gan Lea Anderson

Zoetrope

Ebrill 2023

Dewch yn llu i gael eich diddanu a’ch syfrdanu ym myd rhyfeddol Zoetrope!

Ewch i’n safle mini Zoetrope i ddysgu mwy

Rhaglen Ddigidol

A yw awr yn ddigon o amser i ddysgu am holl hanes dyn? Mae’n annhebygol.

A yw’n ddigon o amser i gael eich syfrdanu, eich  diddori a’ch diddanu? Yn bendant.

Bydd eich dychymyg yn rhedeg yn wyllt wrth i fadfallod, tsimpansïaid a sgerbydau neidio a llamu ar draws llwyfan, yn archwilio cerddoriaeth ac effeithiau clyfar.

Mae’r profiad swynol hwn i’r teulu cyfan yn cyfuno holl hwyl y ffair gyda champau acrobatig a dawns er mwyn archwilio ystyr bywyd, tarddiad ffilm a’n hatyniad at hud a lledrith.

Coreograffi gan yr enwog Lea Anderson MBE.

Beth yw Zoetrope?

Mae zoetrope yn ddyfais animeiddio cyn y ffilm sy’n cynhyrchu camargraff o symudiad drwy arddangos cyfres o luniadau neu ffotograffau sy’n dangos camau dilynol y symudiad hwnnw

Adolygiadau

“With its musical whirrs, clicks and glitches Zoetrope opens up a strange world…the show was very funny. An amusingly offbeat creation from an artist as imaginative as ever.”

The Guardian

“it reminded me how brilliantly playful dance is as a medium, it was funny, it was silly and playful but it was also clever”

Lead Curriculum Achievement Officer, Welsh Government

"Absolutely loved it. Surreal cabaret dance show doesn’t do it justice. Bonkers and stylish."

Audience Member 

"An excellent show from NDCWales Zoetrope was amazing and the children loved it!"
School

“fun, weird and funny”.

Young person

Watch the trailer

Check out our Zoetrope playlist to learn more about Zoetropes and to know what to expect, interviews and more.

About Zoetrope

Tîm Creadigol

Hyd: 50 minutes 
Danswyr: 5-7 

Coreograffydd: Lea Anderson
Cyfansoddwyd: Steve Blake
Dylunio: Simon Vincenzi
Dyluniad Goleuo: Marty Langthorne

Goruchwyliwr Gwisgoedd: Deryn Tudor 
Gwneuthurwr Gwisgoedd: Danial Thatcher
Gwneuthurwr Prop: Johanna Lloyd

Coreograffwr

Lea Anderson

Lea Anderson working in the studio with NDCWales

Lea Anderson
Coreograffydd a chyfarwyddwr artistig wedi’i lleoli yng Ngogledd Dyfnaint yw Lea Anderson. 

Lea yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr artistig y cwmni The Cholmondeleys a The Featherstonehaughs. Yn ogystal â theithio’n estynedig o amgylch y DU a thramor, mae’r cwmnïau yn adnabyddus am eu gwaith arloesol mewn gofodau a lleoliadau y tu hwnt i’r theatr. 

Yn 2002 derbyniodd Lea MBE am ei gwasanaeth i ddawns, ac yn 2006, derbyniodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd yn y Celfyddydau o Dartington College of Arts. Yn 2014, penodwyd Lea yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Califfornia yn Los Angeles.

Mae gwaith nodedig diweddar Lea yn cynnwys:

2022: Shufflegwaith dawns ryngweithiol ar daith, a welodd y gynulleidfa’n cymryd rhan fel mynychwyr clwb a phleidleiswyr. Yn gyfuniad o berfformiad a gêm

2020: Elvis Legs (Quarantine Mix): gwaith dawns ensemble o bell, a ariannwyd drwy Kickstarter ac a ffilmiwyd ar Zoom yn ystod y cyfnod clo Covid.

2019: Los Amores de Marte y Venus: comisiynwyd gan Danza Contemporanea de Cuba o Havana, Ciwba. 

2019: Laberinto: comisiynwyd gan Compania Danza PUCP, Periw. 

2019: The Alien’s Guide to Dance Gone Wrong, gwaith comisiwn ar gyfer Maiden Voyage, Belffast (2019).

Duckie Loves Fanny, comisiynwyd gan Duckie 2019

Mae ei gwaith digidol a ffilmiau yn cynnwys: 

Dance:Capture:Chelsea-21, 2021. Comisiynwyd gan Chelsea Theatre, Llundain, casgliad ffilm o ddawnsfeydd a ganfuwyd.

Pans People Papers, 2015.  Prosiect trawsgyfryngol gyda Marisa Zanotti

How to Talk to Girls at Parties 2017, ffilm nodwedd a ysgrifennwyd gan Neil Gaiman ac a gyfarwyddwyd gan John Cameron Mitchell 

The Lost Dances of Egon Schiele 2000, BBC. Cyd-gyfarwyddwyr: Lea Anderson a Kevin McKiernan.

Velvet Goldmine 1997, ffilm nodwedd a gyfarwyddwyd gan Todd Haynes  

Mae gan Lea ddiddordeb arbennig mewn treftadaeth ddiwylliannol annirweddol a chasgliadau byw, ac mae hi wedi cynhyrchu arddangosfeydd perfformiadol yn yr amgueddfa V&A (Hand in Glove, 2016), Amgueddfa ac Oriel Gelf Bryste (Trying it On, 2018), ac ar dir safle archaeolegol yn Lima, Periw (Huaca, 2017). Bu Lea yn artist preswyl yn Amgueddfa Horniman, Llundain yn 2019, ac yn Gymrawd Creadigol yn The Bill Douglas Film Museum, Caerwysg 2019-2020.

colouring in pages with characters from zoetrope on them coloured in with crayon

Rhieni

Rydym yn cynnig gweithdai am ddim i gynulleidfaoedd Zoetrope.
Theatr y Sherman Dydd Sadwrn 21 Medi 2024

 

Gweithgareddau o 1.30yp

Nid oes angen cadw eich lle ymlaen llaw.

Mae’r gweithdai am ddim i unigolion sy’n meddu ar docynnau ar gyfer y perfformiad Zoetrope.

reviews from school children written in colourful felt tip pens such as 'fun' 'funny' and 'slay'

Schools 

Mae dawns yn un o bum disgyblaeth y Maes Celfyddydau Mynegiannol o Ddysgu a Phrofiad 

Byddem wrth ein bodd yn eich helpu i gyflwyno’r Celfyddydau Mynegiannol

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi gweithio ar y cyd â’r coreograffydd enwog, Lea Anderson MBE. Mae Lea’n adnabyddus am greu gwaith sy’n apelio at gynulleidfaoedd iau ac mae hi am greu darn newydd i ni ei rannu gyda chynulleidfaoedd o deuluoedd a phlant ysgol. Rydym yn barod i gydweithio â’ch Ysgol Gynradd chi a rhannu’r prosiect newydd a chyffrous hwn, sef Zoetrope, wedi’i anelu at blant rhwng 7-11 oed.

Dysgu Mwy am Zoetrope o Ysgolion

Galeri
dancers in striped costumes with ribbons and arrows
dancers in skeleton masks creeping across the stage.

Cefnogir gan

funding logos Colwinston Logo

Hodge foundation       AC logo

Yn mynd ar daith i
Ysgolion: Aberystwyth
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre
Dydd Iau 21 Tachwedd 2024, 13:00