Dancer Ed with Lee during apprenticeship
CDCCymru yn Cyflwyno

Cynllun Lleoliad Proffesiynol

Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd i ddawnswyr o bob lefel sydd eisiau cymryd y cam cyntaf tuag at weithio’n broffesiynol yn dilyn hyfforddiant galwedigaethol.

Mae CDCCymru yn gweithio gyda Northern School of Contemporary Dance (NSCD) i gynnig lleoliadau ôl-raddedig am hyd at 9 mis gyda’r cwmni. Cynigir nifer cyfyngedig o lefydd bob blwyddyn i raddedigion diweddar o raglenni gradd ddawns dwy/dair blynedd. Gan weithio gyfochr â dawnswyr proffesiynol yn CDCCymru, bydd myfyrwyr yn profi’r gwaith o greu, ymarfer, cynhyrchu a rhannu prosiectau perfformio proffesiynol, yn cynnwys unrhyw waith cymunedol perthnasol neu waith addysg. Bydd myfyrwyr y rhaglen gystadleuol hon yn ennill dealltwriaeth o’r sgiliau ehangach sydd eu hangen fel artist dawns broffesiynol.

Yn y lleoliad gwaith, cefnogir myfyrwyr gan diwtor yn CDCCymru. Ar ôl cwblhau’r lleoliad, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gynnal prosiect ymchwil terfynol sylweddol am eu profiadau, gan arwain at dderbyn dyfarniad Meistr mewn Perfformio Dawns Gyfoes.

I ddysgu mwy am y rhaglen ac i ymgeisio, ewch i: https://www.nscd.ac.uk/courses/ma-contemporary-dance-performance-pps/