Mix of pictures from Laboratori week

Blog Profiad Gwaith: Naomi Berry

Diwrnod 1

Helo, Naomi Berry ydw i, ac rwyf ar brofiad gwaith gyda CDCCymru yr wythnos hon. Rwyf yn awyddus i fod yn ddawnswraig gyfoes fy hun, ac wedi bod yn aelod Cyswllt CDCCymru ers dwy flynedd.Dechreuais fy niwrnod yn gwylio gwers ddawns wedi ei harwain gan Camille Giraudeau. Dechreuais fy niwrnod yn gwylio gwers ddawns wedi ei harwain gan Camille Giraudeau. I mi, roedd gweld y tebygrwydd rhwng gwaith dosbarth y cwmni a’r dosbarthiadau Cyswllt yn ddiddorol hefyd.

Ar ôl i’r dosbarth orffen, roedd y dawnswyr yn ymgymryd â thasg goreograffi wedi ei harwain gan Lea Anderson, a oedd yn hynod ddiddorol oherwydd ei bod wedi arfer ffilmio golygfeydd mewn ffilmiau er mwyn annog symudiad y dawnswyr. Roedd yn dechneg nad oeddwn wedi ei gweld o’r blaen, ac fel rhywun sy’n awyddus i fod yn ddawnswraig, mae hynny wedi fy annog i edrych am ysgogiadau gwahanol na fyddwn wedi meddwl eu defnyddio i ysbrydoli symudiad. Rwyf wedi cael diwrnod gwych gyda CDCCymru, ac rwyf yn edrych ymlaen yn arw at ddod eto yfory.

 

Diwrnod 2

Fel ddoe, dechreuais fy niwrnod yn gwylio dosbarth cyfoes wedi ei arwain gan Cami. Roedd yn wych gweld datblygiadau pob un o’r ymarferion o’r dosbarth ddoe. Roedd y dosbarth coreograffi wedyn, a oedd yn cael ei arwain gan Lea, yn rhoi’r cyfle i’r dawnswyr, ac i minnau fel arsylwr, dyrchu’n ddyfnach i’n hochr creadigol.

Yn gyntaf, death Lea â lluniau o reslwyr i’r dosbarth a gofyn i’r dawnswyr eu hefelychu.Roeddwn yn meddwl bod gofyn i’r dawnswyr ddefnyddio ystumiau mor rhwystrol yn eu caniatáu i herio eu creadigrwydd, fel bod y cyfnewid rhwng pob llun mor esmwyth â phosibl, a oedd yn arbennig i’w wylio.

Ar ôl cinio, defnyddiodd Lea yr un broses, ond y tro hyn, roedd y lluniau wedi eu rhwygo. Gofynnodd i’r dawnswyr ddehongli beth oedd yn digwydd yn y lluniau, yn ogystal â thu allan i’r hyn a oedd i’w weld yn y lluniau.

Roedd arsylwi hyn yn gyfle imi weld sut oedd pob grŵp yn datblygu’r delweddau llonydd ac yn creu rhywbeth newydd. Roeddwn hefyd yn cael gweld yr hyn sydd tu ôl i’r broses goreograffi a dilyniant, nad oeddwn i wedi ei weld o’r blaen. Mae heddiw wedi fy ysbrydoli’n llwyr fel dawnswraig ifanc i archwilio’r ochr goreograffi o ddawns ymhellach.

 

Diwrnod 3

Bûm i’n gwylio dosbarth ballet y cwmni bore yma, a oedd yn cael ei arwain gan Emma Lewis. Roeddwn i wedi synnu gweld bod yr ymarferion yn gwbl wahanol i’r ballet rydw i’n ei astudio, gan eu bod yn cynnwys llawer o ymlacio a rhyddhau. Roeddwn i hefyd wrth fy modd gyda’r ffordd roedd Emma’n defnyddio caneuon poblogaidd heddiw ar gyfer pob ymarfer, a oedd yn rhoi blas modern i’r ballet.

Ar ôl y dosbarth ballet, roedd Lea Anderson wedyn yn arwain gwers goreograffi. Gofynnodd i’r dawnswyr gopïo dawns gan Laurel a Hardy, ac roedd yn wych gweld dawns gomedi yn cael ei thrawsnewid gan y dawnswyr proffesiynol. Wedyn, gofynnodd Lea i’r dawnswyr gyfuno lluniau llonydd roedd hi’n eu dangos iddynt gyda gwahanol rannau o ddawns Laurel a Hardy. Roedd yn ddiddorol gweld sut roedden nhw’n cyfuno’r lluniau llonydd gyda’r darn egnïol a gweld sut oedd pob grŵp yn canolbwyntio ar elfennau gwahanol y lluniau a’u defnyddio yn eu dawns. Wnes i fwynhau gwylio gymaint ag oedd y dawnswyr yn mwynhau perfformio eu darn gorffenedig.

 

Diwrnod 4

Mae heddiw wedi bod yn gyfle gwych i weld sut yr adeiladodd y coreograffwyr yn y Grŵp Laboratori ddarn o waith o symbyliad bach iawn. Roedd hi'n ddiddorol iawn gweld sut y gellid cyfuno arddulliau gwahanol y coreograffwyr gyda'i gilydd i greu un darn mawr o waith. Rhannodd Lea y dawnswyr i 3 grŵp a gofynnodd i'r coreograffwyr greu cymal gan ddechrau gyda'r safle gorffenedig. Roeddwn yn credu bod defnyddio'r dechneg hon i ysbrydoli cynnwys pob darn yn hynod effeithiol oherwydd roedd yn annog y coreograffwyr i feddwl am eu safle terfynol cyn yr oedd ganddynt syniad beth i seilio eu perfformiadau arno. Drwy roi rhyddid i goreograffwyr, roeddwn yn gallu gweld beth oeddynt yn ei ddefnyddio fel eu symbyliad. Roeddwn wrth fy modd â syniad Ed o ddefnyddio'r dasg feunyddiol o greu cwpaned o goffi i ddylanwadu ar y symudiadau yn ei gymal. Roedd yn wefreiddiol gweld sut y gellid datblygu cymaint o weithredoedd syml i gynhyrchu darn cymhleth o ddawns. Pan gyfunwyd yr holl ddarnau gan bob coreograffydd, roedd y cynnyrch gorffenedig yn hynod effeithiol ac rwy'n cyfri'r orau tan yfory i weld pa syniadau eraill mae Lea yn eu defnyddio i ysbrydoli'r dawnswyr.

 

Darllenwch flog olaf Naomi yma