Associates performing Taboo by Caroline Finn

PARTNERIAETHAU Â PHWRPAS

Yn CDCCymru, mae pwrpas go iawn i'n partneriaethau busnes. Rydym yn gwrando ar ein partneriaid er mwyn deall eu blaenoriaethau, fel y gallwn gydweithio yn y ffordd orau i ddatblygu partneriaethau creadigol, effeithiol sy'n seiliedig ar werthoedd ac amcanion strategol cyffredin.

Os ydych eisiau gwybod mwy ynghylch ffurfio partneriaeth â CDCCymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych! Cysylltwch â Becky Wright becky@ndcwales.co.uk.

 

Drwy weithio mewn partneriaeth â CDCCymru, mae Western Power Distribution (WPD) wedi gallu cymryd rhan mewn rhaglen greadigol a chofiadwy sydd wedi helpu'r busnes i gyflawni ei amcanion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Mae'r bartneriaeth wedi rhoi'r cyfle i WPD gyrraedd ei gwsmeriaid agored i niwed a hyrwyddo ei Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.  Mae arbenigedd CDCCymru wedi bod yn amhrisiadwy, ac maen nhw wedi darparu partneriaeth gelfyddydol gref gyda buddion pendant.

Karen Welch, Western Power Distribution

WPD staff taking part in a session

“Mae gofal cymdeithasol, a effeithwyd ymhellach yn sgil Covid 19, dan bwysau enfawr, ac yn cael ei gefnogi gan brofiad uniongyrchol Cartrefi Cymru o gefnogi eu gweithlu mawr. Mae ei staff wedi parhau i ddangos teyrngarwch, dygnwch a chreadigrwydd drwy gydol y cyfnod hwn a cheisiodd y prosiect ddathlu eu hymrwymiad, gyda ffocws ar eu llesiant a chael sbort.”   

Cartrefi Cymru Cooperative Limited 

 

Mwy...

Group of dancers arms wrapped around central dancer