Andrea Costanzo Martini Wild Thoughts Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad 20 minutes Yn ddi-ofn, dawns sy’n llawn hiwmor chwareus yn galw ar ein cyrff i symud, mwynhau a gorfoddelu. Mae Wild Thoughts yn hwyl tsiclyd, wedi’i ysbrydoli gan y rhyfeddodau y gall cyrff dynol eu gwneud. Tîm Creadigol Dylunio Gwisgoedd: Rike Zöllner Goruchwyliwr Gwisgoedd: Deryn Tudor Gwneuthurwr Gwisgoedd: Elizabeth Catherine Chiu Dyluniad Goleuo: Barnaby Booth Cerddoriaeth: Spectacle of Ritual’ gan Kali Malone, Foreign Bodies gan Matthew Herbert “Yn y darn hwn, ar y cyd â dawnswyr CDCCymru, rwy’n archwilio maes chwarae’r corff dynol. Mae Wild Thoughts yn ddathliad dros ben llestri o bengliniau, breichiau, coesau, chwarennau, tafodau, a'u gwybodaeth gorfforol ddi-baid. Mae gweld brwdfrydedd uniongyrchol sydd gan y perfformwyr hyn dros symudiad, a’u haelioni i rannu’r berthynas bersonol ac unigryw sydd ganddynt â’u corff ar y llwyfan, wedi bod yn hynod galonogol i mi." Andrea Costanzo Martini Coreograffwr Andrea Costanzo Martini Andrea Costanzo Martini Cafodd Andrea Costanzo Martini ei eni a'i fagu yn yr Eidal lle derbyniodd ei addysg gyntaf mewn dawns gyfoes a bale. Mae wedi dawnsio yn Aalto Theater Essen, Ensemble Ieuenctid Batsheva, Cwmni Dawns Batsheva, Bale Cullberg, Inbal Pinto a Chwmni Dawns A. Pollack. Ers 2013 mae Andrea wedi bod yn creu a pherfformio ei weithiau ei hun. Derbyniodd y wobr gyntaf am ddawns a choreograffi yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Tanz Solo Stuttgart yn 2013 a dyfarnwyd sawl gwobr iddo am y gweithiau unigol “What Happened in Torino” ac “Occhio di Bue”. Mae Andrea wedi canolbwyntio ar weithiau unigol ac i ddau fel Trop, VoglioVoglia, SCARABEO (a ddewiswyd gan Aerowaves 2018), ond yn fwy diweddar dechreuodd gydweithio â chwmnïau fel Balletto di Roma a Balletto Teatro di Torino gyda'r gweithiau Intro a Balera. Yn fwy diweddar, mae ymchwil Andrea mewn dawns yn canolbwyntio ar gorfforolrwydd eithafol a theatreg yn y weithred berfformio ac yn archwilio'r cydbwysedd pŵer rhwng dawnswyr a gwylwyr. Pob tro yn llawn hiwmor, ac wedi ei gefnogi gan ystod eang o sgiliau, mae gwaith Martini yn cwestiynu ac yn chwarae gyda disgwyliadau'r cyfrwng dawns. Wedi'i hyfforddi mewn techneg bale a chyfoes, mae Andrea hefyd yn hyfforddwr Gaga ac mae wedi arwain gweithdai dawns ledled y byd ers 2007. Mae gweithiau diweddaraf Andrea yn cynnwys 'Mood Shifter' a darn ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc o'r enw 'PayPer Play'. Adolygiadau “Wild Thoughts was a delightful piece … a cheeky little joy.” Love Shrewsbury “very playful, very funny… truly impressive…the dancers celebrate with their bodies, there’s a lot of joy” The Reviews Hub “its mood is celebratory and its joy contagious” Culture Whisper Galeri Wild Thoughts Education Pack