Amdanom CDCCymru National Dance Company Wales embraces the distinctive voices of artists from near and far. We commission bold artistic collaborations with dance at their heart. We share dance of ambition and imagination in theatres, public spaces, festivals and immersive settings, creating unforgettable performance experiences. We inspire everyone to move by nourishing talent and insight, enabling new ideas to emerge and develop. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwmni dawns sy'n creu a chyflwyno gwaith dawns uchelgeisiol ac ymgysylltiol ledled y DU ac yn rhyngwladol. Fel cwmni sefydlog, rydym yn creu gwaith gan amrywiaeth o goreograffwyr i adlewyrchu gwahanol safbwyntiau. Mae ein rhaglen artistig wedi'i hysgogi gan ymrwymiad i greu gwaith newydd, darganfod a datblygu artistiaid newydd ac ysbrydoli cynulleidfaoedd a chymunedau drwy brofiadau dawns cyfoethog o ansawdd uchel. Mae'r cwmni'n cynnwys dawnswyr rhagorol sydd â dealltwriaeth ffisegol cyfoethog, a synnwyr o gelfyddyd unigol a thîm busnes creadigol hynod o dalentog. Mae'r cwmni'n perfformio yn ein cartref, Ty Dawns ym Mae Caerdydd ac mewn lleoliadau eraill yng Nghymru, y DU ehangach ac yn rhyngwladol. Gyda'n gilydd, rydym yn croesawu syniadau newydd, eofn a dewr sy'n ymgorffori ein gwerthoedd, ac yn ysbrydoli cynulleidfaoedd. Mae'r gwaith a wnawn i ymgysylltu pobl mewn dawns eu hunain yr un mor bwysig, i fanteisio ar y buddion llesiant a ddaw gyda dawns a phrofi ei holl fuddion. Mae ein rhaglenni datblygu talent yn cynorthwyo'r rhai sydd â dyheadau i gael gyrfa mewn dawns, ar y llwyfan ac oddi arno. Wrth alluogi arloesedd artistig ar bob cam o ddatblygiad gyrfa, rydym yn ceisio gwneud cyfraniad sylweddol i ecoleg dawns amrywiol yng Nghymru. Rydym yn rhoi llawer o leisiau a dulliau o gyflwyno dawns wrth wraidd ein gwaith, sy'n datblygu ein celfyddyd, ac yn edrych ar sut y gall dawns gyrraedd cynulleidfaoedd a chysylltu â nhw. Nod y cydweithrediadau unigryw hyn yw gwefreiddio, ysbrydoli, synnu a llawenhau, wrth gyflwyno cyfleoedd i gynulleidfaoedd na fyddent yn eu cael yn unman arall.