Dawnswyr

Dawnswyr

Astudiais yn School of The Arts (SOTA) Singapore cyn mynd ar hyfforddiant galwedigaethol llawn amser yn y New Zealand School of Dance yn Wellington, Seland Newydd, lle cefais y pleser o berfformio mewn gweithiau gan Amber Haines, Sarah Foster-Sproull, Michael Parmenter a Hofesh Shechter. Ar ôl graddio, gweithiais gyda Humanhood Company o 2018 i 2019, gan berfformio yn eu darn grŵp cyntaf, ‘Torus’. Ar ddechrau 2020, ymunais â Shechter II, ar daith ‘Political Mother: Unplugged’ o amgylch Ewrop yn nhymor yr hydref/gaeaf 2021.

Dawnswyr

Cefais fy ngeni yn Perth, Gorllewin Awstralia a dechreuais hyfforddi’n llawn amser fel dawnsiwr yn yr Australian Ballet School yn Melbourne. Wedi hynny, bu i mi gwblhau 3 blynedd o astudio yn y New Zealand School of Dance fel arbenigwr cyfoes.

Myfyriwr Lleoliad Gwaith Proffesiynol

Tyfais i fyny ym Mryste lle dechreuais fy hyfforddiant mewn dawn gyfoes am y tro cyntaf gyda RISE Youth Dance. Yn 17 oed ymunais â’r National Youth Dance Company lle teithiais a pherfformio gwaith gan Botis Seva, Yna fe es ymlaen i raddio o’r London Contemporary Dance School BA (Anrh), gan fod yn rhan yno o waith creu a pherfformio gwaith gan Liam Francis, Sam Coren a Clod Ensemble yn ogystal â’r Trisha Brown Company yn ystod fy semester Erasmus yn y Conservatoire National Supérieur (CNSMDP) ym Mharis.