Dawnswyr

Artistiaid Ymgysylltu

Rydym ni’n gweithio gyda nifer o artistiaid ymgysylltu a dawns llawrydd ledled Cymru.

Dawnswyr

A hithau’n wreiddiol o Dde Cymru, bu Alys yn hyfforddi yn Tring Park School for the Performing Arts. Graddiodd yn 2016 gydag arbenigedd mewn balet clasurol. Yna symudodd i Bologna, yn yr Eidal i astudio am flwyddyn arall gyda Art Factory International. Yn 2022, cafodd Alys Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Celfyddydau a’r Diwydiannau Creadigol o Brifysgol Middlesex.

Dawnswyr

Yn wreiddiol o Lundain, cefais fy magu yn Leeds lle dechreuais ddawnsio. Yn ddiweddarach, es ymlaen i hyfforddi yn Hammond School yng Nghaer cyn mynd ymlaen i astudio'n llawn amser yn y Rambert School of Ballet and Contemporary Dance. Ymunais â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel prentis yn 2015 ac ers hynny rwyf wedi bod yn dawnsio'n llawn amser gyda'r cwmni. Rwyf wedi teithio'n eang ar draws y DU ac yn rhyngwladol, gan berfformio gweithiau gan Alexander Ekman, Roy Assaf, Caroline Finn, Johan Inger, Fernando Melo a Marcos Morau ymhlith eraill.

Dawnswyr

Rwy'n dod o Singapore a chefais fy hyfforddi yn Singapore Ballet Academy, School of The Arts Singapore, Rambert School a VERVE (Cwmni perfformio ôl-raddedig y Northern School of Contemporary Dance). Roeddwn yn ddawnsiwr cwmni yn Frontier Danceland (Singapore) am dair blynedd, cyn ymuno â CDCCymru yn haf 2019. Rwyf wedi perfformio gwaith gan amrywiaeth o goreograffwyr, gan gynnwys  Shahar Binyamini, Marcos Morau, Alexandra Waierstall, Caroline Finn, Andrea Costanzo Martini, Anton Lachky, Nigel Charnock a Richard Chappell. Rwyf wedi creu ffilmiau dawns sydd wedi cael eu dangos mewn gwyliau ffilm yn y DU ac yn Singapore, ac rwyf wedi cael fy nghomisiynu i goreograffu gwaith ar gyfer School of The Arts Singapore, Frontier Danecland, CDCCymru, VERVE, Rambert School a The Centre for Advanced Training. Mae fy ngwaith addysgol a gwaith allgymorth yn y maes dawns yn cynnwys hwyluso rhaglenni hyfforddiant ieuenctid fel rhaglen Pulse Frontier Danceland, a rhaglen Aelodau Cyswllt CDCCymru, yn ogystal â chymryd rhan mewn gwaith ymgysylltiad cymunedol gyda Richard Chappell Dance.

Dawnswyr

Astudiais yn School of The Arts (SOTA) Singapore cyn mynd ar hyfforddiant galwedigaethol llawn amser yn y New Zealand School of Dance yn Wellington, Seland Newydd, lle cefais y pleser o berfformio mewn gweithiau gan Amber Haines, Sarah Foster-Sproull, Michael Parmenter a Hofesh Shechter. Ar ôl graddio, gweithiais gyda Humanhood Company o 2018 i 2019, gan berfformio yn eu darn grŵp cyntaf, ‘Torus’. Ar ddechrau 2020, ymunais â Shechter II, ar daith ‘Political Mother: Unplugged’ o amgylch Ewrop yn nhymor yr hydref/gaeaf 2021.

Dawnswyr

Cefais fy ngeni yn Perth, Gorllewin Awstralia a dechreuais hyfforddi’n llawn amser fel dawnsiwr yn yr Australian Ballet School yn Melbourne. Wedi hynny, bu i mi gwblhau 3 blynedd o astudio yn y New Zealand School of Dance fel arbenigwr cyfoes.

Myfyriwr Lleoliad Gwaith Proffesiynol

Yn enedigol o Fryste, dechreuais fy nhaith dawnsio cyfoes gyda Rise Youth Dance yn 2016. Yna ymunais â’r National Youth Dance Company yn 2021 a chael y fraint o weithio gyda Alesandra Seutin. Y flwyddyn wedyn, dechreuais radd BA yn y Northern School of Contemporary Dance yn Leeds. Yn ystod fy amser yno, perfformiais waith gan Ella Mesma, Carlos Pons Guerra a Joseph Toonga a chael cyfleoedd hefyd i weithio gyda chwmni Hofesh Shechter, Dalton Janson a Komoco.

Myfyriwr Lleoliad Gwaith Proffesiynol

Dechreuais fy hyfforddiant dawnsio llawn amser yn Tring Park School for the Performing Arts cyn mynd i astudio yn y London Contemporary Dance School, a graddio gyda BA Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Yn ystod fy astudiaethau, bum yn ddigon ffodus i weithio gyda choreograffwyr a chwmnïau fel Holly Blakey, Richard Alston, Boy Blue, English National Ballet a New Creations Collective. Rwy’n edrych ymlaen gymaint at y cyfle i ymuno â CDCCymru yn rhan o Gynllun Lleoliad Proffesiynol CDCCymru eleni.