Stiwdios Wrth Gefn Ar ddydd Llun cyntaf pob mis, byddwn yn rhyddhau rhestr o ddyddiadau pan fydd lle stiwdio ar gael y mis canlynol. Bydd y dyddiadau hyn ar gael i’w llogi am ddim ar ein gwefan i artistiaid dawns annibynnol o Gymru neu artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru, ac fe’u rhoddir ar sail y cyntaf i’r felin. Dyddiadau Presennol Sydd Ar Gael: NID OES UNRHYW DDYDDIADAU AR GAEL AR HYN O BRYD. OS HOFFECH LOGI’R LLE AR GYFRADD ARTIST LLEOL, EWCH I’N TUDALEN LOGI. I wneud cais am le stiwdio, e-bostiwch gyda’r wybodaeth ganlynol: Enw: Cwmni (os yw’n berthnasol): E-bost: Rhif Cyswllt: Nifer o bobl yn eich grŵp: A ydych chi, neu eich cwmni/artistiaid wedi’ch lleoli yng Nghymru? Dewiswch y dyddiadau yr hoffech eu harchebu: Disgrifiwch y gweithgaredd rydych yn bwriadu ei wneud yn yr lle sydd ar gael: Noder, rhaid ystyried archebion ar gyfer Standby Studios fel ceisiadau dros dro hyd nes y cânt eu cadarnhau drwy e-bost gan aelod o staff y Tŷ Dawns, ac mae’n rhaid iddynt fodloni meini prawf cymhwystra. Rydym yn ceisio ateb o fewn 2 ddiwrnod gwaith ar ôl gwneud yr archeb ac yn diolch i chi am eich amynedd. Stiwdios Wrth Gefn - y print mân Pan fyddwch yn archebu stiwdio o dan y cynllun Wrth Gefn, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau argaeledd - nes i chi gael yr e-bost hwnnw ni ddylid cymryd bod yr archeb wedi’i chadarnhau. Ac yn ysbryd partneriaeth, gofynnwn i chi ddilyn y canllawiau hyn: Mae’r Stiwdios wrth Gefn ar gyfer artistiaid dawns annibynnol o Gymru neu artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru, i gefnogi eu gwaith a'u hymarfer. Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, defnyddiwch y system archebu stiwdio safonol. Mae’r cynllun Stiwdios wrth Gefn wedi'i fwriadu ar gyfer gweithgaredd dawns. Dywedwch wrthym beth rydych chi'n bwriadu ei wneud â'ch lle stiwdio pan fyddwch chi'n archebu. Oherwydd nad ydym yn codi ffi llogi, mae angen i ni allu staffio'r stiwdio yn ystod ein horiau swyddfa arferol, felly dim ond yn ystod yr wythnos rhwng 9am a 5pm y mae’r Stiwdios Wrth Gefn ar gael. Bydd yn rhaid i ni godi tâl am unrhyw oriau neu ddiwrnodau ychwanegol pan nad oes staff yn yr adeilad fel arfer. Mae gan y stiwdios system sain y gallwch ei defnyddio, ond os oes angen cymorth technolegol ychwanegol arnoch, byddwn yn trosglwyddo’r gost i chi, y gwir gost. Oherwydd ei bod yn debygol y bydd galw mawr am y lle stiwdio, rydym eisiau sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio ar ôl ei archebu, felly gwnewch yn siŵr y byddwch yn bendant yn gallu defnyddio'r stiwdio pan fyddwch yn archebu. Os byddwch yn archebu lle, ac yna ddim yn ei ddefnyddio, byddwn yn codi £80, a bydd y ffi hon yn daladwy hefyd os byddwch yn canslo gyda llai na 48 awr o rybudd. Oherwydd ein bod eisiau eich cadw chi a phawb arall yn yr adeilad yn ddiogel, mae gennym weithdrefnau Covid ac Iechyd a Diogelwch ar waith y byddwn yn gofyn i chi eu dilyn, er lles pawb. Noder, oherwydd ein llawr dawnsio proffesiynol, rydym ond yn caniatáu sanau, traed noeth, ac esgidiau sydd â gwadn nad ydynt yn marcio yn y stiwdio. Os ydych yn bwriadu ymarfer mewn esgidiau uchel, esgidiau tap, esgidiau sydd â gwadn gwyn neu ddu, neu unrhyw fath o esgidiau eraill, mynnwch sgwrs gyda ni’n gyntaf er mwyn inni allu eich cynghori.