Dancer looks backwards with hands before her, in a gold and white sports outfit
Andrea Costanzo Martini

Wild Thoughts

Gwybodaeth ynghylch y cynhyrchiad
20 minutes

Yn ddi-ofn, dawns sy’n llawn hiwmor chwareus yn galw ar ein cyrff i symud, mwynhau a gorfoddelu.  Mae Wild Thoughts yn hwyl tsiclyd, wedi’i ysbrydoli gan y rhyfeddodau y gall cyrff dynol eu gwneud.

Yn teithio fel rhan o
Folk image, 2 dancers, 1 leaping into the air

Teithio rhyngwladol

Dysgwch fwy am berfformiadau rhyngwladol Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Tîm Creadigol

Dylunio Gwisgoedd: Rike Zöllner
Goruchwyliwr Gwisgoedd: Deryn Tudor
Gwneuthurwr Gwisgoedd: Elizabeth Catherine Chiu 
Dyluniad Goleuo: Barnaby Booth
Cerddoriaeth: Spectacle of Ritual’ gan Kali Malone, Foreign Bodies gan Matthew Herbert

“Yn y darn hwn, ar y cyd â dawnswyr CDCCymru, rwy’n archwilio maes chwarae’r corff dynol.
Mae Wild Thoughts yn ddathliad dros ben llestri o bengliniau, breichiau, coesau, chwarennau, tafodau, a'u gwybodaeth gorfforol ddi-baid. Mae gweld brwdfrydedd uniongyrchol sydd gan y perfformwyr hyn dros symudiad, a’u haelioni i rannu’r berthynas bersonol ac unigryw sydd ganddynt â’u corff ar y llwyfan, wedi bod yn hynod galonogol i mi.
Andrea Costanzo Martini

Coreograffwr

Andrea Costanzo Martini

Andrea Costanzo Martini has black hair and mustache and wears a grey hoodie

Andrea Costanzo Martini

Cafodd Andrea Costanzo Martini ei eni a'i fagu yn yr Eidal lle derbyniodd ei addysg gyntaf mewn dawns gyfoes a bale. Mae wedi dawnsio yn Aalto Theater Essen, Ensemble Ieuenctid Batsheva, Cwmni Dawns Batsheva, Bale Cullberg, Inbal Pinto a Chwmni Dawns A. Pollack. Ers 2013 mae Andrea wedi bod yn creu a pherfformio ei weithiau ei hun. Derbyniodd y wobr gyntaf am ddawns a choreograffi yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Tanz Solo Stuttgart yn 2013 a dyfarnwyd sawl gwobr iddo am y gweithiau unigol “What Happened in Torino” ac “Occhio di Bue”. Mae Andrea wedi canolbwyntio ar weithiau unigol ac i ddau fel Trop, VoglioVoglia, SCARABEO (a ddewiswyd gan Aerowaves 2018), ond yn fwy diweddar dechreuodd gydweithio â chwmnïau fel Balletto di Roma a Balletto Teatro di Torino gyda'r gweithiau Intro a Balera. Yn fwy diweddar, mae ymchwil Andrea mewn dawns yn canolbwyntio ar gorfforolrwydd eithafol a theatreg yn y weithred berfformio ac yn archwilio'r cydbwysedd pŵer rhwng dawnswyr a gwylwyr. Pob tro yn llawn hiwmor, ac wedi ei gefnogi gan ystod eang o sgiliau, mae gwaith Martini yn cwestiynu ac yn chwarae gyda disgwyliadau'r cyfrwng dawns. Wedi'i hyfforddi mewn techneg bale a chyfoes, mae Andrea hefyd yn hyfforddwr Gaga ac mae wedi arwain gweithdai dawns ledled y byd ers 2007. Mae gweithiau diweddaraf Andrea yn cynnwys 'Mood Shifter' a darn ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc o'r enw 'PayPer Play'.

Adolygiadau

“Wild Thoughts was a delightful piece … a cheeky little joy.” 
Love Shrewsbury

“very playful, very funny… truly impressive…the dancers celebrate with their bodies, there’s a lot of joy”
The Reviews Hub

“its mood is celebratory and its joy contagious”
Culture Whisper

Galeri
dancers in red and orange costumes posing together centre stage
dancer mid jump arms out
dancers sat on the floor screaming