dancing for joy in a sunlit street

Open Air performance

Rhaglen ddigidol

Rhaglen ddigidol am ddim ar gyfer ein Perfformiadau Awyr Agored ym mis Awst 2021

Cyflwyniad gan Paul Kaynes, Prif Weithredwr CDCCymru

Mae'n ofnadwy o gyffrous i fod yn perfformio unwaith eto, cael teithio o amgylch Cymru i gwrdd â'n cynulleidfaoedd a rhannu'r ddau ddarn o ddawns ardderchog yma. Gobeithio y byddwch yn cytuno eu bod yn ddelfrydol ar gyfer eu mwynhau yn yr awyr agored. Un o'r pethau gorau am y rhaglen hon yw ei bod yn dangos bod CDCCymru yn gwmni o goreograffwyr yn ogystal â dawnswyr, gan fod y ddau ddarn wedi'u creu gan aelodau'r o’r cwmni sef Ed Myhill a Faye Tan.

Mae gweithio gyda'r lleoliadau i gynllunio a llwyfannu'r perfformiadau hyn wedi gofyn am lawer o gydweithredu a gwaith caled. Rydym wedi mwynhau gweithio gyda'n ffrindiau a'n cydweithwyr yn Chapter yng Nghaerdydd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug a Chanolfan Pontio ym Mangor. Diolch i chi gyd: rydym yn rhannu eich ymroddiad a’ch ymrwymiad i gyflwyno perfformiadau byw ledled Cymru.

Hoffem hefyd dalu teyrnged i'n cyllidwyr - i Gyngor Celfyddydau Cymru, y mae ei gefnogaeth barhaus trwy’r pandemig Covid-19 wedi bod yn achubiaeth. A hoffem ddiolch yn ddiffuant i ymddiriedolwyr Sefydliad Garfield Weston am roi grant Cronfa Diwylliant Weston i CDCCymru a roddodd gefnogaeth hanfodol i ni i ddelio â’r heriau a achoswyd gan Covid 19 ac i'n helpu i ddychwelyd i berfformio byw sy'n dechrau gyda'r gwaith rydych chi'n ei weld heddiw.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau perfformiad heddiw. Os ydych chi’n mwynhau, beth am annog pobl eraill i brofi grym dawnsio byw?

Paul Kaynes signature

Amserlen heddiw!

Moving is everywhere, forever gan Faye Tan (17 munud)

Egwyl fer (10 munud) i'r dawnswyr newid eu gwisgoedd - manteisiwch ar yr amser hwn i ddarllen y rhaglen, neu adael ychydig o adborth i ni, peidiwch â mynd yn rhy bell!

Why Are People Clapping!? gan Ed Myhill (15 munud)

Dewch i ddawnsio! (15 munud) – cyfle i ddysgu ychydig o symudiadau o’r sioe, gallwch ddawnsio yn eich sedd neu’n sefyll yn eich ardal.

Cwrdd â’r dawnswyr: Joshua Attwood, Niamh Keeling, Ed Myhill, Aisha Naamani, Piers Sanders, Faye Tan, Marine Tournet and Tim Volleman
Joshua Attwood in striped t-shirt
Niamh Keeling in black turtleneck
Ed Myhill in black t shirt
Aisha Naamani in blue t-shirt
Piers Sanders in red jumper
Faye Tan in blue hoodie
Marine Tournet in teal jumper
Tim Volleman in blue sweater

Darllenwch eu bywgraffiadau yma

Cyfarwyddwr Ymarfer:
Charlotte Pook

Tîm Technegol:
Adam Cobley
Nick Allsop

A white male dancer jumps, balancing on one hand on the grass in yellow shorts and a maroon jacket and goggles

Moving is everywhere, forever 

Cafodd Moving is everywhere, forever ei greu yn 2021 i ddathlu'r rhyddid rydym ni'n ei deimlo wrth ddawnsio neu symud - teimlad a all ddigwydd yn unrhyw le, i unrhyw un ac nad yw'n gyfyngedig i lwyfannau na chlybiau nos.
Mae heddiw yn wahoddiad i golli eich hun yn symudiad hypnotig y dawnswyr gan fod y gerddoriaeth a grëwyd yn arbennig gan Larch yn darparu adrenalin di-stop a fydd yn gwneud i’ch calon chi guro mewn pryd i’r siwrnai wefreiddiol hon o rythm a llawenydd.

Coreograffi: Faye Tan
Cerddoriaeth: Larch
Gwisgoedd: Deryn Tudor
Dylunio Set: Faye Tan

“Mae Moving is everywhere, forever yn dathlu teimladau o ryddid, bytholrwydd, catharsis, cysylltiad, derbyniad, heddwch a'r holl deimladau annisgrifiadwy eraill sy'n dod o fod yn y foment pan rydym yn dawnsio a symud.
Roeddwn i eisiau gwahodd cynulleidfaoedd i brofi realiti lle nad yw'r weithred hon o symud byth yn stopio, ac mae'r darn hwn yn awgrymu y gall y realiti hwn fodoli yn unrhyw le, ar unrhyw adeg.
Mae gogoniant ‘am byth’ yn golygu nad oes yna ddechrau i’r profiad hwn, ac ni fydd byth yn dod i ben chwaith.

Mae'r darn hwn yn teimlo fel cydweithrediad enfawr gyda llawer o bobl, gyda'i gamau cynharaf o ymchwil yn dechrau yn 2018.

Hoffwn ddiolch yn arbennig i Richard Chappell, Charlotte Pook, Ben Wright, Perla Ponce, Adam Cobley a Chew Shaw En yn ogystal â dawnswyr CDCCymru am eu mewnbwn creadigol i'r darn hwn ar wahanol gamau mewn gwahanol ffyrdd, ac i Takako Hasegawa y cafodd ei eiriau doeth eu gwehyddu'n serendipaidd i gerddoriaeth Larch ar gyfer y darn hwn."

Faye Tan

Gwyliwch ein cyfweliad fideo isod gyda Faye i glywed am greu dawns ar gyfer lleoliadau awyr agored

Tra bod ein dawnswyr yn paratoi ar gyfer yr act nesaf, dywedwch wrthym beth yw eich barn hyd yn hyn.

Neu fe allech dynnu llun ohonoch chi'ch hun neu'r sioe a’i drydaru, neu ei bostio ar Instagram neu Facebook a’n tagio @ndcwales a rhannu llawenydd dawns fyw

Gallech hefyd gymryd yr amser hwn i ymuno â’n rhestr bostio neu wneud rhodd i’n helpu i barhau i ddawnsio trwy decstio’r gair ‘CDCCymru’ wedi’i ddilyn gydag unrhyw rif rhwng 1 ac 20 (£ 1-20), i 70085.

dancer Matt has his hands in the air grinning with his tongue out

Why Are People Clapping!?

Cafodd Why Are People Clapping!? ei greu yn 2018 ac ers hynny mae wedi bod ar daith ledled Cymru ac wedi dod yn un o ffefrynnau’r cefnogwyr. Yn ystod y cyfnod clo daeth yn un o'r darnau dawns cyntaf yn y wlad i gael ei ail-greu yn benodol ar gyfer Zoom, a gallwch ei wylio o hyd yma, a fe'i defnyddiwyd hyd yn oed fel ysbrydoliaeth ar gyfer y ffilm ddawns fendigedig hon gan aelodau o’n grŵp Dawns ar gyfer Parkinson's
Mae synnwyr digrifwch Ed yn glir yn y ddawns hon yn ogystal â’i werthfawrogiad o gerddoriaeth bywyd - gellir dod o hyd i rythm mewn gêm dennis, ôl traed mewn stryd wag ac yng nghuriad ein calonnau ein hunain - a gall dawns gael ei hysbrydoli gan yr angerdd hwnnw am fywyd, o dapio bysedd eich traed i’r ffordd y mae ein llygaid yn culhau pan fyddwn ni'n gwenu.

Coreograffi: Ed Myhill
Dylunydd Gwisgoedd: Elin Steele
Dylunio Sain: Benjamin Smith
Cerddoriaeth: The Tennis gan Max Peltier, The Drone gan Benjamin Smith, Clapping Music gan Steve Reich

Gwyliwch ein cyfweliad fideo isod gydag Ed i glywed am addasu Why are People Clapping?! ar gyfer lleoliadau awyr agored

Os gwnaethoch chi fwynhau Why are People Clapping!? gallwch fynd ar-lein yn nes ymlaen i fwynhau ein gweithdy dawns am ddim i deuluoedd dan arweiniad y coreograffydd Ed Myhill.

Os oes gennych 5 munud i'w sbario, byddem wrth ein bodd yn clywed mwy o'ch meddyliau, llenwch ein harolwg ar ôl y sioe cyn 17 Medi i gael cyfle i ennill Talebau Not On The Highstreet igh Street vouchers gwerth £50

Llenwi’r arolwg

Rhannwch y cariad:

Yn lle dweud wrth eich ffrindiau faint wnaethoch chi fwynhau heddiw, gallwch ddangos iddynt!
Gwyliwch y fersiwn ddigidol o’r sioe hon dros ZOOTV o 18-29 Awst am £5 yn unig.

zoo tv logo an old vhs tape

Chwarae eich rhan:

Diolch am brynu tocyn heddiw a chefnogi CDCCymru. Fel elusen, rydym yn dibynnu ar gefnogaeth ein cynulleidfaoedd i'n helpu i ddod â llawenydd dawns i bob math o bobl ym mhob math o leoedd, o neuaddau tref a lleoliadau cymunedol, i lwyfannau a gwyliau rhyngwladol. Eleni rydym hefyd wedi gorfod addasu i effaith Covid 19 trwy ehangu ein cynnig ar-lein.

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth, o roi rhodd fach i ni neu ymuno â'n cynllun cefnogwyr Lifft, i'n cysylltu â'ch siopa ar-lein. Bydd unrhyw roddion bach neu fawr, yn helpu i gefnogi dyfodol CDCCymru.

Piers blows a kiss in a red sequin jacket and white dress gloves

Eisiau mwy?
I weld cyfleoedd i ddawnsio'ch hun, edrychwch ar ein gwaith ymgysylltu ac allgymorth neu os hoffech gael manylion am gyfleoedd gwirfoddoli gallwch ymweld â'n gwefan.


Dawnsio gyda’n Gilydd:

Cyfres o ddosbarthiadau ar-lein ar gyfer bob oed a gallu
Dawns ar gyfer Parkinson's: Dosbarthiadau wyneb yn wyneb a rhithiwr ar gyfer rhai sy’n byw gyda Parkinson’s


Gwirfoddoli:

Pa un a ydych am ein helpu gyda'n dosbarthiadau Parkinson's, ein gwaith teithiol, ein gwaith allgymorth lleol neu y tu hwnt, cofiwch gysylltu.


Gwylio gyda’n Gilydd:

Mwy o ddawns i’w wylio o gysur eich cartref, y traeth, y swyddfa - yn unrhyw le bron!

Gyda diolch i:  

Garfield Weston Foundation

Welsh Government

Arts Council Wales