Dance Workshop with people in purple and black tshirts

Moving Beyond Compliance

Symud y Tu Hwnt i Gydymffurfiaeth Prosiect peilot a gyflwynwyd mewn partneriaeth rhwng CDCCymru a Cartrefi Cymru i archwilio sut all symud fod o fudd i lesiant staff sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal. 

Mae Symud y Tu Hwnt i Gydymffurfiaeth yn brosiect mewn partneriaeth, a ddatblygwyd gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Cartrefi Cymru Cooperative Limited i archwilio sut all symud fod o fudd i staff Cartrefi Cymru sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu. Cafodd ei ddylunio i archwilio ffyrdd newydd o gefnogi eu llesiant a hefyd ysbrydoli model a allai fod o fudd i staff sy’n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal yn y dyfodol.   

Wrth ddod o’r pandemig Covid 19, roedd Cartrefi Cymru yn awyddus i ddathlu cyfraniad anhygoel eu staff yn ystod cyfnod unigryw o heriol ar gyfer y sector gofal. Roedd y prosiect yn mynd i’r afael â’r pwysau corfforol a meddyliol ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn swyddi gofal a chafodd staff eu gwahodd i gael mewnbwn i waith cysylltiedig yn y dyfodol. Cynhaliwyd y gweithdai yn Aberhonddu ym mis Mai 2022, a chawsant eu gwerthuso gan Gymdeithas Darparwyr Gweithgareddau Cenedlaethol (NAPA). Ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.