sefydliadau, ac, o bosib, o fewn sefydliadau diwylliannol eraill yng Nghymru, sydd wedi'u cadw i:

- Unigolion o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig - Unigolion anabl neu B/byddar - Unigolion o gefndir incwm isel

Rydym yn chwilio am rywun i'n helpu i ddatblygu'r rhaglen, gan dynnu ar egwyddorion cyd-ddylunio ac ymgymryd ag ymgynghoriad eang a sicrhau bod lleisiau a phrofiadau ystod eang o bobl yn cael eu hystyried. 

Y mathau o swyddi y mae gan y Cwmnïau Cenedlaethol ddiddordeb ynddynt yw swyddi gorchwyl a gorffen a all wneud newid cadarnhaol ar gyfer yr hirdymor o fewn eu sefydliadau, wedi'u halinio â gweithgareddau sefydliadol neu elfennau gweithredol gyda ffocws ar gynrychiolaeth, cydraddoldeb, ac ecwiti. Er enghraifft, gallai'r swyddi gynnwys y canlynol:

• Pennaeth Datblygu Creadigol

• Arweinydd Busnes a Masnach

• Uwch Gynhyrchydd Digidol

• Rheolwr Datblygu Strategaeth.

Bydd y swyddi yn cynnwys rhaglen sylweddol o ddatblygiad proffesiynol a mentora, ar y cyd ac wedi'u teilwra'n unigol. 

Wrth sefydlu'r rhaglen hon, dymuna'r Cwmnïau Cenedlaethol sicrhau'r canlynol:

• Cyd-ddylunio gyda phobl sy'n cynrychioli'r grwpiau yr ydym yn dymuno eu recriwtio

• Dysgu o raglen Bwrsariaeth Greadigol Weston Jerwood, ac o raglen ACE Changemakers (roedd yr ail raglen yn arbennig ar gyfer arweinyddion o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, B/byddar ac anabl), a dysgu o'r rhaglen Inclusive Boards 

• Byddai pob swydd yn para o leiaf blwyddyn ar lefel uwch o fewn sefydliadau, a byddent yn rhan o dimau arwain uwch, yn mynychu cyfarfodydd bwrdd yn rheolaidd. Gall sefydliadau asesu'r posibilrwydd ar gyfer estyn y contract ar sail unigol os oes angen

• Cronfeydd ymchwil a hyfforddiant, gyda chyfleoedd i'r garfan gyfnewid dysgu a myfyrio

• Cymorth swyddi a hyfforddiant wedi'u hariannu ar gael

• Archwilio cyfleoedd cyllid i ddatblygu gwerth y rhaglen 

• Pwysigrwydd rhoi statws cydradd i'r iaith Gymraeg ym mhob proses recriwtio ac adnabod swyddi a deiliaid swydd.

 

Dylai'r gweithiwr llawrydd sy'n cydlynu hyn feddu ar nodweddion y cleientiaid targed o ran profiad go iawn/gweithredu cadarnhaol (Pobl o dras Affricanaidd ar wasgar; Pobl o Dde, Dwyrain a De-ddwyrain Asia ar wasgar; Pobl o Ogledd Affrica a'r Dwyrain Canol, a phobl amrywiol o ran ethnigrwydd; b/Byddar neu anabl a/neu ar incwm isel) gyda gwybodaeth a phrofiad perthnasol i ymgymryd ag ymchwil a chynllunio gweithredu i greu 'map ffordd' ar gyfer y rhaglen hon, gan gynnwys y tasgau canlynol:

• Ymgynghori eang a chyd-ddylunio â grwpiau ac unigolion perthnasol yng Nghymru gyda gwybodaeth a phrofiad defnyddiol i'r rhaglen 

• Ymchwilio i raglenni tebyg fel y nodwyd uchod, a sicrhau bod y rhaglen hon yn ystyried dysgu a phrofiad y ddau sefydliad a gyflwynodd y rhaglenni hyn, a'r rheiny a gymerodd ran

• Diffinio'r lleoliadau gwaith, yn seiliedig ar gyd-ddylunio ac ymgynghori - gan adnabod y swyddi/meysydd o arbenigedd y byddai ymgeiswyr yn ymgysylltu â nhw

• Creu proffiliau ymgeiswyr neu fanyleb person eang ar gyfer y swyddi y dymuna'r Cwmnïau Cenedlaethol eu recriwtio 

• Creu cynllun cerrig milltir ar gyfer codi arian, recriwtio a darparu'r lleoliadau gwaith

• Creu achos ar gyfer cefnogi un ymgyrch codi arian cyffredinol, gan adnabod cyllidwyr posib a chyfrif am y cronfeydd y gall y Cwmnïau Cenedlaethol eu hymrwymo o'u cyllidebau presennol

• Dylunio rhaglen o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer y garfan o ddeiliaid swydd, a ddarperir ar y cyd cyn belled â bod yr amserlen yn caniatáu

• Dylunio cynllun recriwtio 

• Creu cyllideb ar gyfer y rhaglen

• Dylunio cylch gorchwyl Grŵp Llywio ar gyfer y rhaglen 

 

Cyd-destun

Mae wyth cwmni celfyddydol cenedlaethol Cymru yn awyddus i gefnogi ac eirioli ar ran y celfyddydau yng Nghymru a gwerthfawrogi gwerth sylfaenol rhwydwaith o artistiaid unigol, mentrau cymunedol, lleoliadau, cwmnïau cynhyrchu a gwyliau'r genedl. Rydym yn cydnabod bod rhaid i ni chwarae rhan wrth gyfrannu at broffil diwylliant cyfoes Cymru ac ymwybyddiaeth ohono, gan helpu i dynnu sylw at amrywiaeth y gwaith a wneir ac a gyflwynir, a chyfoethogi canfyddiadau o gynnig diwylliannol ein cenedl. 

Ar hyn o bryd, mae'r Grŵp yn datblygu strategaethau ynghylch y tri amcan allweddol canlynol, i ddatblygu:

• Cynulleidfaoedd amrywiol a chynhwysol

• Sgiliau a chyfleoedd y sector

• Brand diwylliannol Cymru (yn genedlaethol a rhyngwladol)

Mae'r wyth sefydliad yn cynnwys y rheiny a ddynodir yn gwmnïau cenedlaethol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac sy'n derbyn cyllid refeniw'r Cyngor Celfyddydau. Mae'r rhain fel a ganlyn: 

Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Ffilm Cymru Wales

Llenyddiaeth Cymru

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

National Theatre Wales

Theatr Genedlaethol Cymru

Canolfan Mileniwm Cymru

Opera Cenedlaethol Cymru.

Tra mae pob cwmni yn dilyn eu Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol eu hunain wedi'u dylunio i hybu newid yn fewnol ar lefel sefydliadol a gweithgareddau, rydym yn rhannu cenhadaeth ar y cyd i ymgysylltu â lleisiau newydd, â phobl a grwpiau nad ydynt wedi cael eu clywed yn draddodiadol yn y sector diwylliannol. Anelwn at sicrhau bod mwy o unigolion heb gynrychiolaeth ddigonol yn gallu rhannu eu profiadau, safbwyntiau a syniadau ar lefel uwch i gyfrannu at elfennau artistig a gweithredol o'n sefydliadau. Fel grŵp o gwmnïau gyda chylch gorchwyl cenedlaethol, rydym yn ymrwymo i greu newid hirdymor ar gyfer y sector celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru. 

 

 

Gwneud Cynigion

Rydym yn chwilio am gynigion gan bobl sydd â phrofiad perthnasol a phrofiad go iawn o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd. 

I gyflwyno tendr ar gyfer y prosiect hwn, dylech uniaethu gydag un o'r nodweddion canlynol:

- Unigolyn o dras Affricanaidd ar wasgar; De, Dwyrain a Deddwyrain Asia ar wasgar; Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol neu gefndir ethnig amrywiol arall  - Unigolyn anabl neu B/byddar - Unigolyn o gefndir incwm isel.

I wneud cynnig anfonwch eich CV a dogfen yn disgrifio eich dull gweithredu i'r prosiect hwn, a chostau tebygol erbyn 26 Mawrth 2021 at:

Paul Kaynes, Prif Weithredwr, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn paul@ndcwales.co.uk. 

Os hoffech sgwrs anffurfiol cyn gwneud cynnig, gallwch gysylltu â Paul neu un o gynrychiolwyr eraill y Cwmnïau Cenedlaethol sydd ynghlwm â'r rhaglen:

Della Rose-Hill, Llenyddiaeth Cymru della@literaturewales.org

Angharad Leefe, Theatr Genedlaethol Cymru (ar gyfer cyfathrebu yn Gymraeg neu’n Saesneg) Angharad.Leefe@theatr.com

Bydd cynigion yn cael eu hadolygu gan y Cwmnïau Cenedlaethol. Efallai y dymunwch gael sgwrs anffurfiol am eich cynnig er mwyn dod i benderfyniad terfynol. 

 

Cyllideb

Mae'r Cwmnïau wedi dyrannu cyllideb o £7,000 ar gyfer y gwaith hwn, i gynnwys unrhyw dreuliau parod. 

 

Cyflawni

Disgwyliwn i'r gwaith ddechrau ym mis Ebrill 2021 ac iddo fod wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin 2021.