Dancer with bright green costume
National Dance Company Wales

Ludo

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
30 munud

Dawns ddoniol a thywyll ag egni uchel am bwysigrwydd chwarae.

 

Fel oedolion, anaml y byddwn yn gwneud amser i chwarae, mae Ludo yn eich gwahodd i ailddarganfod llawenydd plentyndod a gwefr chwarae gemau.
Newidiwch eich swydd arferol am y bocs gwisgoedd a dianc i fyd llawn meysydd chwarae rhyfeddol a dychymyg gwyllt, di-ben-draw.

Yn teithio fel rhan o
Folk image, 2 dancers, 1 leaping into the air

Teithio rhyngwladol

Dysgwch fwy am berfformiadau rhyngwladol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Tîm Creadigol

Cynllunio’r Set a’r Goleuo: Joseff Fletcher
Dylunio Sain a Chyfansoddwrr: Charlie Knight
Dylunio Gwisgoedd: Rike Zöllner
Gwneuthurwr Gwisgoedd: Elizabeth Catherine Chiu 
Cerddoriaeth: ‘Glemmer Du’ gan Agnes Obel,
‘Piano Trio No. 2 in E-Flat Major’ gan Op. 100,
‘D. 929: II. Andante con Moto’ gan Franz Schubert
‘Circular Translation’ gan Christophe Zurfluh, ‘Chaplin Nonsense Song’ gan Vagabond Opera, ‘Tovaritch Waltz’ gan Piotr Moss,
 ‘Masks’ gan Meredith Monk,
 ‘Ludo’ gan Charlie Knight,
 ‘Agua De Beber’ gan Antônio Carlos Jobim

“Mae Ludo yn gwahodd cynulleidfaoedd i fydysawd hiraethus, ac unig nod y cymeriadau yw chwarae! Rydym yn ymgymryd â meddwl ystrywus oedolion a gemau pŵer, rydym yn ail-ymweld â chwarae dychmygol, rhyfeddol a mwy digymell ac yn ymgolli yn natur gorfforol ac anifeilaidd chwaraeon a gemau maes chwarae... Rwy’n gobeithio y byddwch yn cael eich ysbrydoli gan Ludo i ystyried rôl chwarae yn eich plentyndod, ac efallai sut mae hynny wedi newid wrth ichi dyfu i fod yn oedolion. A ydych chi wedi canfod ffordd o ddal gafael ar ‘chwarae’ wrth i chi dyfu i fyny?!” Caroline Finn

Coreograffwr

Caroline Finn

Caroline Finn smiling

Caroline Finn

Wedi’i geni yn Lloegr, mynychodd Caroline Finn yr Arts Educational School, Tring ac yna Juilliard School Efrog Newydd. Fel dawnsiwr, roedd Caroline yn aelod o Ballett Theatre Munich, Ballet Preljoca a Compagnie Carolyn Carlson. Fel coreograffydd, mae Caroline wedi cyflwyno ei darnau ledled y byd, ac wedi ymgymryd â gwaith coreograffi ar gyfer cwmnïau fel National Ballet of Chile, Bayerisches Junior Ballet München, Ballettheater München, Tanz Luzerner Theater a VERVE. Enillodd Wobr Coreograffydd Anturiaethau Newydd Matthew Bourne 2014, ac yna cafodd ei chomisiynu i greu Bloom ar gyfer Phoenix Dance Theatre.

Caroline oedd Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru rhwng 2015-2017, ac yn ystod yr amser hwnnw, creodd 4 darn newydd ar gyfer y cwmni, gan gynnwys Folk, a enillodd y teitl Artist Benywaidd Gorau iddi. Yn 2018, daeth yn Goreograffydd Preswyl i barhau â’i gwaith gyda’r Cwmni. Caroline oedd coreograffydd a chyd-gyfarwyddwr cyd-gynhyrchiad CDCCymru, Passion, gyda Music Theatre Wales, a gafodd ei enwi yn 10 Perfformiad Clasurol Gorau 2018 (The Guardian). Mae Caroline hefyd wedi gweithio ag Opera Genedlaethol Cymru a Drottningholm Palace Theatre, Stockholm, ac mae hi’n addysgu ac yn ymgymryd â gwaith coreograffi mewn conservatoires a phrifysgolion ar draws y byd. Yn un o sylfaenwyr Cie La Ronde (CH), mae hi’n byw yn Zurich ac yn aelod o Tanztendenz München e.V.

Adolygiadau

"a fabulously playful piece"

Get The Chance - Gwyneth Stroud

"fascinating and completely mad"

Get The Chance - Simon Kensdale

"The dancers really come into their own, facial expressions also being of the utmost importance in this fun filled, child like spectacle"

Get The Chance - James Ellis

Galeri
Two dancers in suits and yellow cravats lean over a table, one forces the other to eat jam
one dancer is wrapped around another shoulders, she bites his hand, her feet near his shoulder
a circle of park benches on wheels and a dancer arching in the centre as they spin around her
a dance in white underwear reaches forward her leg kicking out behind.