June Campbell-Davies and Osian Meilir
CDCCymru yn Cyflwyno

Artistiaid Cyswllt

Dros ddwy flynedd, bydd yr Artistiaid Cyswllt yn ymgysylltu â'r cwmni ar nifer o brosiectau ar draws ardaloedd, ac mae'r cwmni yn ymrwymo i gefnogi'r artistiaid sydd wedi'u dewis i ddatblygu eu prosiectau annibynnol eu hunain.  

Gyda'i gilydd, bydd yr Artistiaid Cyswllt a Chyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Matthew Robinson, yn datblygu rhaglen unigryw o gymorth sy'n manteisio ar adnoddau'r cwmni, yn ystyried diddordebau'r artist, ochr yn ochr â gwerthoedd a blaenoriaethau strategol y cwmni - y nod yw rhannu gwybodaeth, magu dealltwriaeth, a gweithio gyda'n gilydd i hyrwyddo dawns fel ffurf ar gelfyddyd.  

Left: June Campbell-Davies (Llun: Ffion Campbell-Davies)
Right: Osian Meilir (Llun: Anest Roberts)

June Campbell-Davies 

Mae June yn ddawnsiwr, coreograffydd ac Artist Carnifal sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Wedi'i hyfforddi yn y Laban Centre for Movement & Dance yn Llundain, mae ei phrofiad o weithio gyda Moving Being Mixed Media Theatre Company yn gynnar yn ei gyrfa dan gyfarwyddyd Geoff Moore, Dance Wakesm Striking Attitudes dan Caroline Lamb wedi gadael argraff barhaus arni ac wedi dylanwadu arni gydol ei gyrfa. Mae wedi gweithio yn addysgu myfyrwyr addysg uwch yn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac ar gwrs dawns llawn amser a rhaglen estyn allan Rubicon Dance. Ers dechrau SWICA (South Wales Intercultural Carnival Arts) yn 2015, mae ei phrofiad o ymgynghorydd a hwylusydd mewn Celfyddydau Carnifal wedi arwain at gydweithrediadau newydd gyda Carnifal Butetown/Eisteddfod 'Carnifal y Môr' a rhaglen ymgysylltu â pherfformiad Canolfan Mileniwm Cymru.' 

Dychwelodd June i'r theatr gyda chynhyrchiad National Theatre Wales o Lifted gan Beauty/Adventures in Dreaming yn 2016, prosiect ar safle penodol yn Rhyl, gogledd Cymru, a darn theatr yn yr awyr agored yn rhan o Brosiect yr Afon Gwy 'The Water Ones' ar y cyd â phâr wedi'u lleoli ym Mryste, “Desperate Men.” 

Hyd heddiw mae June ynghlwm â sawl sefydliad a phrosiect llai, yn arwain sesiynau symudedd ochr yn ochr â hwyluswyr eraill ar gyfer y tîm Breathe Creative dan Gyfarwyddyd Alex Bowen yn canolbwyntio ar y celfyddydau a llesiant ar gyfer eu rhaglenni estyn allan. 

Ar gyfer Côr Un Byd Oasis – sefydliad newydd sbon – mae'n gwirfoddoli i arwain sesiynau rheolaidd o fewn rhaglenni'r Ganolfan Oasis, yn arwain sesiynau symudedd ochr yn ochr â'r Gantores a'r Cyfansoddwr Caneuon Laura Bradshaw a Tracy Pallant, Gwneuthurwr Ffilmiau a Gweinyddwr ar gyfer Ceiswyr lloches a Ffoaduriaid. 

Ar gyfer Artes Mundi 9 mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, comisiynwyd June i greu darn hirfaith ar safle penodol, sef "Sometimes We're Invisible" a gafodd ei greu a'i ffilmio yn 2020 ar gyfer eu rhaglen Lates. 

Ar hyn o bryd, mae June yn un o sawl cydweithiwr sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r canwr-cyfansoddwr caneuon Seun Babatola ar gyfer cyweithiau eleni rhwng CDCCymru/Tŷ Cerdd / Panel Ymgynghorol Is-Sahara Plethu: affricerdd. 

Osian Meilir 

Mae Osian Meilir yn berfformiwr, creawdwr dawns ac artist symudedd wedi'i leoli yng Nghymru. Ac yntau'n wreiddiol o Bentre'r Bryn, ar arfordir gorllewinol Cymru, aeth Meilir ymlaen i dderbyn hyfforddiant yn Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance, gan ennill gradd mewn Dawns Gyfoes, cyn parhau i astudio a chwblhau gradd M.A. mewn Perfformio Dawns fel rhan o Transitions Dance Company.  

Mae gwaith Meilir fel perfformiwr yn golygu eu bod wedi cael cyfle i weithio gydag amrywiaeth o artistiaid a chwmnïau ledled y DU, megis Lizzi Kew Ross & Co, Gwyn Emberton Dance, Satore Tech a Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae gwaith Meilir hefyd yn ymestyn i'r theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc, yn perfformio mewn gweithiau gan Cahoots NI a Birmingham Repertory Theatre, yn teithio ledled y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â'u gwaith unigol eu hunain ar gyfer Cwmni Theatr Arad Goch - Palmant / Pridd. Aethant ati i gynnal ei gynhyrchiad cyntaf ar raddfa ganolig sef 'Qwerin', fel cyfarwyddwr a choreograffydd yn 2021 ac mae ganddynt hefyd brofiad helaeth o arwain gweithdai a dosbarthiadau ar gyfer plant a phobl ifanc.  

Mae profiadau cynnar iawn a chefndir Meilir o ddawns werin Gymreig wedi arwain at eu gwerthfawrogiad o ddawns o ddiwylliannau amrywiol, a mwynhau sut all dawns feithrin cysylltiadau ystyrlon rhwng pobl o bob cwr o'r byd.