Pietro Mazzotta Dawnswyr Cefais fy ngeni yn Lecce, yr Eidal, a symudais i Leeds yn 2019 i hyfforddi yn y Northern School of Contemporary Dance, ble cwblheais radd Baglor a gradd Meistr. Yn ystod fy astudiaethau, perfformiais weithiau gan Akram Khan, Alessandra Suetin, Thick & Tight, a Mathieu Geffré, yn ogystal â gyda’r Phoenix Dance Theatre. Fel rhan o VERVE, cwmni ôl-raddedig NSCD, teithiais yn rhyngwladol gan berfformio gweithiau Kor’sia a Jamaal Burkmar. Ers graddio, rwyf wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau fel Skånes Dansteater, ResExtensa, a Karma Dance, yn ogystal â’r coreograffwyr Richard Pye a Devika Rao. Yn 2023, gweithiais am y tro cyntaf gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel rhan o brosiect cyfnewid gyda Chwmni Dawns Gyfoes Cenedlaethol Corea, gan berfformio darn gan Boram Kim yn Ne Corea. Byddaf yn ailymuno â CDCC yn 2025 ar gyfer eu taith sydd ar y gweill. Yn ogystal â pherfformio, rwyf yn datblygu fy ymarfer coreograffig ac addysgu, gan archwilio ffyrdd newydd o ymgysylltu â symudiad a pherfformiad. Llun: Lightspace Leeds