Jill Goh

Jill Goh

Dawnswyr

Astudiais yn School of The Arts (SOTA) Singapore cyn mynd ar hyfforddiant galwedigaethol llawn amser yn y New Zealand School of Dance yn Wellington, Seland Newydd, lle cefais y pleser o berfformio mewn gweithiau gan Amber Haines, Sarah Foster-Sproull, Michael Parmenter a Hofesh Shechter. Ar ôl graddio, gweithiais gyda Humanhood Company o 2018 i 2019, gan berfformio yn eu darn grŵp cyntaf, ‘Torus’. Ar ddechrau 2020, ymunais â Shechter II, ar daith ‘Political Mother: Unplugged’ o amgylch Ewrop yn nhymor yr hydref/gaeaf 2021. Yn y cyfamser, bûm ynghlwm â chreu a pherfformio ‘Light: Bach Dances’, cynhyrchiad a gynhyrchwyd ar y cyd gan Theatr Frenhinol Denmarc a Hofesh Shechter Company. Ymunais â CDC Cymru yn Ionawr 2023.