Laboratori 2022

Dydd Llun 27 Mehefin i ddydd Gwener 8 Gorffennaf 2022
Archwilio creu ar y cyd

Gan ddychwelyd am ei phedwaredd flwyddyn, mae Laboratori Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwahodd artistiaid coreograffig i archwilio a datblygu eu harfer greadigol, ac eleni am y tro cyntaf erioed, rydym hefyd yn galw am artistiaid gweledol annibynnol, mewn partneriaeth â Chapter.  

Gyda chefnogaeth
Fenton Arts Trust logo

Collage of Lab 22 Artist Photos
Ar y top - o'r chwith i'r dde: Ed Myhill, George Hampton Wale, June Campbell-Davies, Deborah Light
Ar y gwaelod  - o'r chwith i'r dde: Cecile Johnson Soliz, Jo Fong, Faye Tan, Sioned Huws
​​​​​​

 

Goreograffydd

Ed Myhill  
Yn wreiddiol o Lundain, cafodd Ed ei fagu yn Leeds a chafodd hyfforddiant yn Ysgol Hammond yng Nghaer, ac yna tair blynedd yn Ysgol Bale a Dawns Gyfoes Rambert. Ymunodd â CDCCymru fel prentis yn ystod Hydref 2015, ac mae bellach yn ddawnsiwr llawn amser gyda’r Cwmni. Mae Ed wedi teithio llawer o amgylch y DU ac yn rhyngwladol, gan berfformio gwaith gan goreograffwyr gan gynnwys Alexander Ekman, Roy Assaf a Marcos Morau. Yn 2018, bu iddo goreograffu ‘Why Are People Clapping!?’ ar gyfer CDCCymru sydd wedi bod yn rhan o repertoire y cwmni ers 2019. Mae’r gwaith hefyd wedi cael ei addasu ar gyfer perfformiadau ar-lein ac awyr agored. Yn ogystal â dawns, mae Ed hefyd yn ddylunydd sain llawrydd, yn creu sgoriau sain ar gyfer coreograffwyr a gwneuthurwyr ffilmiau amrywio. 

Llun: Kirsten Mcternan

Deborah Light 

Mae Deborah yn symudwr, yn wneuthurwr ac yn fam yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n creu gwaith fel artist dawns annibynnol, ac yn gyd-gyfarwyddwr Light / Ladd / Emberton.  

Mae gwaith annibynnol Deborah, sydd wedi’i ddisgrifio yn ‘fawreddog, hyfryd a chyfarwydd’ yn cynnwys gwaith megis perfformiadau theatr/stiwdio, gosodiadau, ymarfer ar sail safle, ffilmiau a delweddau llonydd. Mae’n cynnwys cyfres o waith yn canolbwyntio ar hunaniaeth fenywaidd: HIDE a gafodd ei arddangos yn British Dance Edition a Spring Loaded yn The Place, Cortex, comisiwn Gwobr Place, beyond reality, Angelica a deithiodd gyda Dance Bytes a Dance Roads a Seeds and Bones, prosiect sydd wedi bod ar waith tra bod Deborah wedi magu ei 3 o blant ifanc. Yn ystod y cyfnod clo, bu’n ymchwilio gwaith gyda’i theulu o’r enw Who’s in Charge.  

Mae Light / Ladd / Emberton yn creu cynyrchiadau dawns dwyieithog sy’n symud pobl yn gorfforol ac yn emosiynol ac sy’n cael eu perfformio gydag ac ar gyfer cynulleidfaoedd mewn cestyll, neuaddau pentref, theatrau, gofodau trefol ac ar draethau, ledled Cymru. Mae eu gwaith wedi’i gynnwys yn Arddangosfa Cyngor Prydain Caeredin, arddangosfa ddawns Surf the Wave UK, Theatr y Genedl yng Nghanolfan Gelfyddydol Battersea, Cymru yn Kolkata yn India, a Dance Passion gan y BBC.   

Ymhlith prosiectau Light / Ladd / Emberton mae: amser / time, ffilm fer sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd ar gyfer BBC Dance Passion; Danfona Ddawns / Deliver A Dance dawnsiau cerrig drws ledled Cymru yn ystod Nadolig 2020; Disgo Distaw Owain Glyndŵr Silent Disco a Disgo Zoom Disco gdg/feat. Owain Glyndŵr, disgo distaw yn tracio cynnydd a chwymp Tywysog Cymru, y gwrthryfelwr, bydd yn cael ei berfformio mewn cestyll a mannau trefol ac ar-lein; Croesi Traeth / Crossing A Beach perfformiad penodol i safle ar draeth Harlech; a CAITLIN, perfformiad trochol ar gyfer cynulleidfa o 20.  

Mae Deborah hefyd yn gweithio fel cyfarwyddwr symudiad ar gyfer theatr gan gynnwys Theatr Genedlaethol, Taking Flight, The Other Room ac mae’n darlithio mewn symudiad ar gyfer actorion yn RWCMD. Ymhlith ei pherfformiadau credyd mae Laura Wilson, Joanna Young, Caroline Sabin, Run Ragged/Jem Treays, Sean Tuan John, Opera Gŵyl Longborough, Diversions, Theatr Dawns Pwyleg a’r Sefydliad Dawnsio Gwirion. 

Mae Deborah yn defnyddio ei phrofiad a’i gwybodaeth i gynnig cymorth strategol ac unigol i artistiaid llawrydd a’r sector dawns yng Nghymru. Roedd hi’n rhan o dasglu llawrydd DU/Cymru, mae’n Hyrwyddwr Llawrydd Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol ac yn gydymaith celfyddydau ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru.   

Llun:: Deborah Light

June Campbell- Davies 

Mae June yn ddawnsiwr, coreograffydd ac Artist Carnifal sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Wedi'i hyfforddi yn y Laban Centre for Movement & Dance yn Llundain, mae ei phrofiad o weithio gyda Moving Being Mixed Media Theatre Company yn gynnar yn ei gyrfa dan gyfarwyddyd Geoff Moore, Dance Wakesm Striking Attitudes dan Caroline Lamb wedi gadael argraff barhaus arni ac wedi dylanwadu arni gydol ei gyrfa. Mae wedi gweithio yn addysgu myfyrwyr addysg uwch yn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac ar gwrs dawns llawn amser a rhaglen estyn allan Rubicon Dance. Ers dechrau SWICA (South Wales Intercultural Carnival Arts) yn 2015, mae ei phrofiad o ymgynghorydd a hwylusydd mewn Celfyddydau Carnifal wedi arwain at gydweithrediadau newydd gyda Carnifal Butetown/Eisteddfod 'Carnifal y Môr' a rhaglen ymgysylltu â pherfformiad Canolfan Mileniwm Cymru.'   

Dychwelodd June i'r theatr gyda chynhyrchiad National Theatre Wales o Lifted gan Beauty/Adventures in Dreaming yn 2016, prosiect ar safle penodol yn Rhyl, gogledd Cymru, a darn theatr yn yr awyr agored yn rhan o Brosiect yr Afon Gwy 'The Water Ones' ar y cyd â phâr wedi'u lleoli ym Mryste, “Desperate Men.”   

Hyd heddiw mae June ynghlwm â sawl sefydliad a phrosiect llai, yn arwain sesiynau symudedd ochr yn ochr â hwyluswyr eraill ar gyfer y tîm Breathe Creative dan Gyfarwyddyd Alex Bowen yn canolbwyntio ar y celfyddydau a llesiant ar gyfer eu rhaglenni estyn allan.   

Ar gyfer Côr Un Byd Oasis – sefydliad newydd sbon – mae'n gwirfoddoli i arwain sesiynau rheolaidd o fewn rhaglenni'r Ganolfan Oasis, yn arwain sesiynau symudedd ochr yn ochr â'r Gantores a'r Cyfansoddwr Caneuon Laura Bradshaw a Tracy Pallant, Gwneuthurwr Ffilmiau a Gweinyddwr ar gyfer Ceiswyr lloches a Ffoaduriaid.   

Ar gyfer Artes Mundi 9 mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, comisiynwyd June i greu darn hirfaith ar safle penodol, sef "Sometimes We're Invisible" a gafodd ei greu a'i ffilmio yn 2020 ar gyfer eu rhaglen Lates.   

Ar hyn o bryd, mae June yn un o sawl cydweithiwr sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r canwr-cyfansoddwr caneuon Seun Babatola ar gyfer cyweithiau eleni rhwng CDCCymru/Tŷ Cerdd / Panel Ymgynghorol Is-Sahara Plethu: affricerdd.

Llun: Ffion Campbell-Davies

Faye Tan 
Ganwyd Faye yn Singapore a chafodd hyfforddiant yn Academi Bale ac Ysgol y Celfyddydau yn Singapore cyn graddio o Ysgol Rambert yn Llundain. Yna, ymunodd â Verve, cwmni ôl-raddedig Ysgol Ddawns Gyfoes y Gogledd yn Leeds, gan berfformio mewn gwaith gan Anton Lachky, Athina Vahla ac Efrosini Protopapa. Ymunodd Faye â Frontier Danceland (Singapore) yn 2016, gan weithio gyda choreograffwyr megis Shahar Binyamini, Thomas Lebrun, Edouard Hue, I-Fen Tung, Annie Vigier a Franck Apertet, ymysg llawer iawn o wneuthurwyr eraill. Hefyd tra yn Singapore, gweithiodd Faye ar raglenni allgymorth, gan gydlynu rhaglen hyfforddiant dawns ieuenctid Frontier Danceland, yn gweithio ar addysgu, coreograffi, marchnata digidol, fideograffi a ffotograffiaeth. Ym mis Mai 2019, gweithiodd Faye gyda Richard Chappell Dance (UK) ar Silence Between Waves, yn perfformio ac yn gweithio gyda phreswylwyr lleol o oedrannau gwahanol a chydag anableddau yn Nyfnaint, cyn ymuno â CDCCymru ar gyfer Rygbi: Annwyl I mi / Dear to me ac yna fel dawnsiwr cwmni ym mis Rhagfyr 2019.   

Bu Faye’n gweithio ar goreograffi 'Moving is everywhere, forever' a gafodd ei berfformio yn rhan o repertoire dan do ac awyr agored CDCCymru yn 2021

Llun: Kirsten Mcternan

Artist Gweledol

George Hampton Wale
Mae George Hampton Wale yn artist sydd wedi ei leoli yn y Fenni ac mae ganddo gefndir mewn celfyddyd weledol, symudiad, a chreu ffisegol, sydd â'i waith yn archwilio'r themâu lleoedd, perthyn, a hunaniaeth-gwiar.  Wedi ei fagu tu allan i'r Fenni, derbyniodd George radd Baglor mewn Celfyddyd Gain a Diwylliant Gweledol gan Brifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste.  Gyda phrofiad helaeth mewn gwneud propiau, dylunio gwisgoedd, a ffabrigo prosthetig, datblygodd George arbenigedd mewn ffabrigo gwisgoedd ar raddfa fawr dros sawl blwyddyn. Aeth George yn ei flaen i weithio fel artist gwisgoedd ar brosiectau megis “Evening-Length Performance”, James Bachelor, yn ogystal â “eco-co-location”, Corin Sworn a Claricia Parinussa, ymysg eraill.  Gan ddychwelyd i Gymru yn Ionawr 2022 cymerodd George ran yn y Cyfnod Hyfforddi g39 Jerwood UNITe yng Nghaerdydd, ble crëwyd cerfluniau gwynt mawr oedd yn dawnsio sy'n cyfeirio at y paradocs o gyrff dan reolaeth ac allan o reolaeth rhywun bob yn ail.  Yn dilyn y cyfnod hyfforddi, bydd George yn archwilio potensial perfformio cerfluniau drwy ddawns a symudiad.

Llun: Polly Thomas

Cecile Johnson Soliz
Americanes cenhedlaeth gyntaf o dreftadaeth Bolifaidd yw Cecile. Cafodd ei geni yn yr Almaen  a chafodd ei magu yn Merced yn Nyffryn San Joaquin Califfornia yn bennaf. Bu'n byw yn Mecsico, Bolifia, Brasil, yr Eidal a Ghana cyn symud i Gaerdydd yn 1975 i astudio am flwyddyn yng Ngholeg Celf Caerdydd.  Yna fe gwblhaodd gwrs B.A. ac M.A. mewn Celfyddyd Gain yng Ngholeg Goldsmith, Llundain. Dechreuodd Cecile arddangos yn Llundain yn 1989. Ers dychwelyd i Gaerdydd fel Cymrawd Henry Moore mewn Cerfluniau (1995-1997) mae hi wedi arddangos a gwneud nifer o brosiectau a chomisiynau yn y D.U. a thramor. Mae ganddi ddau o blant ac mae'n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr Will. Mae hi'n gweithio yn eu stiwdio canol y ddinas yng Nghaerdydd.  

Roedd Cecile yn Uwch Ddarlithydd, Pennaeth Celfyddyd Gain ac Arweinydd Rhaglen mewn Cerfluniau yn CSAD rhwng 1998 a 2011. Yn 2013-2014 derbyniodd Brif Wobr Dyfarniadau Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn 2017 derbyniodd Cecile y Fedal Aur Celfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn 2018 fe enillodd yr Oriel Davies Open a arweiniodd at ei harddangosfa unigol ddiweddaraf, TWIST, yn y Drenewydd yn 2019. Cafodd ei gwaith comisiwn cyntaf gyda dawnswyr, Exploratory Dances for Drawing and Sculpture, ei weld ym mharti lansio Gŵyl Ddawns Caerdydd yn 2019.  

Mentoriaid

Jo Fong 
Mae Jo yn byw yng Nghymru ac mae ei gwaith creadigol yn adlewyrchu’r angen ar yr adeg hon i bobl ddod at ei gilydd. Mae ei hymarfer artistig yn ddull cydweithredol sy’n esblygu, mae syniadau am berthyn neu ffurfio cymuned yn amlwg iawn.  

Digwyddiadau a pherfformiadau diweddar; Ways of Being Together, Neither Here Nor There, To Tell You the Truth, Our Land, What Will People Need? Nettles: How to Disagree? a The Sun’s Come Out wedi’u creu mewn cydweithrediad gyda’r artist Sonia Hughes. A Brief History of Difference gyda Das Clarks, Marathon of Intimacies gyda’r artist Anushiye Yarnell.  Cyfrannodd Jo at Grandmother’s Closet gan Luke Hereford yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac ar hyn o bryd mae hi ar daith gyda The Rest of Our Lives sydd wedi’i greu gyda’r gwneuthurwr clowniau a syrcas George Orange.  

Ym mis Chwefror eleni, casglodd Jo 14 o artistiaid a’u gwesteion ynghyd ar gyfer preswylfa ar y cyd am bythefnos yn Llundain yn dwyn y teitl Ways of Being Together Toynbee Takeover. Gwnaeth y gymuned esblygol dan arweiniad artistiaid greu lle ac amser i ailgysylltu, adfer, adnewyddu ac archwilio creu perfformiadau a chyd-greu. Mae'r cynulliad blynyddol yn cynnwys haenau gwahanol sy'n canolbwyntio ar ddysgu, cymorth, dod allan a gweithredu newid.   

Mae Jo yn Gydymaith Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. 

Llun: Simon Banham 
 

Sioned Huws
Mae Sioned yn goreograffydd Gymraeg yn byw yn Llundain, a anwyd ym Mangor 1965 a threuliodd ei phlentyndod ar y fferm deuluol yn Eryri. Dechreuodd wneud dawns a pherfformiad cyfoes yn Efrog Newydd 1989, wrth astudio yn Stiwdios Merce Cunningham, ar ôl ei hyfforddiant yng Nghanolfan Laban Llundain 1983-86 a dawnsio gyda Transitions am flwyddyn 1986-87. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ganfyddiad, cof, person a lle o fewn strwythurau coreograffig; systemau sy'n patrymu manylion bach sy'n caniatáu ar gyfer yr annisgwyl mewn byd sy'n cael ei synhwyro trwy ymwybyddiaeth o symud corfforol. Mae Symud ar Rythm o Un yn brosiect newydd, a ddechreuwyd trwy gyfarfyddiad rhwng dawns a seicoddadansoddi, i ddawnsio ein ffordd gyda geiriau mewn patrymau newydd yn symud y corff mewn iaith. Derbyniodd Sioned 2009 Wobr Cenhadon Cymru Creadigol; 2009-11 a 2015-18 Gwobr Rhaglen Ryngwladol gan The Saison Foundation, Tokyo, mewn cydweithrediad ag ARTizan am ei Phrosiect Aomori ac Odori-Dawns-Dance a aeth ar daith i dros ddeg ar hugain o leoliadau yn y DU, Asia, Ewrop ac Awstralia. Mae Sioned yn parhau i ofyn y cwestiwn “Sut y gall dawns gael corff nad oes ganddo ddelwedd?” 

Dyma aralleiriad rydw i'n ei hoffi gan yr arlunydd Louise Bourgeoise “Pan mae rhywun yn ceisio dod o hyd i atgof hiraeth yw, ond pan ddaw cof atoch chi mae hynny'n ffurf.” Ac un arall gan y seicoddadansoddwr Jacques Lacan “Rwy’n meddwl gyda fy nhraed.” 

Llun: Sioned Huws

Ddawnsiwr 

Gaia Cicolani, Alys Davies, Elan Elidyr, Mika George Evans. Niamh Keeling, Zi Hong Mok, Lucy Jones, Mario Manara, Marine Tournet