Ed Myhill

Ed Myhill

Dawnswyr

Yn wreiddiol o Lundain, cefais fy magu yn Leeds lle dechreuais ddawnsio. Yn ddiweddarach, es ymlaen i hyfforddi yn Hammond School yng Nghaer cyn mynd ymlaen i astudio'n llawn amser yn y Rambert School of Ballet and Contemporary Dance. Ymunais â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel prentis yn 2015 ac ers hynny rwyf wedi bod yn dawnsio'n llawn amser gyda'r cwmni. Rwyf wedi teithio'n eang ar draws y DU ac yn rhyngwladol, gan berfformio gweithiau gan Alexander Ekman, Roy Assaf, Caroline Finn, Johan Inger, Fernando Melo a Marcos Morau ymhlith eraill.

Fel coreograffydd fe wnes i greu fy ngwaith fy hun ar gyfer y cwmni 'Why Are People Clapping!?' yn 2018 fel rhan o dymor Alternative Routes y cwmni. Ers hynny mae wedi bod ar daith o amgylch y DU ac Ewrop ac mae wedi ei addasu ar gyfer perfformiadau awyr agored ac ar-lein. Yn fwyaf nodedig, mae addasiad ar-lein o'r gwaith hwn wedi ei enwi ymysg y ddawns orau i'w gweld ar-lein gan The Guardian fel rhan o'u herthygl nodwedd Lockdown Culture yn 2020.

Ochr yn ochr â dawns rwyf hefyd yn cyfansoddi cerddoriaeth a sgoriau sain ar gyfer dawns. Rwyf wedi cydweithredu gyda'r coreograffydd a'r cyfarwyddwr ffilm Mathew Prichard am sawl blwyddyn. Rwyf wedi cyfansoddi ar gyfer ei waith yn Theatr Luzerner yn ogystal â nifer o ffilmiau dawns y mae wedi'u cyfarwyddo, gan gynnwys 'Fragmented Youth' wnaeth ennill y ffilm orau yng Ngŵyl Ryngwladol Tanzahoi 2020 yn Hambwrg. Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi cydweithio gyda Matthew Robinson yng Nghwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar gyfer ei waith 'GO' a grëwyd ar gyfer artistiaid Cyswllt Ifanc i'w berfformio gyda'r cwmni fel rhan o'r rhaglen '4X10' yn 2023.

Galeri
Ed performing in Profundis, being lifted by 4 other dancers
Ed performing in Profundis, being lifted by 4 other dancers
Ed performing in Profundis, being lifted by 4 other dancers
Ed performing in Profundis, being lifted by 4 other dancers