Archebu CDCCymru yn Cyflwyno Gwyliwch Ddosbarth Dawns CDCCymru yn agor y drysau i ddosbarth y Cwmni gyda digwyddiad Gwylio Dosbarth y Cwmni. Dewch i cael cip unigryw y tu ôl i’r llen ar y ffordd y mae ein dawnswyr yn paratoi oriau yn unig cyn iddynt lwyfannu sioe. Medrwch wylio, sgetsio llun, recordio a chreu ffotograff o’r dosbarth bale ynteu ddawns gyfoes, a chael cip ar fywyd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Profiad perffaith ar gyfer myfyrwyr dawns, artistiaid, ffotograffwyr ac yn wir unrhyw un arall sy’n diddori yn y Cwmni a chael cip y tu ôl i’r llenni. Ehangwch eich portffolio, ymarfer darlunio symud ynteu wylio a meithrin eich diddordeb. Cynhelir digwyddiad Gwylio Dosbarth Dawns yn ystod ein taith yn yr Hydref. Sgroliwch i lawr i weld pryd y cynhelir ein cyfle nesaf i Wylio Dosbarth Dawns. Os nad oes unrhyw ddyddiadau – dewch yn ôl i’r dudalen rywbryd eto. Os hoffech chi archebu sesiwn breifat ar gyfer Gwylio Dosbarth Dawns, e-bostiwch megan@ndcwales.co.uk Watch Dance Class responses 2022 1. Aisha Naamani by Lonnie Morris - Aberystywth Arts Centre 2022 2. Dancer sketches by Julia Allen - Sherman Theatre Cardiff 2022 3. Dancer sketches by Anna Polya - Sherman Theatre Cardiff 2022 4. Dancer sketch by Anna Ives - Sherman Theatre Cardiff 2022 5. Dancers leaping at Derby Theatre 2022 by Roger Prescote 6. Faye Tan series at Derby Theatre 2022 by Bernard Beech 7. Dancer sketch Jo Blaker, Lawrence Batley Theatre Huddersfield 2022 8. Dancer's feet by Cath Muldowney, Lawrence Batley Theatre Huddersfield 2022 9. Dancer sketch Steve White,Theatre Severn, Shrewsbury 2022 10.Victoria Roberts by Richard Taylor teaching at Lawrence Batley Theatre Huddersfield 2022 Yn digwydd Abertawe Taliesin Dydd Iau 3 Hydref 2024, 13:00 Archebwch Nawr Llundain The Place Dydd Mawrth 8 Hydref 2024, 13:00 Archebwch Nawr