4 dancers under spotlights

Myfyrwyr Prifysgol De Cymru i berfformio dawns glodfawr mewn partneriaeth â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Mae'r dosbarth cyntaf i raddio ar y cwrs BA Anrhydedd mewn Dawns ym Mhrifysgol De Cymru wedi ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i gynhyrchu a pherfformio Omertá gan Matteo Marfoglia.

Crëwyd Omertá gan Artist Cyswllt CDCCymru, Matteo Marfoglia, yn 2014 ar gyfer Alternative Routes - sef sioe gan CDCCymru sy'n cefnogi coreograffwyr addawol. Ers hynny mae wedi cael ei pherfformio ar hyd a lled y byd. Yn 2017, penderfynodd y cwmni cenedlaethol ddod ag Omertá yn ôl i'r prif repertoire teithio, ac mae myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru nawr yn ei dysgu er mwyn ei pherfformio fel rhan o'u sioe arddangos ar gyfer eu seremoni raddio.

Mae Omertà yn ddarn tywyll a rhyddhaol ynghylch rôl merched yng nghymdeithas Maffia yr Eidal. Mae'r ddawns yn adrodd stori am orthrwm, y llwybr at ryddid a'r dasg anodd o ddatgelu'r gwirionedd.

Mae'r bartneriaeth rhwng Dawns Prifysgol De Cymru a CDCCymru yn dathlu'r dosbarth sy'n graddio a llwyddiant y cwrs newydd.

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn hynod falch fod Prifysgol De Cymru yn ychwanegu at gyfleoedd hyfforddiant dawns yng Nghymru drwy ddarparu'r cwrs BA Anrhydedd hwn. Mae'n gymhwyster yr oedd rhaid i ddawnswyr ifanc edrych y tu hwnt i'r brifddinas i'w wneud tan yn ddiweddar.

Dosbarth 2019 fydd y flwyddyn gyntaf o raddedigion. Dros y tair blynedd ddiwethaf maent wedi gweithio gydag amrywiaeth o artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol, gan berfformio mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru. Mae Prifysgol De Cymru yn dilyn model 'cwmni' arloesol wrth gyflwyno'r cwrs. Mae hyn yn datblygu'r dawnswyr i fod yn artistiaid a dinasyddion cytbwys.

Dywed Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ei bod hi'n wych cael gweithio mewn partneriaeth â dawnswyr ifanc mor weithgar a thalentog o Gymru; dawnswyr sydd wedi dod yn rhan werthfawr o fyd a llais dawns Caerdydd dros y tair blynedd ddiwethaf, a dywedant eu bod yn edrych ymlaen at weld gyrfaoedd y dawnswyr yn datblygu.

"Rwyf mor hapus o gael y cyfle i ddysgu a pherfformio repertoire gan CDCCymru fel myfyriwr israddedig. Ar ôl gwylio ei ymarferion agored ar gyfer y daith ddiweddar, a gweld y gwaith ar y llwyfan, rwy'n teimlo'n gyffrous iawn o gael y cyfle hwn." Charlotte Perkins, myfyriwr sydd ar fin graddio

"Rydym yn hynod ddiolchgar i CDCCymru a Matteo am wneud hyn yn bosib. Mae cael y cwmni dawns cenedlaethol mor agos i'n campws wedi bod yn ysbrydoliaeth i'n dawnswyr ac wedi eu hannog i ddysgu. O ymarfer agored i ddosbarth cwmni, sgyrsiau yn dilyn sioe, a gweithdai, mae CDCCymru wedi agor y drws i roi cipolwg ar yr agweddau niferus sy'n rhan o fod yn artist dawns proffesiynol. Bydd gweithio gyda Matteo i lwyfannu Omertà yn ffordd ragorol o ddathlu ein perthynas â CDCCymru a'n carfan gyntaf i raddio." Matthew Gough