Discover Dance performance audience stretching, rehearsal director leading from front of stage

Cefnogaeth

Ynghyd â'r hyn a welwch ar y llwyfan, rydym yn brysur yn ymgysylltu â chymunedau ar draws Cymru a thu hwnt, ac yn ysbrydoli pobl o bob oed i wylio a chymryd rhan mewn dawns. Gan ein bod ni'n elusen, rydym yn dibynnu ar gymorth hael ein cynulleidfaoedd i'n helpu ni ddod â llawenydd dawns i'r rhai fydd yn elwa fwyaf ohono. Os hoffech chi ymuno â ni, mae yna ddigonedd o ffyrdd y gallwch gymryd rhan.

Mae grantiau gan ymddiriedolaethau a sefydliadau yn chwarae rôl hanfodol o ran galluogi pobl o bob cefndir, hen ac ifanc, i ddarganfod llawenydd dawns gyfoes gyda NDCCymru.