Faye Tan | National Dance Company Wales
Faye Headshot

Faye Tan

Dawnsiwr

Cefais fy ngeni yn Singapôr, a bûm yn hyfforddi yn Academi Bale Singapôr ac Ysgol y Celfyddydau cyn graddio o Ysgol Rambert yn Llundain. Yna, ymunais â Verve, cwmni ôl-radd Ysgol Dawns Gyfoes y Gogledd yn Leeds, gan berfformio gweithiau gan Anton Lachky, Athina Vahla ac Efrosini Protopapa. Ymunais â Frontier Danceland (Singapôr) yn 2016, yn gweithio gyda choreograffwyr megis Shahar Binyamini, Thomas Lebrun, Edouard Hue, I-Fen Tung, Annie Vigier a Franck Apertet, ymysg pwll amrywiol o wneuthurwyr eraill. Ym mis Mehefin, cefais weithio gyda Richard Chappell Dance ar Silence Between Waves, prosiect mewn rhanbarth penodol yn Nyfnaint, gan berfformio a gweithio gydag aelodau’r gymuned o bob gallu ac oedran. Ymunais â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ystod Gorffennaf 2019 ar gyfer Laboratori a ‘Rygbi: Annwyl i mi / Dear to me’

Galeri
Faye arms in the air with other dancers watching behind her
Faye arms in the air with other dancers watching behind her