Rhaglen Ddigidol Zoetrope Noder: Mae disgrifiad sain ar gael ym mob lleoliad - cysylltwch â’r theatr i gael defnyddio clustffonau, neu gallwch lawrlwytho ffeil MP3 i’w chwarae ar eich ffôn drwy eich clustffonau eich hun Disgrifiad Sain Croeso i’r perfformiad hwn o Zoetrope gan Lea Anderson. Dyma’r tro cyntaf i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru greu gwaith yn benodol ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Lea Anderson MBE a’r tîm cydweithredol cyfoethog sydd wedi dod â Zoetrope yn fyw. Mae Lea yn eicon y byd dawns gyfoes ym Mhrydain, ac mae hi wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd am ddegawdau gyda’i dull unigryw o greu dawnsiau. Rydym yn hynod falch o gyflwyno’r gwaith hwn i’n repertoire. Un agwedd yn unig yw Zoetrope ar y dawnsfeydd rydym yn eu creu ac yn eu rhannu â phobl ledled Cymru a’r byd. O ddawnsio gyda phobl sy’n byw â Parkinson’s i ysbrydoli pobl ifanc i roi cynnig ar ddawnsio drostynt eu hunain, rydym yn dawnsio er mwyn galluogi pobl i fynegi syniadau sydd y tu hwnt i eiriau. Os ydych chithau hefyd yn danbaid dros ddawnsio, ymunwch â ni yma Trawsgrifiad o’r holl destun yn Zoetrope gan Lea Anderson Mae'r coreograffydd enwog, Lea Anderson MBE wedi bod yn gweithio gyda'r dawnswyr talentog o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i greu eu sioe gyntaf yn arbennig i deuluoedd. Wedi’i ysbrydoli gan ffair bleser Fictoraidd, syrcas ac animeiddiad cynnar, disgwyliwch weld cast bach o berfformwyr anhygoel o ddawnus yn neidio ac yn olwyn-droi ar draws y llwyfan wedi'u gwisgo fel tsimpansîaid, madfallod a sgerbydau ac yn symud trwy rithiau hudolus clyfar a gynhyrchir gan olau, sain a gwisgoedd. Beth yw Zoetrope? Mae zoetrope yn ddyfais animeiddio cyn y ffilm sy’n cynhyrchu camargraff o symudiad drwy arddangos cyfres o luniadau neu ffotograffau sy’n dangos camau dilynol y symudiad hwnnw. CWRDD Â DDAWNSWYR Hyd: 50 minutes Danswyr: 5-7 Coreograffydd: Lea Anderson Cyfansoddwyd: Steve Blake Dylunio: Simon Vincenzi Dyluniad Goleuo: Marty Langthorne Goruchwyliwr Gwisgoedd: Deryn Tudor Gwneuthurwr Gwisgoedd: Danial Thatcher, Elizabeth Catherine Chiu Gwneuthurwr Prop: Johanna Lloyd Tîm Cynhyrchu Tîm Technegol: Geraint Chinnock, David Enos, Harvey Evans, Will Lewis Cyfarwyddwr Artistig: Matthew William Robinson Cynyrchydd Gweithredol: Chris Ricketts Cyfarwyddyr Ymarfer: Victoria Roberts Prif Weithredwr: Paul Kaynes a Tîm CDCCymru Lea Anderson Coreograffydd a chyfarwyddwr artistig wedi’i lleoli yng Ngogledd Dyfnaint yw Lea Anderson. Lea yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr artistig y cwmni The Cholmondeleys a The Featherstonehaughs. Yn ogystal â theithio’n estynedig o amgylch y DU a thramor, mae’r cwmnïau yn adnabyddus am eu gwaith arloesol mewn gofodau a lleoliadau y tu hwnt i’r theatr. Yn 2002 derbyniodd Lea MBE am ei gwasanaeth i ddawns, ac yn 2006, derbyniodd Ddoethuriaeth er Anrhydedd yn y Celfyddydau o Dartington College of Arts. Yn 2014, penodwyd Lea yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Califfornia yn Los Angeles. Mae gwaith nodedig diweddar Lea yn cynnwys: 2022: Shuffle: gwaith dawns ryngweithiol ar daith, a welodd y gynulleidfa’n cymryd rhan fel mynychwyr clwb a phleidleiswyr. Yn gyfuniad o berfformiad a gêm 2020: Elvis Legs (Quarantine Mix): gwaith dawns ensemble o bell, a ariannwyd drwy Kickstarter ac a ffilmiwyd ar Zoom yn ystod y cyfnod clo Covid. 2019: Los Amores de Marte y Venus: comisiynwyd gan Danza Contemporanea de Cuba o Havana, Ciwba. 2019: Laberinto: comisiynwyd gan Compania Danza PUCP, Periw. 2019: The Alien’s Guide to Dance Gone Wrong, gwaith comisiwn ar gyfer Maiden Voyage, Belffast (2019). Duckie Loves Fanny, comisiynwyd gan Duckie 2019 Mwy Mae'r coreograffydd enwog, Lea Anderson MBE wedi bod yn gweithio gyda'r dawnswyr talentog o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i greu eu sioe gyntaf yn arbennig i deuluoedd, a fydd yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr.. Dechreuodd ysbrydoliaeth Lea ar gyfer Zoetrope yn ystod ei chyfnod preswyl yn Amgueddfa Ffilm Bill Douglas, lle cafodd ei swyno gan ddyfeisiau animeiddio cyn-ffilmio fel soetropau – a elwir hefyd yn 'Olwynion Bywyd'. I ddod â'r syniadau hynny i'r llwyfan, mae Lea yn gweithio gyda'r dylunydd Simon Vincenzi i greu cast o greaduriaid gwych o wahanol gyfnodau yn hanes esblygiad gyda gwisgoedd yn seiliedig ar y darluniau du a gwyn a ddefnyddir mewn peiriannau söetrop. Mae'r cast yn newid gwisg ar y llwyfan, gyda gwisgoedd beiddgar sy'n cynrychioli esblygiad dyn yr holl ffordd o'r gell gyntaf, i fadfallod a masgiau mwnci i benwisgoedd wedi'u hysbrydoli gan atomau ac yn y pen draw i fysedd esgyrnog hir a phennau sgerbwd lle mae'r olwyn fywyd honno’n dod i ben, cyn dechrau eto. "“I don’t speak down to younger people, because they’re just like me. I always make work that I would like to see…… it’s got something in it for everybody… I’ve tried to make something that’s very open and a great deal of fun” Nid perfformiad yn unig yw Zoetrope: Gellir mynychu’r Diwrnod Hwyl i'r Teulu ar thema Zoetrope yn rhad ac am ddim gyda thocynnau a brynwyd ar gyfer y sioe, lle gall plant wneud eu söetrop eu hunain, dysgu sut i jyglo, rhoi cynnig ar ddawnsio rhuban a hyd yn oed ddysgu cyfres o symudiadau o'r sioe, cyn mwynhau'r perfformiad gyda'i gilydd. "Bydd cymaint o bethau, rhyngweithiol gyda sain, symudiad a golau, sy'n mynd i fod yn gyfareddol ac yn syndod. Bydd yn berfformiad arddull syrcas, yn wyneb y gynulleidfa. Rwy’n ceisio eu hudo i oes o ddod i sioeau a digwyddiadau byw.” Simon Vincenzi: Designer Mae Simon Vincenzi yn gyfarwyddwr theatr, dylunydd ac artist o Lundain. Mae wedi dylunio ar gyfer theatr newydd ac arbrofol, opera a dawns ledled Prydain ac Ewrop. Ymhlith y cwmnïau y mae wedi gweithio gyda nhw mae Impact Theatre, English National Opera, Nottingham Playhouse, yr ICA, y National Theatre, Scottish Opera, Rose English, y Royal Court, Duckie yn ogystal â The Cholmondeleys a Featherstonehaughs. Dyma ei 10fed cydweithrediad â Lea Anderson. Mae Simon hefyd yn cynhyrchu ei waith perfformio ei hun mewn theatrau mawr, mannau cudd, gosodiadau, clybiau nos, gwefannau ar-lein a ffrydiau byw, orielau, cyhoeddiadau a’r ffôn. "Rwy’n hoffi gweithio gydag arbenigwyr yn eu maes sy’n dod â rhywbeth na allaf ei ddychmygu. Mae Simon yn ddigon clyfar i ddod â rhywbeth newydd i'r darn" Lea Anderson Steve Blake: Cyfansoddwr Cyfarwyddwr Cerdd / Cyfansoddwr / Cerddor / Ysgrifennwr Copi / Golygydd Ffilm gyda Lea Anderson am 35 mlynedd. Mae’n gyfeilydd dawns yn Trinity Laban Conservatoire of Music And Dance ac mae’n canu ac yn chwarae ffidil a banjo 5-tant gyda’i fand ei hun THE OLD TIME WASTERS, gyda’r band dawns ceilidh/sgwâr CUT A SHINE a’r band gwrth-ddawns OLD TIME CONTRA BAND. Mae hefyd yn dysgu ffidl / banjo / iwcalili / gitâr / drymiau. Marty Langthorne - Dylunydd Goleuadau Mae gwaith Marty yn rhychwantu theatr, dawns, gosodiadau a chelf fyw. Fel rhan o gydweithfa Duckie mae wedi dylunio llawer o'u digwyddiadau clwb theatrig fel Princess, Gay Shame, Servants Ball a Border Force. Fel artist golau mae’n creu gosodiadau sy’n ymchwilio i ymateb dyn i liw yn y byd naturiol. Os oes gennych 5 munud i'w sbario, byddem wrth ein bodd yn clywed mwy o'ch meddyliau Llewi'r Arolwg a Ymunwch â’n rhestr Diolch am brynu tocyn a chefnogi Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Nid oes yn rhaid i’r stori ddod i ben yn y fan hon… Gallwch barhau i chwarae eich rhan trwy ddod yn Gefnogwr Lifft. Fel elusen, rydym yn dibynnu ar haelioni ein cynulleidfaoedd er mwyn ein helpu i barhau i gyflwyno gwaith artistig, llawn dychymyg mewn ffyrdd beiddgar ac athrylithgar ar draws graddfeydd, mannau a lleoliadau. Rydym yn cynnwys pobl mewn cyfleoedd cyfranogol a chreadigol, rydym yn datblygu doniau ac yn galluogi artistiaid i gyflawni eu dyheadau unigryw eu hunain. Am gyn lleied â £2.50 y mis, gallwch ymuno â chymuned sy’n credu yng ngallu dawns i gyfoethogi bywydau. Ymunwch â Lifft heddiw Cefnogi'r gan: