Image of Faye dancing with associates
CDCCymru yn Cyflwyno

Aelodau Cyswllt Ifanc

7 Mehefin

Mae rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc CDCCymru yn rhoi hyfforddiant dawns ysbrydoledig i ddawnswyr ifanc 13-18 oed.

Goodson Thomas logo

 

Mae rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc CDCCymru yn rhoi hyfforddiant dawns ysbrydoledig i ddawnswyr ifanc 13-18 oed i ddawnswyr o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru. Mae sesiynau’n cael eu cynnal ar ddyddiau Sul yn ystod tymhorau ysgol Cymru rhwng 10:30 – 2:00pm gyda rhai dyddiau gweithdy ychwanegol. Arweinir y sesiynau gan yr Artist Dawns Ymgysylltu, Dawnswyr Cwmni CDCCymru ac artistiaid gwadd.

Ers dros ddegawd, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) wedi bod yn meithrin a datblygu rhai o'r dawnswyr mwyaf dawnus ar draws y genedl. Mae Cyn-aelodau Cyswllt Ifanc CDCCymru wedi mynd ymlaen i hyfforddi yn Trinity Laban, Rambert, Northern School of Contemporary Dance, London School of Contemporary Dance Tring Park, Coleg Bird a mwy. Mae rhai hyd yn oed wedi dychwelyd atom fel Myfyrwyr Lleoliad Proffesiynol a Dawnswyr Cwmni.

Wedi’u lleoli yn y Tŷ Dawns, Caerdydd, cartref CDCCymru, mae ein Haelodau Cyswllt Ifanc yn dilyn rhaglen wedi’i chreu gan ein tîm Artistig sy’n cynnwys ein Cyfarwyddwr Artistig, Matthew Robinson, a’n Artist Dawns Ymgysylltu, sy’n goruchwylio ac yn rhoi adborth a chefnogaeth yn ystod y rhaglen. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar wella sgiliau creadigol a thechnegol mewn dawns gyfoes, ynghyd â datblygu gwaith ar gyfer perfformio.

Mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd ar gael a chaiff ymgeiswyr llwyddiannus eu dewis drwy weithdy clyweliad AM DDIM ar ffurf dosbarth techneg gyfoes lle gall dawnswyr arddangos eu sgiliau, creadigrwydd a photensial.

Rydym yn croesawu dawnswyr ifanc o amrywiaeth i gefndiroedd dawns. Os ydych yn ymddiddori mewn dawns ac yn frwd drosti, beth bynnag fo’ch profiad, cewch gymorth gennym i wneud cais.

Mae’r rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc CDCCymru yn cael ei chyflwyno ar y cyd ag Northern School of Contemporary Dance. 

the group in the studio

Mae’r clyweliadau ar agor bellach ar gyfer Aelodau Cyswllt Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Cynhelir clyweliad trwy gyfrwng gweithdy ar gyfer Aelodau Cyswllt Cymreig, neu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, yn y Tŷ Dawns, Bae Caerdydd ar: Ddydd Sul 7 Gorffennaf 10am-4pm.

Bydd y ceisiadau’n cau am 10am Dydd Mercher 3 Mehefin

Darllenwch y wybodaeth ynghylch ymgeisio cyn cwblhau’r ffurflen ymgeisio isod

Adolygiadau

"an amazing way to meet new people, learn about the different opportunities in the dance community and to increase confidence not only in dance but in yourself as a person"

"NDCWales young associates has really been one of the best things I have done in the dance community"

"its helped me to gain confidence as a leader... It’s brought me out my shell, and I’ve met some of my bestest friends there! I would recommend this programme to any dancers not just contemporary dancers!"

Fel rhan o'r rhaglen Aelodau Cyswllt Ifanc, bydd gennych gyswllt â’r cwmni proffesiynol a all gynnwys:

  • Dosbarth dawns teirawr wythnosol (tymor Hydref a Gwanwyn).
  • Cyfleoedd perfformio yn cynnwys gwaith newydd wedi’i goreograffu ar gyfer LANSIO - Noson Ddawns
  • Ieuenctid yn y Tŷ Dawns ddiwedd mis Tachwedd.
  • Cyfle i wylio ymarferion Cwmni a Dosbarthiadau Cwmni CDCCymru.
  • Tocyn(nau) am ddim i berfformiadau CDCCymru yng Nghymru.
  • Trafodaethau cyn/ar ôl y sioe gyda’r gweithwyr creadigol.
  • Mentora gan Artistiaid CDCCymru.
  • Mynediad at docynnau rhatach yn y Tŷ Dawns.
  • Sgyrsiau datblygu gyrfa

Gweithgaredd

Dyddiad

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

 

Dydd Mercher 5 Mehefin

Gweithdy clyweliadau

 

Dydd Sul 7 Gorffennaf

Ymgeiswyr yn derbyn penderfyniad drwy e-bost

 

Erbyn diwedd dydd Iau 18 Gorffennaf

Tymor 2023-24 yn dechrau

 

Dydd Sul 15 Medi

 

Dosbarthiadau Wythnosol  

Byddwn yn cynnal y Dosbarthiadau Aelodau Cyswllt Ifanc 2024-25 yn y Tŷ Dawns, Bae Caerdydd ar ddyddiau Sul yn unol â thymhorau hydref a gwanwyn yr ysgolion, 10:30am-2:00pm.

Bydd bob dydd Sul yn cynnwys dwy sesiwn, ac yn ystod y rhain, byddwch yn datblygu'ch sgiliau corfforol, creadigol, technegol a pherfformio. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cyflwyno gan CDCCymru ac artistiaid gwadd, gan weithio ag amrywiaeth o ddulliau symud.

Os ydych yn cael lle ar y rhaglen Aelodau Cyswllt Ballet Cymru, rhowch wybod i ni gan ein bod yn cydweithio â Ballet Cymru i sicrhau y gallwch adael y dosbarth yn gynnar unwaith y mis i fynd i’r sesiynau Ballet Cymru.

Prosiectau a Pherfformiadau

Mae’r rhaglen Artistiaid Cyswllt Ifanc yn cydnabod pwysigrwydd profiad perfformio a chreadigol yn ogystal â dosbarthiadau techneg, ac felly’n cynnig cyfle i weithio ar berfformiad gyda choreograffwyr proffesiynol yn LANSIO – Noson Ddawns Ieuenctid ddydd Sul 10 Tachwedd.

Mae LANSIO yn noson o berfformiadau’n cynnwys rhai o’r grwpiau dawns ieuenctid mwyaf cyffrous o bob cwr o dde a chanolbarth Cymru.

Mae LANSIO yn rhan hanfodol o brofiad yr Aelodau Cyswllt Ifanc felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r dyddiadau hyn cyn gwneud cais i sicrhau eich bod yn gallu mynychu.

Gweithgaredd

Dyddiad

Creu LANSIO

26-29 Hydref

Ymarferion a Pherfformiadau LANSIO

9-10 Tachwedd

Amserlen

Rydym yn cynnig rhaglen lawn i ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn gymorth i feithrin a datblygu eu dawn ac yn rhoi cipolwg gwirioneddol ar y byd dawns proffesiynol iddynt. Gwyddom fod nifer o'n Haelodau Cyswllt Ifanc yn brysur, a dyna pam ein bod yn ceisio rhoi manylion am ein dyddiadau wythnosol a'n cyfleoedd perfformio ymlaen llaw. Os byddwch yn methu nifer o sesiynau yn ystod y flwyddyn, byddwn yn trafod hyn gyda chi ac efallai y bydd yn rhaid i ni ystyried cynnig eich lle fel Artist Cyswllt Ifanc i rywun ar ein rhestr aros.

Nodwch y gall yr amserlen hon newid cyn dechrau'r rhaglen.

Tymor 1:

Dydd Gwener 20 Medi: Taith grŵp i weld Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru’n perfformio ‘Frontiers’ yn Theatr y Sherman, Caerdydd.

15, 22, 29 Medi: Hyfforddiant wythnosol 10.30am-2pm

6,13, 20 Hydref: Hyfforddiant wythnosol 10.30am-2pm

26-29 Hydref: Wythnos greu ar gyfer LANSIO 10am-5pm bob dydd

3,17,24 Tachwedd: Hyfforddiant Wythnosol 10.30am-2pm

9-10 Tachwedd: ymarfer a pherfformiadau LANSIO

1, 8 Rhagfyr: Hyfforddiant Wythnosol 10.30am-2pm
 

Tymor 2:

12,19, 26 Ionawr: Hyfforddiant Wythnosol 10.30am-2pm

2, 9, 16, 23 Chwefror: Hyfforddiant Wythnosol 10.30am-2pm

2, 9, 16, 23, 30 Mawrth: Hyfforddiant Wythnosol 10.30am-2pm

6 Ebrill: Hyfforddiant Wythnosol 10.30am-2pm

 

Dysgir Sesiynau Wythnosol gan yr Artist Dawns Ymgysylltiol, Dawnswyr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac artistiaid gwadd – sy’n canolbwyntio’n bennaf ar hyfforddiant Dawns Gyfoes, gan roi sylw’n achlysurol i arddulliau gwadd. Ymhlith yr athrawon y llynedd yr oedd: Alethia Antonia, Camille Giradeau, Ena Yamaguchi, Gaia Cicolani, Harlan Rust, Jack Philp, Jodi Nicholson, Lea Anderson, Liam Wallace, Mayowa Ogunnaike, Richard Chappell, Sanea Singh, Tom O'Gorman and Victoria Roberts. 

Galeri
dance teacher headshots
dance teacher headshots
dance teacher headshots
dance teacher headshots

Cost 

Mae'r rhaglen Artistiaid Cyswllt Ifanc yn costio cyfanswm o £495 y flwyddyn ar gyfer dosbarthiadau hyfforddiant cyfoes wythnosol, a dyddiau Creu, Ymarfer a Pherfformio.

Gellir talu'r ffioedd mewn pedwar rhandaliad rhwng Medi-Rhagfyr.

Dylech fod ar gael ar gyfer yr holl ddosbarthiadau a pherfformiadau ac ni cheir unrhyw ostyngiad ar gyfer sesiynau a fethir. Os byddwch yn dewis gadael y rhaglen bydd cyfanswm y ffioedd yn dal i fod yn daladwy. 

Rhaid talu’r ffioedd drwy Drosglwyddiad Banc neu Archeb Sefydlog Fisol yn unig - os yw hyn yn peri problem i chi, rhowch wybod i ni os byddwch yn cael cynnig lle.

Bursaires

Er mwyn gwneud yn siŵr nad yw arian yn rhwystr i bobl ifanc talentog, rydym yn cynnig nifer o fwrsariaethau i helpu gyda chostau’r cwrs. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael os byddwch yn cael cynnig lle ar y rhaglen drwy gysylltu â Young.Associates@ndcwales.co.uk  Ni ellir cyflwyno cais am fwrsariaeth hyd nes bydd cynnig wedi’i dderbyn a rhaid gwneud hynny o fewn 10 diwrnod o dderbyn y cynnig.

Galeri
dancers on stage under red light
dancers in class
dancers in class
dancers on stage looking strong
huge group of young dancers grooving together

Apply to the Associates programme

profiad dawnsio
Rwy'n Aelod Cyswllt Ballet Cymru 23/24 a gallaf fod yn bresennol: