Parade

Swyddi a Gwirfoddolwr

Ed holding a manequin

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yw un o gwmnïau celfyddydol cenedlaethol Cymru. Rydym yn gweithio gyda choreograffwyr eithriadol wedi’u lleoli yn y DU ac yn rhyngwladol i ymgysylltu ac ysbrydoli cynulleidfaoedd a chyfranogwyr ledled Cymru, y DU yn ehangach ac yn rhyngwladol. 

3 people looking at a piece of paper

Buddion i Weithwyr

Mae eich iechyd a llesiant yn bwysig i ni, yn ogystal â chynllun pensiwn a gwyliau hael, caiff ein gweithwyr eu cefnogi hefyd drwy gynllun hyfforddi a datblygu. Rydym yn cynnig amgylchedd gweithio hyblyg, mae gan weithwyr fynediad at sesiynau tylino chwaraeon am brisiau is yn ogystal â dosbarthiadau yn y Tŷ Dawns, gan gynnwys ioga.

  • Cynllun beicio i’r gwaith
  • Polisïau i gefnogi pobl gyda chyfrifoldebau gofalu
  • Gostyngiadau mewn rhai siopau ym Mae Caerdydd
  • Y cyfle i fynychu perfformiadau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
  • Cynigion arbennig i staff ar berfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm CymruWe are a living wage employer

Rydym yn ymrwymedig i’n polisi cyfleoedd cyfartal. Addasrwydd i ymgymryd â’r swydd yw’r prif faen prawf y byddwn yn ei ystyried wrth ddewis. Er mwyn i ni allu monitro ein polisi, a fyddech cystal â chwblhau’r holiadur canlynol. 

 

Cofrestrwyd fel Cwmni Cyfyngedig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 1672419

Cofrestrwyd fel Elusen yng Nghymru a Lloegr, Rhif 326227

Teitl Dyddiad cau
Dance for Parkinson's Wirfoddolwyr N/A Darllenwch fwy