child lifted in the air by dancers

Cynllun Cefnogwyr Lifft

Cefnogwch Lifft a dewch yn rhan o'n stori.

Gall eich cyfraniad i CDCCymru helpu i wneud i bethau rhyfeddol ddigwydd. O ddod â bydoedd newydd yn fyw ar y llwyfan i helpu i wella symudedd a llesiant pobl, a meithrin dawn greadigol pobl ifanc. Drwy gefnogi Lifft, gallwch chwarae rhan bwysig yn ein stori ac ymuno â chymuned o bobl sy'n credu yng ngrym dawns i newid bywydau.

Dyma rai enghreifftiau o'r straeon hyd yma...

Fel un o gefnogwyr Lifft, cewch weld drosoch chi'ch hun y gwahaniaeth mae eich cyfraniad yn ei wneud drwy ein gohebiaeth reolaidd, a manteisio ar gyfleoedd arbennig i weld y tu ôl i'r llenni. Pa bynnag lefel o gefnogaeth a ddewiswch, gallwn eich sicrhau y bydd eich cyfraniad i CDCCymru yn mynd tuag at ddod â llawenydd dawns i fywydau pobl - ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan.

The joy of dancing with friends

Fe wnaeth cymydog imi dynnu fy sylw at y dosbarthiadau Dawns ar gyfer Parkinson's. Doeddwn i ddim yn siŵr o gwbl, ond [...] ar ôl dechrau, roeddwn i'n edrych ymlaen at y diwrnod bob wythnos: roedd yr amrywiaeth o ddawns, cerddoriaeth, llais, canu, hiwmor yn gwneud iddo deimlo'n gyfannol. Roedd y tiwtoriaid yn galonogol ac roedd y sgyrsiau grŵp yn hyfryd. Yn ystod y cyfnod clo a phan oeddwn i'n hunanynysu, roedd yn un o'r cysylltiadau cymdeithasol prin iawn roeddwn i'n eu cael. A llwyddais i wneud symudiadau ac ystumiau corfforol yr oeddwn i'n meddwl eu bod yn amhosib cyn imi ymuno.

Un o Gyfranogwyr Dawns ar gyfer Parkinson's

 

Roedd fy mlwyddyn o brofiad gwaith gyda CDCCymru yn brofiad hynod werthfawr. Bu'n help imi ddatblygu fel dawnsiwr ac fel person. Fe roddodd imi fwy o hyder ynof fi fy hun, fy llais artistig a fy nawn greadigol [...], ac fe'm helpodd i ddeall sut mae bywyd cwmni'n gweithio, o fywyd dawnsiwr o ddydd i dydd i ddatblygu perthnasoedd o fewn tîm. Fy nyheadau ar gyfer y dyfodol yw parhau i dyfu a datblygu fel artist, ac ehangu ymhellach ar fy sgiliau a'm gwybodaeth yn y byd rhagorol hwn.

Niamh Keeling, Myfyrwraig Profiad Gwaith Proffesiynol

Niamh performing with the Company outdoors

Lifft 1 - Dewch yn rhan o'n stori, yn dechrau o £30 y flwyddyn 

Lifft 2 - Codwch y bar yn dechrau o £60 y flwyddyn 

Lifft 3 - Ewch â ni i uchelfannau newydd yn dechrau o £180 y flwyddyn