Swyddi a Gwirfoddolwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yw un o gwmnïau celfyddydol cenedlaethol Cymru. Rydym yn gweithio gyda choreograffwyr eithriadol wedi’u lleoli yn y DU ac yn rhyngwladol i ymgysylltu ac ysbrydoli cynulleidfaoedd a chyfranogwyr ledled Cymru, y DU yn ehangach ac yn rhyngwladol. Buddion i Weithwyr Mae eich iechyd a llesiant yn bwysig i ni, yn ogystal â chynllun pensiwn a gwyliau hael, caiff ein gweithwyr eu cefnogi hefyd drwy gynllun hyfforddi a datblygu. Cynllun beicio i’r gwaith Polisïau i gefnogi pobl gyda chyfrifoldebau gofalu Gostyngiadau mewn rhai siopau ym Mae Caerdydd Y cyfle i fynychu perfformiadau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru Cynigion arbennig i staff ar berfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Rydym yn ymrwymedig i’n polisi cyfleoedd cyfartal. Addasrwydd i ymgymryd â’r swydd yw’r prif faen prawf y byddwn yn ei ystyried wrth ddewis. Er mwyn i ni allu monitro ein polisi, a fyddech cystal â chwblhau’r holiadur canlynol. Cofrestrwyd fel Cwmni Cyfyngedig yng Nghymru a Lloegr, Rhif 1672419 Cofrestrwyd fel Elusen yng Nghymru a Lloegr, Rhif 326227