Dance for parkinson's, participants striding across the studio

Dance for Parkinson's Wirfoddolwyr

“Mae bod yn wirfoddolwr gyda ‘Dawns ar gyfer Parkinson's’ CDCCymru yn brofiad llawen oherwydd y dawnsio, gwneud cysylltiadau, rhannu a  gwrando ar straeon bywyd, cyfrannu, teimlo eich bod yn perthyn, a chwerthin.”

Sally Varrel – Gwirfoddolwr, Dawns ar gyfer Parkinson’s Caerdydd

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr cymwynasgar a chyfeillgar i gefnogi ac i gymryd rhan yn ein dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Clefyd Parkinson.

Mewn partneriaeth â Bale Cenedlaethol Lloegr mae ein dosbarthiadau Dawnsio ar gyfer Clefyd Parkinson yn ffordd hwyliog ac anffurfiol i ddarganfod themâu ein darnau dawns. Profwyd bod Dawnsio ar gyfer Clefyd Parkinson yn cefnogi pobl â chlefyd Parkinson i ddatblygu hyder a chryfder, tra'n lliniaru dros dro symptomau bob dydd rhai o'r cyfranogwyr. Mae’r dosbarthiadau yn fynegiannol, yn greadigol ac yn hyrwyddo teimladau o ryddid rhag y cyfyngiadau corfforol a chymdeithasol o gael clefyd Parkinson.

Ymhlith cyfrifoldebau'r gwirfoddolwyr mae cyfarch cyfranogwyr wrth iddynt gyrraedd, helpu i osod y gofod, a chymryd rhan yn y sesiwn symud. Mae cefndir mewn dawns/symud neu'r sector iechyd yn ddymunol ond nid yn hanfodol gan y rhoddir hyfforddiant.

Mae dosbarthiadau yn rhedeg bob tymor ac yn cael eu cynnal yng 

Tŷ Dawns Caerdydd

Pontio, Bangor

Coleg Cambria, Wrecsam.

Awel Y Mor Community Centre, Porthcawl

Os hoffech chi gymryd rhan neu i gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Lucie.

Noder: Mae’n rhaid i wirfoddolwyr fod â phrofiad o’r sector dawns ac/neu iechyd oherwydd natur y dosbarthiadau.