Riz wears a jacket zipped up and has brown hair tied back and a fringe.

Sarah 'Riz' Golden

Dawnswyr

Yn wreiddiol o Fryste, deuthum yn gysylltiedig â dawns gyfoes drwy RISE Youth Dance a'r National Youth Dance Company. Bûm i mi barhau gyda fy hyfforddiant yn y London Contemporary Dance School (BA (Anrh.)), Conservatoire National Supérieur de Musique et de Danse de Paris a'r Northern School of Contemporary Dance (MA). Yn ystod fy astudiaethau, gweithiais gyda Clod Ensemble, Trisha Brown Dance Company, Botis Seva, Sam Coren a Liam Francis. Yn broffesiynol, rwyf wedi cydweithio a pherfformio gwaith gan goreograffwyr a chwmnïau megis Theatr Cymru, Osian Meilir, Richard Chappell a Scherzo Ensemble. Fel gweithiwr llawrydd, rwyf wedi gweithio ar draws y sector dawns, ffilmiau a ffasiwn - ar brosiectau masnachol, golygyddol ac annibynnol. Mae hyn yn cynnwys cydweithio ag artistiaid fel Alexandra Green a Nozomi Yamanami, gan ymddangos yn Acne Paper ac yn Wythnos Ffasiwn Llundain. Bûm ar Fwrdd Pobl Ifanc Sadler's Wells ers y ddwy flynedd ddiwethaf. Ymunais am y tro cyntaf â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel prentis yn 2023 ac rwyf wedi perfformio a theithio gwaith gan Marcos Morau, Lea Anderson, Fay Tan ac Osian Meilir gyda'r cwmni.