blue deer head graphic
Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru

Dawns y Ceirw

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
Ysgolion a Teuluoedd
Canllaw Oed: plant 5-9 oed a'u teuluoedd
Hyd y perfformiad: tua 45 munud

Yn cyfuno dawns, cerddoriaeth wreiddiol ac antur aeafol, dyma addasiad llwyfan o stori blant wreiddiol gan Casi Wyn, dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwyr Artistig y ddau gwmni, Steffan Donnelly Matthew William Robinson.

-

Mae’n Noswyl Nadolig ac mae pobl y pentref yn swatio’n gynnes yn eu cartrefi. Does neb yn sylwi ar y carw bach unig tu allan yn yr oerfel...

Wrth chwarae ar ben ei hun bach yn yr eira, mae Carw yn ysu am gynhesrwydd a charedigrwydd. Yn sydyn, mae golau bach disglair yn ymddangos! Er nad yw wedi mentro’n bell o’i bentref o’r blaen, mae Carw’n penderfynu dilyn y golau bach disglair ar antur hudolus trwy’r goedwig lle mae’n darganfod y cryfder a’r cariad sydd yn ei galon ei hun.

Wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan Casi Wyn (Bardd Plant Cymru 2022-23), bydd y sioe newydd swynol hon yn dod â hud, cerddoriaeth a dawns i gynulleidfaoedd ifanc ledled Cymru y gaeaf hwn.

Cyd-gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

 

Tîm Creadigol

Cyfarwyddwr Steffan Donnelly

Cyfarwyddwr Matthew Williams Robinson

Awdur + Cerddoriaeth wreiddio Casi Wyn

Dylunydd Set a Gwisgoedd  Tomás Palmer

Cynllunydd Goleuo: Joshie Harriette

Cynllunydd Sain a Chynhyrchydd Cerddoriaeth: Alex Comana

Dramatwrg: Rhian Blythe

Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydeinig: Cathryn McShane

Cast  Casi Wyn, Osian Meilir, Sarah 'Riz' Golden

 

 

Coreograffwr

Matthew Williams Robinson

Galeri
a dancer dressed as a deer sits on the floor arms in the air in joy as another dancer in a huge silver costume made of tassles shakes snow confetti over them - they're in a wintery inspired set with wooden trees
two dancers dressed as deer leap across a sepia lit stage with a wintery set, between them a dancer in a print traditional looking snow outfit with white trim addresses the audience
a dancer dressed as a deer leans back, facing away from the camera, they are looking at another dancer dressed as a spider, limbs all bent, hiding in the paper strips that make up the back of the set
a dancer dressed as a deer sits on all fours on a blue lit wintery stage as a singer sits behind him in a pink winter outfit that looks scandinavian, they both look wistful