CDCCymru yn Cyflwyno Sgyrsiau Ar Ôl y Sioe Bydd sgyrsiau’n cael eu cynnal ar ôl y rhan fwyaf o berfformiadau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a gellir mynychu’r rhain am ddim. Ymunwch â ni i drafod y broses greadigol gyda choreograffwyr, dawnswyr ac arbenigwyr o’r diwydiant. Mae sgyrsiau ar ôl perfformiadau yn ffordd wych o gysylltu gyda’n dawnswyr a’n hartistiaid - gan roi mewnwelediad i’r darnau yr ydych newydd eu gwylio, yn ogystal â chyfle i ofyn unrhyw gwestiynau posibl am y gwaith, y Cwmni neu fywyd fel dawnsiwr. Hoffech chi wybodaeth mwy am y darnau? Cymerwch olwg ar ein rhestr chwarae gefn llwyfan ddiweddaraf ar youtube i ddysgu am sut y caiff ein darnau eu creu o’r dechrau i’r diwedd.