dancers in neon green leaping across a red backdrop

Y cyfle olaf i weld taith lesmeiriol PULSE/PWLS Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

ym mis Tachwedd eleni yn Ipswich a Chaerdydd

Yn cynnwys Waltz danbaid Marcos Morau,  a churiadau Say Something gan Sarah Golding & Yukiko Masui (SAY).

Ar ôl teithio ledled Cymru a Lloegr yn gynharach eleni, a pherfformio fersiwn fer o Say Something i dorf o 80,000 yn ystod hanner amser y gêm rhwng Ffrainc a Chymru yn y Stade de France ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad Guinness ym mis Mawrth, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ôl yn perfformio'r rhaglen ddwbl PULSE|PWLS am y tro olaf i gynulleidfaoedd yn Ipswich a Chaerdydd ym mis Tachwedd. Bydd PULSE|PWLS hefyd i'w weld tramor gyda'r perfformiad Ewropeaidd cyntaf yn digwydd yn yr Eidal ar ddiwedd mis Tachwedd.

Dyma'r cyfle olaf i gynulleidfaoedd weld PULSE|PWLS sydd wedi bod yn rhan o dymor NAWR Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, sy'n dathlu 40ain mlynedd eleni.

Mae cynulleidfaoedd hyd yn hyn wedi eu ‘syfrdanu’ gan y rhaglen ddwbl anhygoel sy'n cynnwys y darn dawns hudolus, Waltz, a grëwyd gan y coreograffydd Marcos Morau, sydd wedi ennill nifer o wobrau. Dyma'r eildro i Marcos Morau weithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Roedd ei greadigaeth gyntaf, Tundra, yn rhan o Parade yn 2017 a'i rhoddodd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Dawns y Deyrnas Unedig yn 2018. Mae ei ail ddarn, Waltz yn hiraethus, moethus a phendant, ac yn galw am gywirdeb annynol bron, cyn mynd ymlaen i wledd o symud llawer mwy llawen, yn weledol a seiniol. Mae'r gerddoriaeth yn mynd â chi ar daith waltz o Valse Triste, Op 44. gan Jean Sibelius i Crawler gan Holly Herndon a Pneuma gan Caterina Barbieri. 

"Mae Waltz yn llawn corfforolrwydd tra-phendant Marcos. Mae'n llawn dyluniadau moethus, mae'r dawnswyr yn secwinau o'u coryn i'w traed, mae'n llawn ddirgelwch, cyffro ac yn brofiad pwerus iawn i gynulleidfa sy'n cael eu tywys trwy rai o'r Waltzes cerddorol enwocaf mewn hanes.”
Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru
 
Yn yr ail hanner gwelir y dawnswyr yn creu profiad dawns bywiog ac egniol. Crewyd Say Something gan Sarah Golding a Yukiko Masui (SAY) yn gweithio gyda'r bît-bocsiwr Cymreig Dean Yhnell a'r Cynhyrchydd a Phencampwr Bît-bocsio'r Deyrnas Unedig (2008), MC Zani, i greu gwledd gorfforol, weledol a sonig ddi-baid, sy'n peri i bawb yn yr ystafell fod eisiau codi a symud.
 


“Caiff cynulleidfaoedd ddisgwyl gweld dawnswyr CDCCymru yn hedfan ar draws y llwyfan mewn symudiad pwerus. Mae'r Sarah a Yukiko yn frwd ynglŷn â'r gerddoriaeth sy'n creu argraff arnynt, a chaiff y gynulleidfa ddisgwyl profiad teimladwy.” Matthew Robinson, Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru
 
Ym mhob perfformiad o PULSE|PWLS bydd disgrifiad clywedol wedi'i recordio ymlaen llaw fel bod modd i bawb fwynhau dawns fyw. 

Bydd PULSE|PWLS yn DanceEast, Ipswich ar 3 Tachwedd; Tŷ Dawns, Caerdydd 9 -11 Tachwedd a 21 -23 Tachwedd. Yn dilyn y dyddiadau yn y Deyrnas Unedig, bydd PULSE|PWLS yn cychwyn ar ei berfformiadau Ewropeaidd cyntaf yn Teatro Verdi, Padova, yr Eidal ar 29 Tachwedd.

Mae gwybodaeth am Archebu gan y Swyddfa Docynnau ar gael yn ndcwales.co.uk