CDCCymru yn Cyflwyno The Green House gan Caroline Finn Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 45 munud Canllaw oed: 8+ Mae Caroline Finn yn ein harwain ar daith hiraethus, gan ofyn i ni edrych i mewn i’r Green House. Ar set deledu od, mae'r cymeriadau’n canfod y ffin denau rhwng ffantasi a realiti. Tîm Creadigol Set a Dylunio: Joe Fletcher Cerddoriaeth: A Summer Place (A Summer Place original soundtrack), (Zézé gan Max Steiner; Camino Overture gan Oliver Schroer; (My Sweet Orange Tree original soundtrack)) gan Armand Amar; Les Beautés du Diable (Francois Dompierre) & Posthumous Nocturne in C Sharp Minor No. 20 (Chopin) gan La Pieta and Angele Dubeau; You are my Sunshine gan The Kiboomers; Haust gan Olafur Arnalds; Untitled (Figures) gan Max Richter; Piano Concerto no. 2 in F, Op 101. Andante gan Dmitri Shostakovich; To Tango tis Nefeli gan Haris Alexiou Dylunio Golau: Joseff Fletcher Dylunio Gwisgoedd: Gabriella Slade Gwneuthurwr Gwisgoedd: Eva Ott & Amy Barrett Coreograffwr Caroline Finn Adolygiadau “Mae Green House yn cadarnhau Finn fel un o’r artistiaid mwyaf disglair sy’n gweithio yng Nghymru heddiw” - Wales Arts Review “Comedi sefyllfa arddulliedig a swrrealaidd wedi ei gosod yn y chwedegau” - Arts Scene in Wales "Daeth fy ysbrydoliaeth gychwynnol ar gyfer The Green House o’r syniad o docio. Rwyf wedi bod yn ymwybodol ers sbel o sut y gallwn fynd drwy gyfnodau lle cawn ein hunain yn 'tocio' ein bywydau – naill ai drwy fynd ati i dorri pethau i ffwrdd yn weithredol neu drwy dderbyn mudiad naturiol y pwysau diangen. Er bod hyn weithiau’n broses allai ein gadael yn teimlo ar goll, yn unig ac yn agored i niwed, yn sicr y tocio gofalus hyn ar ein bodolaeth yw beth sy’n rhoi’r potensial i ni ffynnu a thyfu mewn gwirionedd. Roeddwn am archwilio’r broses gyda’r dawnswyr - sut/beth y gallwn ei docio, sut mae’n effeithio arnom ni, a beth allwn ni ddatblygu i fod o ganlyniad. Yn groes i Folk, fy narn blaenorol ar gyfer y cwmni, roeddwn yn awyddus i sefydlu lleoliad eithaf domestig ar gyfer The Green House. Roeddwn hefyd am ddod o hyd i ffordd o adlewyrchu’r profiad o deimlo wedi ymddieithrio dros dro o’n bywyd ein hunain - mwy fel gwyliwr na chyfranogwr gweithredol. Fe wnaeth Joe Fletcher a minnau gasglu llawer o ysbrydoliaeth gan artistiaid, awduron a gwneuthurwyr ffilmiau eraill, yn enwedig Sandy Skoglund, Francesca Woodman a David Lynch. Y canlyniad yw set deledu comedi swreal ac od y mae’r cymeriadau’n byw ynddo wrth iddyn nhw docio a thyfu. Teimlaf y bydd yr awyrgylch hwn, wedi’i gyfuno gyda natur theatrig y darn wir yn galluogi cynulleidfaoedd i ddod mewn i fy myd a mynd ar daith gyda chymeriadau’r dawnswyr, gan ddarganfod delweddau neu straeon y gallant uniaethu â nhw.” - Caroline Finn Galeri