Dancers holding Elena in the air

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi ei enwebu ar gyfer gwobr arbennig

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi ei enwebu ar gyfer Gwobrau Dawns Cylch y Beirniaid 2020. Maent yn un o 5 enwebai yng nghategori'r wobr 'Cwmni Annibynnol', ynghyd â Ballet Black, Shobana Jeyasingh Company, Yorke Dance Project a James Cousins Company. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 19 Chwefror 2020.

Bellach yn eu 20fed flwyddyn, mae’r Gwobrau Dawns Cenedlaethol wedi cael eu trefnu gan Adran Ddawns Cylch y Beirniaid ym mhob blwyddyn o’r Mileniwm hwn i ddathlu bywiogrwydd ac amrywiaeth diwydiant dawns llewyrchus Prydain. Maent yn cael eu cyflwyno gan Adran Ddawns Cylch y Beirniaid, sy'n dod â thros 60 o awduron a beirniaid dawns ynghyd. Dyma'r unig wobrau sy'n cael eu rhoi gan gorff proffesiynol beirniad dawns y DU.  

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn bodoli i greu dawns ymgysylltiol a rhagorol gyda phob math o bobl, ar gyfer pob math o bobl, mewn pob math o leoedd.

Mae'r wobr yn dod wedi blwyddyn gyffrous o deithio'n genedlaethol, rhyngwladol, a lleol - gan gynnwys i Japan, lle buont yn perfformio dawns wedi ei seilio ar Rygbi yn y parth cefnogwyr yng Nghwpan Rygbi'r Byd, a thaith wledig yn mynd â dawns i neuaddau pentrefi a lleoliadau bychain ym mhob cwr o Gymru.

Mae'r cwmni hefyd yn anelu at feithrin potensial lle nad yw wedi cael ei adnabod, a’i ddatblygu lle mae’n amlwg. Gyda symudiad, creadigrwydd, dychymyg a gofal; yn ogystal â chreu cyfleoedd dawns newydd. 

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gefnogaeth hon wedi cynnwys dysgwyr seiliedig ar waith, dawnswyr ieuenctid, hyfforddiant a llwyfannau ar gyfer artistiaid a rhaglen hirsefydlog Dawns ar gyfer Parkinson's.