Bwrdd y Cyfarwyddwyr

Alison Thorne

Photo of Alison Thorne in pink top

Cadeirydd

Magwyd Alison yng Nghaerdydd, a datblygodd gyrfa mewn manwerthu gyda nifer o gwmnïau mawr gan gynnwys Asda, Lego, B&Q a Mothercare gan fynd o swyddi prynu a marchnata i swydd Cyfarwyddwr Gweithredol. Bellach mae ganddi ei chwmni ei hun o’r enw atconnect, sy’n gwmni datblygu pobl a hi yw arweinydd Cymru ar gyfer ‘Menywod ar Fyrddau’. 

Mae ei rolau anweithredol presennol yn cynnwys llywodraethwr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, aelod o fwrdd Chwaraeon Cymru, aelod panel annibynnol ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus i Lywodraeth Cymru, ac mae’n Gyn-gadeirydd Chwarae Teg. 

Cathryn Allen

Cath yw Cyfarwyddwr Creating Answers, yn arbenigo mewn helpu unigolion, timau a sefydliadau i gyflawni eglurdeb, hyder a chreadigrwydd wrth ymdrechu i fod yr arweinwyr gorau posibl.

Mae hi’n ymarferydd hyfforddi EMCCac yn dylunio ac yn darparu gweithdai am arwain, gwaith tîm a chyfathrebu.  Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, mae Cath yn gweithio ledled y DU yn Gymraeg a Saesneg.

Giovanni Basileti

Mae Giovanni yn Gyfreithiwr sy'n arbenigo mewn cyfraith adeiladu a pheirianneg. Mae ganddo brofiad o ddelio â materion adeiladu cynhennus a rhai nad ydynt yn gynhennus ar draws pob sector ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn prosiectau seilwaith ynni. Yn wreiddiol o Gibraltar, mae'n siaradwr Sbaeneg iaith gyntaf.

Huw Davies

Mae Huw yn gyfrifydd cymwysedig a dreuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio yn y sectorau manwerthu, adeiladau a gwestai a hamdden cyn gwneud y penderfyniad ymwybodol i weithio yn y sector dielw.

Ers hynny, mae wedi treulio’r ugain mlynedd diwethaf mewn swyddi cyllid uwch mewn nifer o elusennau yn y DU. Ar ôl gweithio i elusennau gofal cymdeithasol yn ogystal ag elusennau lles anifeiliaid, mae ef ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Cyllid sefydliad celfyddydol cenedlaethol mawr.

Krystal S. Lowe

Mae Krystal S. Lowe yn ddawnswraig, coreograffydd, awdur a chyfarwyddwr wedi’i geni yn Ynysoedd Bermwda ac wedi’i lleoli yng Nghymru, sy’n creu darnau theatr ddawns ar gyfer y llwyfan, ardaloedd cyhoeddus, a ffilm sy’n archwilio themâu hunaniaeth, iechyd meddwl a llesiant, a grym i herio ei hun a chynulleidfaoedd tuag at fewnsyllu a newid cymdeithasol.

Tupac Martir

Mae Tupac Martir yn Artist a Sefydlydd Satore Studio. Mae’n artist amlgyfrwng, ac mae ei waith yn cwmpasu meysydd technoleg, golau, tafluniau a fideo, dylunio sain, cerddoriaeth, a chyfansoddi, yn ogystal â choreograffi a gwisgoedd. Mae Vogue wedi’i ddisgrifio fel ‘y dylunydd gweledol a chyfarwyddwr creadigol y tu ôl i rai o’r digwyddiadau pwysicaf yn y byd'.

William James

Roedd William yn Gynhyrchydd yn Theatr Clwyd ac yn arwain y tîm Cynhyrchu a Rhaglennu tan 2021. Bu’n rhaglennu CDCCymru am nifer flynyddoedd yng Nghlwyd - mae’n gefnogwr brwd o’r cwmni. Cyn hynny, gweithiodd mewn sawl lle gwahanol, yn cynnwys y Royal Shakespeare Company, West Yorkshire Playhouse ac Intelfax yn is-deitlo rhaglenni Channel 4 ar gyfer cynulleidfaoedd Byddar a thrwm eu clyw. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd.