Artistiaid Ymgysylltu

Rydym ni’n gweithio gyda nifer o artistiaid ymgysylltu a dawns llawrydd ledled Cymru.

Yr Wyddgrug

Ar ôl cael ei magu ar arfordir Gogledd Cymru, symudodd Angharad i'r Alban i hyfforddi yn Ballet West mewn ballet clasurol a dawns gyfoes. Wrth hyfforddi fe gafodd brofiad perfformio a theithio gwerthfawr gyda'r cwmni ysgolion, gan deithio o amgylch yr Alban a Tsieina gyda chynyrchiadau Romeo a Juliet a Swan Lake. Roedd Angharad hefyd yn aelod o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru fel myfyriwr o dan gyfarwyddyd Errol White, Theo Clinkard ac Odette Hughes.

Yvette Wilson - Artist Dawns Cyswllt - De Cymru Helen Woods - Cerddor Cyswllt - De Cymru Angaharad Harrop - Artist Dawns Cyswllt - Gogledd Cymru Helen Wyn Pari - Cerddor Cyswllt - Gogledd Cymru

Caerdydd


Dawnswraig o dde Cymru ydi Jodi Ann Nicholson. Ers iddi hyfforddi yn Laban ac astudio Celf Gain yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd mae ei gwaith creadigol yn plethu gwneuthuriad yr hunan a hunaniaeth. Fel rhywun sydd wedi ei mabwysiadu, mae Jodi yn archwilio’r syniadau hyn drwy naratif hunangofiannol. Mae symudiad, brodwaith a thecstilau yn rhoi strwythur i’w chwestiwn parhaus: beth sy’n creu hunaniaeth?

Y Drenewydd

Mae Rachel yn artist dawns annibynnol wedi'i lleoli yn Wrecsam. Ers graddio o Brifysgol Edge Hill yn 2017 mae hi wedi datblygu gyrfa mewn perfformio, hwyluso a ffotograffiaeth. Roedd Rachel yn ddawnswraig broffesiynol i Lisa Simpson Inclusive Dance a thaith Migratory o amgylch Sir Gaerhirfryn am 2 flynedd, yn ogystal â bod yn berfformiwr llawrydd yn Illuminate (2017) a The Shadow (2019), cynyrchiadau gan Company Chameleon.

Aberystwyth

Cefais fy nwyn i fyny yn Aberystwyth cyn symud i Fryste yn fy arddegau lle darganfyddais fy nghariad at Ddawnsio Stryd. Ar ôl symud i Lundain, dysgais am Breakin’ ac ymunais â nifer o griwiau Dawnsio Stryd lle cefais gyfle i astudio arddulliau gwahanol megis House, Popping, Locking a Hip Hop. Nes i hefyd frwydro fel b-girl unigol mewn digwyddiadau fel Throwdown a Jumpoff, a pherfformiais yn Breakin’ Convention a Set4Set cyn ennill y trydydd safle yn London’s Best Dance Crew gyda fy nghriw benywaidd dan arweiniad Kloe Dean.

Huddersfield

Hyfforddodd Sarah ym Mhrifysgol Middlesex a Phrifysgol Leeds gan raddio yn 2009 ac ennill Statws Athro Cymwysedig mewn Ysgol Uwchradd yn flwyddyn ganlynol. Ers hynny, mae Sarah wedi dilyn gyrfa sy’n croesi’r sectorau cymunedol, addysg a pherfformiad. Bu Sarah yn gweithio fel Swyddog Datblygu Dawns yn Blackpool am 5 mlynedd, yn datblygu cyfleoedd ar lawr gwlad a chyfleoedd dilyniant ar gyfer dawnswyr ifanc, gan eu galluogi i gysylltu â chwmnïau proffesiynol a datblygu eu profiadau creadigol o ddawns.