Faye Tan Dawnswyr Rwy'n dod o Singapore a chefais fy hyfforddi yn Singapore Ballet Academy, School of The Arts Singapore, Rambert School a VERVE (Cwmni perfformio ôl-raddedig y Northern School of Contemporary Dance). Roeddwn yn ddawnsiwr cwmni yn Frontier Danceland (Singapore) am dair blynedd, cyn ymuno â CDCCymru yn haf 2019. Rwyf wedi perfformio gwaith gan amrywiaeth o goreograffwyr, gan gynnwys Shahar Binyamini, Marcos Morau, Alexandra Waierstall, Caroline Finn, Andrea Costanzo Martini, Anton Lachky, Nigel Charnock a Richard Chappell. Rwyf wedi creu ffilmiau dawns sydd wedi cael eu dangos mewn gwyliau ffilm yn y DU ac yn Singapore, ac rwyf wedi cael fy nghomisiynu i goreograffu gwaith ar gyfer School of The Arts Singapore, Frontier Danecland, CDCCymru, VERVE, Rambert School a The Centre for Advanced Training. Mae fy ngwaith addysgol a gwaith allgymorth yn y maes dawns yn cynnwys hwyluso rhaglenni hyfforddiant ieuenctid fel rhaglen Pulse Frontier Danceland, a rhaglen Aelodau Cyswllt CDCCymru, yn ogystal â chymryd rhan mewn gwaith ymgysylltiad cymunedol gyda Richard Chappell Dance. Galeri