Dance Days image 1 company dance, 1 young boy with arms stretched and right leg in the air
CDCCymru yn Cyflwyno

Darganfod Dawns

Mawrth - Mai 23

ar gyfer ysgolion a theuluoedd. 

1 awr

Mae Darganfod Dawns yn berfformiad rhyngweithiol, hamddenol a llawn hwyl. Rhowch gynnig ar ddawnsio, yna gwyliwch y dawnswyr proffesiynol wrth eu gwaith.

Mae’r profiad awr o hyd yn berffaith ar gyfer ysgolion a theuluoedd. 

Cewch gyfle i gynhesu’r corff gyda'n dawnswyr o’ch sedd, gofyn cwestiynau a dysgu rhai symudiadau o'r sioe.

Mae'n brofiad creadigol a llon. Mae pobl ifanc yn gadael yn llawn brwdfrydedd, hyderus a chreadigol.

Adolygiadau

"A rediculously amazing afternoon" 
Plentyn 

 

 

"Watching dance is a fabulous way to inspire keen dancers but it’s also brilliant for kids in general. There’s room for imagination, the chance to weave your own story, to laugh at something because it tickles your funny bone without words or slapstick."
Vale of Glam Mam

“The entire group were enthralled by the … the openness of the dancers and their ability to encourage … the children … into the ‘secret’ world of dance.” 
Athrowr

Discover Dance
children stretch from their seats whilst our dancers on stage show them how
smiling children
children dancing in their theatre seats

Ysgolion 


Mae dawns yn un o bum disgyblaeth Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol.  Mae Darganfod Dawns gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn berfformiad rhyngweithiol wedi’i ddylunio i ennyn diddordeb, ysgogi ac annog dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau creadigol, artistig a pherfformio.

Bydd y sioe awr o hyd hwyliog a hamddenol yn rhoi cyfle i ddysgwyr 7-11 oed i gwrdd â dawnswyr proffesiynol, i holi cwestiynau ac i ddysgu ychydig o symudiadau.  Yna bydd cyfle i wylio’r dawnswyr yn perfformio ‘Say Something' gan SAY.

Os byddwch yn archebu 10 neu fwy o docynnau ar gyfer Darganfod Dawns, gallwn gynnig gweithdy am ddim yn eich ysgol.  Bydd hyn nid yn unig yn cynnig cyfle i’r dysgwyr ymweld â theatr, ond hefyd cyfle i archwilio eu doniau creadigol eu hunain trwy ddod ag arbenigedd dawnswyr proffesiynol i’r dosbarth.

Mae Darganfod Dawns yn brofiad ysbrydoledig a fydd yn cyfoethogi’r dysgwyr ac yn gwneud iddynt deimlo’n fwy hyderus.

Cofiwch gael golwg ar grant Ewch i Weld Cyngor y Celfyddydau sy’n gallu rhoi cyllid ar gyfer tocynnau a theithio i ddigwyddiadau celfyddydol o ansawdd uchel megis Darganfod Dawns:

 

Ewch i Weld | Arts Council of Wales