CDCCymru yn Cyflwyno Gweithdai Dawns Mae ein gweithdai dawns yn ddelfrydol ar gyfer pob oedran fel ffordd hwyliog a difyr i ddatblygu hyder, cyfathrebu, creadigrwydd, meddwl yn feirniadol a gwella ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Gall ein gweithdai gael eu teilwra at anghenion, galluoedd, oedran a diddordeb eich grwpiau a gellir eu darparu yn eich ysgol neu leoliad o ddewis. Gallwn gynnal gweithdai ar gyfer hyd at 90 munud a’u gwneud yn unigryw ar gyfer anghenion eich grwpiau. Mae ein gweithdy safonol yn cynnwys: Sesiwn cynhesu sydd yn berthnasol i lefel y cwricwlwm neu faes astudio neu ddiddordeb. Dysgu darn o ddawns. Mae'r gweithdy yn gysylltiedig â themâu'r repertoire presennol. Mae’r gweithdai dan arweiniad dawnswyr proffesiynol, medrus CDCCymru.. Cost ac Archebu: Gall gweithdai gael eu teilwra i anghenion eich grwpiau a gall bara rhwng 60+ munud, neu fwy a gellir eu darparu yn eich ysgol neu eich lleoliad o ddewis. Am ragor o wybodaeth ac i archebu cysylltwch ar 029 2063 5600 E-bost Gellir teilwra ein gweithdai i anghenion, galluoedd, oedran a diddordeb eich grwpiau, a gellir eu cyflwyno yn eich ysgol neu mewn lleoliad o’ch dewis. Gallwn gynnal gweithdai wedi teilwra i ofynion eich grŵp. Mae gweithdy safonol yn cynnwys: Sesiwn gynhesu sy’n berthnasol i lefel y cwricwlwm neu’r maes dysgu neu ddiddordeb. Dysgu darn o ddawns. Mae’r gweithdy’n gysylltiedig â themâu’r repertoire cyfredol. Gweithdy Dawns Gweithdy hwyliog i chi i ddadlennu eich creadigrwydd trwy gyfrwng dawns. Ymunwch â ni mewn gweithdy dawns cyffrous a chreadigol yn seiliedig ar waith Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae ein cynhyrchiad dawns newydd 'Zoetrope', sydd wedi'i goreograffu gan Lea Anderson, wedi'i lunio'n benodol ar gyfer pobl ifanc ac wedi'i ysbrydoli gan animeiddiad cynnar ac yn ysbryd y ffair, ac felly'n siwr o'ch cyffroi. Cewch blymio i fyd creadigol y coreograffi yn ein gweithdai, gan symud ein cyrff a dwyn ysbrydoliaeth greadigol o rith a chwarae. Mae'r gweithdai yn gyfle i ni fynegi ein hunain, datblygu hunanhyder, codi ymwybyddiaeth o'n cyrff a theimlo'n ysbrydoledig. Byddem yn hapus o gael cyd-ddylunio’r gweithdy gyda chi, gan ddwyn ynghyd yr hyn a wyddom, yr hyn yr ydym yn gyffrous yn ei gylch a’r hyn sydd ei angen arnom i ysbrydoli pobl ifanc a’u hannog i symud. Os yw eich ysgol yn mynychu perfformiad hefyd, yna fe wnawn siapio’r cynnwys er mwyn cyfoethogi profiad eich dysgwyr o fynychu’r perfformiad, a bod eu perthynas â'r coreograffi a’r themâu yn cael ei gynnau cyn dod i sioe. Hyd y gweithdy Rydym yn argymell y dylai eich gweithdy Dawns fod yn 60 munud. Os yw eich ysgol yn dymuno gweithdy byrrach neu hirach, neu gyfres o weithdai, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich anghenion penodol ac fe wnawn ein gorau i ymateb iddynt. Gallwn hefyd gynnig dau weithdy mewn hanner diwrnod neu fwy o weithdai mewn diwrnod llawn cyn belled a bod ein hartistiaid dawns yn cael egwyl fer rhwng pob un. Cost £150 am un gweithdy £225 am ddau weithdy 45 neu 60 munud yr un mewn un hanner diwrnod £300 am dri gweithdy 45 neu 60 munud yr un mewn un diwrnod Sut i Archebu Cwblhewch y ffurflen ar-lein gyda manylion cyfeiriad yr ysgol, grŵp blwyddyn, nifer yn y dosbarth ayb. Cysylltwch â Lucie.paddison@ndcwales.co.uk am ragor o wybodaeth. Dewch i weld perfformiad sydd wedi'i lunio'n benodol ar gyfer Ysgolion Rhagor o fanylion am raglen Zoetrope ar gyfer ysgolion ar gael yma Rydym ni’n perfformio Zoetrope ar gyfer ysgolion ledled y DU yr Hydref hwn, a gallwn ein gweld yma: Taliesin, Abertawe: Dydd Gwener 4 Hydref 1yp Theatr Brycheiniog, Brecon: Dydd Iau 17 Hydref 1yp Y Hafren, Drenewydd: Dydd Gwener 25 Hydref 1yp Pontio, Bangor: Dydd Iau 7 Tachwedd 1yp Lawrence Batley Theatre, Huddersfield: Dydd Mercher 13 Tachwedd 1yp Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth: Dydd Iau 21 Tachwedd 1yp Mae Zoetrope yn sioe 45 munud o hyd wedi ei goreograffu gan Lea Anderson ac wedi'i ysbrydoli gan animeiddiad cynnar ac yn ysbryd y ffair. Llenwir y theatr ag animeiddiadau a phatrymau symud cyffrous yn cael eu perfformio gan greaduriaid hudolus. Bydd y sioe yn weledol gyffrous ac yn brofiad ysbrydoledig i ddysgwyr rhwng 7-11 oed. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig grant ‘Ewch i Weld’ sy’n talu am hyd at 90% o bris y tocyn a chostau trafnidiaeth. Gweler manylion y nawdd sydd ar gael yma Rhowch Gynnig Arni Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig grant ‘Rhowch Gynnig Arni’ sy’n talu am hyd at 90% o gost. Byddwn yn helpu i’ch tywys drwy’r broses syml hon. Gweler manylion y cyllid sydd ar gael yma: Cronfa newydd i ddysgwyr 3-16 oed roi cynnig ar weithgaredd neu weithdy ymarferol sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau mynegiannol yn yr ysgol a’r tu allan. Rhowch Gynnig Arni Adolygiadau "The workshop was fab! Staff were really pleased at the way Elena and Oliver engaged with the pupils, particularly our resource base pupils. More boys participated enthusiastically in the workshop than potentially they would in a standard dance lesson which for us is a huge thumbs up! It was a definite success and the pupils were so excited to go home and tell/show parents the skills they had learned. Please pass on our thanks to both, the pupils loved them and want to know when they are returning for lesson number two." Pentrebane Primary School, Cardiff “The children loved the workshop and loved the fact that they knew part of the dance that was to be performed. They enjoyed performing their dances and really worked hard. The performance we thought was spectacular! The children were mesmerised throughout. It really inspired the children, so much so that we are going to develop the work they did in the workshop to create our own version to perform to the rest of the school. Thanks again for a lovely experience.” Whitestone Primary School, Swansea "I had some wonderful feedback from the class teachers concerned. All were delighted with the group behaviour management. We were especially happy that our boys were enjoying the session too -it’s been hard trying to get them into dance club. Our deputy head commented that she now felt a bit more confident teaching dance as part of PE." Allensbank Primary School - Cardiff Galeri