One Another logo

Tair dawns sy’n ein hailgysylltu â theatrau ac â’n Gilydd

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cychwyn ar ei daith dan do ledled y DU gyntaf ers tair blynedd yng Ngwanwyn 2022. Bydd Law yn Llaw yn ailgyflwyno ein cynulleidfaoedd i'n llwyfannau yr ydym wedi gweld eu heisiau’n fawr, gan gynnig y theatr fel lle i ymgasglu, mynegi ein hunain, ac i ddathlu bod Gyda’n Gilydd.

Mae’r Daith Law yn Llaw yn cynnwys tri darn dawns gan dri llais cyffrous ym myd dawns ar hyn o bryd; gan gynnwys dau gomisiwn newydd a pherfformiadau cyntaf ledled y byd.

Mae Caroline Finn wedi creu darn newydd sbon gyda CDCCymru sy'n cipio ei harddull ddawns dywyll a doniol, llawn egni, sydd i’w gweld yn ei darnau blaenorol Folk, The Green House, Animatorium, Bernadette a Revellers’ Mass. Mae ei darn newydd, Ludo, yn canolbwyntio ar bwysigrwydd chwarae, ac yn ailddarganfod llawenydd plentyndod a gwefr chwarae gemau meddwl tywyll. Bydd cynulleidfaoedd yn gweld dawnswyr yn tyrchu drwy'r bocs gwisgoedd ac yn dianc i fyd llawn meysydd chwarae rhyfeddol a dychymyg gwyllt, di-ben-draw.

Yr ail berfformiad cyntaf yw Wild Thoughts, gan y Coreograffydd Eidaleg, Andrea Costanzo Martini. Fel cyn-artist Aerowaves, mae Andrea wedi gweithio â Batsheva and Cullberg Ballet fel dawnsiwr, ac wedi bod yn gweithio fel coreograffydd dros y 10 blynedd diwethaf, yn cyflwyno ei waith ei hun ledled Ewrop. Gall pobl ddisgwyl dawns ddi-ofn a thrawiadol, yn llawn hiwmor chwareus sy’n galw ein cyrff yn ôl i symud ac i fwynhau.

Ar ôl y perfformiad cyntaf yn 2019 fel rhan o daith Gwreiddiau CDCCymru, bydd Codi, gan Anthony Matsena, nawr yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd mewn lleoliadau mwy, ledled y DU.  Cafodd Anthony ei fagu yn Zimbabwe cyn symud i Abertawe yn 13 oed, lle dechreuodd fynychu gwersi dawns hip-hop, Affricanaidd a Chyfoes yn ogystal â gwylio CDCCymru yn perfformio, sef ei flas cyntaf ar Ddawns Gyfoes. Hyfforddodd Anthony yn London Contemporary Dance School, lle datblygodd arfer goreograffig gyffrous yn gyflym, a daeth yn ‘un i gadw llygad arno’. Anthony oedd Artist Cyswllt Ifanc Sadler's Wells yn 2018.

Mae Codi yn stori ysbrydoledig am gryfder cymunedau’n dod ynghyd i fynd i’r afael â chaledi bywyd yn ystod cyfnodau heriol. Wedi'i ysbrydoli gan brofiadau Anthony fel plentyn yng Nghymru, mae Codi yn adeiladu ar sylfeini straeon glofaol Cymru a adroddir drwy ddawns, cân, barddoniaeth a theatr. Mae'r gynulleidfa wedi'i lapio mewn blanced o dywyllwch cyn cael ei harwain tuag at oleuni o obaith a dathlu.

“Bydd dawnswyr CDCCymru yn cipio eich dychymyg gyda hiwmor chwareus a chryfder corfforol rhyfeddol. Rwy'n gobeithio y bydd y rhaglen hon yn ein hysbrydoli, ein diddori ac yn cynnig yr holl le sydd ei angen arnom i feddwl ac i freuddwydio."
Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig

Bydd y daith yn rhedeg o 2 Mawrth i 16 Mai 2022, ac yn ymweld â deg lleoliad ledled Cymru a Lloegr. Bydd cyfle hefyd i wylio fersiynau digidol o’r gwaith wedi’u ffilmio’n benodol ar gyfer y sgrin.