Anthony stretching image

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn agor drysau at gyfleoedd newydd mewn dawns i bobl ledled Cymru

Wrth i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru gychwyn ar ei daith y gwanwyn ledled Cymru, mae'n gwahodd pawb ar draws Cymru i fwynhau profiadau newydd mewn dawns drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cyfranogol rhan sydd wedi'u rhaglennu ochr yn ochr â'r prif berfformiad, ac wedi ysbrydoli nifer o bobl ifanc Cymraeg i archwilio gyrfaoedd mewn dawns gyfoes ar hyd y blynyddoedd.  

Ochr yn ochr â'i daith Roots, bydd CDCCymru yn cyflwyno cyfres o weithdai unigryw o'r enw Diwrnodau Dawns a grëwyd mewn partneriaeth â lleoliadau celfyddydau gydol y daith, i sicrhau bod bob un yn bersonol i'w gymuned leol. Mae'r sesiynau ysbrydoledig, rhyngweithiol yn rhoi cyfle i bawb gael mynd i fyd dawns gyfoes. Mae bob Diwrnod Dawns yn wahanol ym mhob lleoliad gydol y daith, ond mae bob un yn rhoi cyfle i bobl gael blas ar ddawns gyfoes am y tro cyntaf, deall cyd-destun dawns, dysgu sut beth yw bywyd fel dawnsiwr proffesiynol, a dysgu darnau o'r perfformiad hyd yn oed. Bydd digwyddiadau Diwrnodau Dawns yn cael eu cynnal trwy gydol mis Tachwedd a Rhagfyr yn yr Wyddgrug, Coed Duon, Ystradgynlais, Arberth, Aberdyfi, Caernarfon a Phwllheli.

"Bu i gyfuniad newydd o bosibiliadau yn fy mywyd agor pan welais ddawns gyfoes am y tro cyntaf, felly rwy'n gobeithio y gall CDCCymru ysbrydoli eraill drwy berfformio iddyn nhw a thrwy eu gwahodd i brofi dawns drostynt eu hunain", dywedodd Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Fearghus Ó Conchúir

Gellir gweld un o'r straeon hyn trwy yrfa un o ddawnswyr a choreograffwyr dawnus Cymru, Anthony Matsena, y mae ei waith yn rhan o daith Roots eleni.

Ac yntau wedi'i fagu yn Abertawe er pan oedd yn 13 oed, anogwyd Anthony a'i frodyr gan gymuned Fforestfach i archwilio eu hangerdd tuag at ddawns hip hop a stryd drwy grwpiau lleol. Yn fuan wedyn, mynychodd Anthony weithdy yn CDCCymru, y tro cyntaf iddo weld dawns gyfoes.

"Roedd y gweithdy yn y Tŷ Dawns yn brofiad anhygoel," meddai. "Ychydig yn ddiweddarach, gwelais CDCCymru yn broffesiynol ac roedd yn un o 'brofiadau llywio' allweddol fy ngyrfa. Gwybûm bryd hynny fy mod eisiau troi at ddawns gyfoes."

Ar ei ddiwrnod cyntaf yn Ysgol Ddawns Gyfoes Llundain, gofynnwyd iddo rannu ei freuddwyd. "Dywedais wrthynt mai fy mreuddwyd oedd bod yn ddawnsiwr cwmni i CDCCymru un diwrnod. Tair blynedd yn ddiweddarach, rwy'n hynod falch o nid yn unig gael dawnsio gyda'r cwmni, ond creu dawns iddynt hefyd."

Mae Codi yn ddarn newydd sbon sydd wedi'i goreograffu gan Anthony Matsena yn un o'n pedwar perfformiad dawns dynamig sy'n ffurfio Roots; casgliad o hoff ddarnau CDCCymru sydd i gyd yn adrodd stori unigryw trwy ddawns; archwilio themâu o fywyd a diwylliant Cymru.

"Mae Codi yn archwilio sut gallwn, gyda'n gilydd, lwyddo i fynd trwy amseroedd anodd." eglura Anthony. "Cefais fy ysbrydoli gan gryfder cymunedau trefi mwyngloddio Cymru yn wyneb achosion o gau a thrallod. Ysgrifennais Codi i gyflwyno'r syniad mai os ydym yn dawnsio gyda'n gilydd fel pobl, yn helpu'r naill a'r llall, gallwn godi ein gilydd, a chodi'n llawer cynt ac yn uwch gydag eraill o gwmpas."

Caiff pob darn dawns Roots ei gyflwyno ymlaen llaw i helpu pawb i ddod o hyd i'w hystyron eu hunain yn y straeon, yna bydd sesiwn holi ac ateb i rannu cyfrinachau tu ôl i'r llen y coreograffwyr a'r dawnswyr. Wedi'i raglennu hefyd mae Rygbi: Annwyl gan Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Fearghus Ó Conchúir sy'n dathlu rygbi yng Nghymru ac yn pwysleisio gobeithion, gogoniant ac anrhydedd cefnogi ein gilydd ar y cae ac oddi arno. Crëwyd y darn hwn gyda chyfraniad cefnogwyr a chwaraewyr rygbi ledled Cymru fel bod y ddawns wirioneddol yn adlewyrchu'r gêm. Yn ogystal, aethpwyd â'r ddawns i Siapan i gefnogi sgwad Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd.