Homepage
Ewch i'r Tŷ Dawns
Ein cartref ar gyfer dawns ddigidol. Cysylltwch â ni o unrhyw le yn y byd ar gyfer perfformiadau, dosbarthiadau ac adnoddau rhithwir.
Rydym yn gweithio gyda chymunedau yng Nghymru a thu hwnt, gan ysbrydoli pobl o bob oed i wylio a chymryd rhan mewn dawns.
Gweithdai, dosbarthiadau dawns, sgyrsiau ar ôl sioeau neu ein gwylio ni’n ymarfer. Ewch i ddarganfod sut y gallwch ymuno â ni ar daith, yn ein cartref yn y Tŷ Dawns neu yn ein cymunedau.
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu gwaith dawns gwych gyda phob math o bobl, ac ar gyfer pob math o bobl o wahanol lefydd. Rydym yn dawnsio dan do, yn yr awyr agored ac ar-lein.