CDCCymru yn Cyflwyno Tuplet gan Alexander Ekman Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 18 muned Mae Tuplet yn tour de force 18 munud o hyd sy’n gyflym ac yn llawn curiadau ar gyfer chwe dawnsiwr. Gan ddefnyddio sgôr a grëwyd mewn cydweithrediad ag ysgogiadau rhythmig y dawnswyr eu hunain a defnyddio eu cyrff unigol fel offerynnau taro, mae’r cyfansoddiad wedi’i integreiddio gyda cherddoriaeth electronig a gyfansoddwyd gan Mikael Karlsson. Tîm Creadigol Cynorthwywyr y Coreograffydd: Ana Lucaciu Dylunio Golau: A. Amith Chandrashaker Dylunio Gwisgoedd: Nancy Haeyung Bae Gwneuthurwr Gwisgoedd: Louise Edmunds Cerddoriaeth a Sain: Mikael Karlsson, yn cynnwys Fly Me To The Moon, wedi ei berfformio gan Victor Feldman o’r albwm Jazz at Ronnie Scott’s Coreograffwr Alexander Ekman Adolygiadau "deft entertainment that becomes something more clever and magical" - The Guardian "a frisky and frequently funny experiment in rhythm and percussion" - Dance Tabs "fun, humorous and fast-paced" - Buzz Magazine "Dwi wedi gweithio gyda rhythm mewn llawer o fy narnau … mae'n rhan enfawr o'm gwaith. Pan fyddaf yn gwneud darn rwyf am iddo fod ynghylch rhywbeth, pwnc neu gysyniad clir iawn, felly roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n amser neilltuo darn cyfan i rythm. Credaf mewn gonestrwydd ar lwyfan ac os yw dawnsiwr yn cael profiad ar lwyfan eu hunain... Rwyf yn ceisio gwneud i ddawnswyr gael mwy o brofiad yn hytrach na pherfformio’r gwaith. Rwy’n credu bod maint y cwmni (11 o ddawnswyr) yn creu awyrgylch gweithio hamddenol iawn, ac mae’n hwyl a phan fyddaf yn cael hwyl, rwyf yn creu’n dda ac rwyf eisiau creu, felly rwyf yn dechrau gwneud newidiadau ac mae’n dechrau dod yn fwy ffres....Bob tro y byddaf yn ail-leoli’r gwaith mae’n dod yn newydd oherwydd bod y dawnswyr yn y darn....dyna’r peth gorau, rwyf yn cael gweld yr un darn ond mae’n newid am ei fod yn fyw.” Alexander Ekman Galeri