Archebu CDCCymru yn Cyflwyno Ymarferion Agored Eisiau gwybod mwy am sut yr ydym yn creu ac yn gwneud dawns? Rydym yn agor drysau ein hystafell ymarfer felly gallwch gael cipolwg ar yr hyn sy'n digwydd yn y stiwdio. Yn ystod y broses o greu ein gwaith newydd gallwch alw heibio am awr a darganfod beth rydym wedi bod yn gweithio arno yn yr ymarfer. Gallwch weld coreograffwyr a dawnswyr ar waith yn ystod y broses greadigol, gan roi blas tu ôl i’r llenni a syniad o sut mae’r gwaith yn cael ei greu. Hefyd cewch gyfle i ofyn cwestiynau ar y diwedd mewn awyrgylch didwyll, hamddenol a chyfeillgar. Mae croeso i chi wneud braslun neu eistedd yn mwynhau’r ymarfer. Ddim yn gallu mynychu wyneb yn wyneb? Bydd yr ymarfer hwn hefyd yn cael ei ffrydio ar-lein – ewch i’n gwefan i wylio Ymunwch â ni am Ymarfer Agored yn y Tŷ Dawns, Canolfan Mileniwm Cymru – cartref Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Dewch i godi cwr y llen a gweld sut mae dawns yn cael ei chreu wrth inni agor drysau'r ystafell ymarfer i’r cyhoedd. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn elusen a’i nod yw gwneud dawns ar gael i bawb yng Nghymru, ac felly mae modd i chi ddod i’r digwyddiad hwn am ddim. Bydd croeso cynnes yn aros amdanoch. Os, fodd bynnag, ydych chi mewn sefyllfa i dalu’r hyn a fynnwch tuag at docyn ar gyfer y digwyddiad hwn, byddwch yn helpu CDCCymru i barhau i gyfoethogi bywydau eraill drwy ddawns. P’un a ydych yn mynychu am ddim, neu’n talu faint rydych yn teimlo sy’n addas, archebwch docyn ymlaen llaw er mwyn rhoi gwybod inni eich bod yn dod, gan mai nifer cyfyngedig o seddi sydd ar gael. Yn digwydd