Stori cyfrwng Cymraeg i blant wedi’i thrawsnewid yn brofiad gaeafol gwych gan Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru y Nadolig hwn. Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn llawn cyffro i gydweithio ar Dawns y Ceirw, yn teithio ledled Cymru y gaeaf hwn. Yn cyfuno dawns, cerddoriaeth wreiddiol ac antur aeafol, dyma addasiad llwyfan o stori blant wreiddiol gan Casi Wyn, dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwyr Artistig y ddau gwmni, Steffan Donnelly a Matthew William Robinson. Tocynnau Stori gyfareddol cymeriad unig Carw yw Dawns y Ceirw. Mae’n Noswyl Nadolig ac mae pawb yn y pentref yn swatio gartref. Nid oes neb yn sylwi ar y carw bach unig sydd wedi’i adael allan yn yr oerni... Wrth chwarae ar ei ben ei hun yn yr eira, mae Carw yn ysu am gynhesrwydd a charedigrwydd. Yn sydyn, mae golau bach disglair yn ymddangos! Er nad yw wedi crwydro’n bell o’i bentref o’r blaen, mae Carw’n dilyn y golau bach ar antur hudolus drwy’r goedwig, lle mae’n dod o hyd i’r cariad a’r cryfder sydd ei angen arno ynddo ef ei hun. Wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Casi Wyn, bydd y sioe gyfareddol newydd hon yn dod â hud, cerddoriaeth a dawns i gynulleidfaoedd ifanc ledled Cymru y gaeaf hwn. Crëwyd Dawns y Ceirw fel animeiddiad ar gyfer S4C ac fe’i darlledwyr ar Noswyl Nadolig yn 2020. Nawr, bydd mwy o gynulleidfaoedd ifanc a’u teuluoedd yn gallu gweld perfformiad byr byw o’r stori hudolus hon. Bydd Casi Wyn, yr awdures ei hun yn serennu fel storïwr ac yn perfformio cerddoriaeth wreiddiol a gyfansoddwyd ganddi yn arbennig ar gyfer y cynhyrchiad. Mae Casi yn wyneb cyfarwydd i Gymry o bob oed fel cantores, cyfansoddwr ac o ganlyniad i’w rôl fel Bardd Plant Cymru 2022-2023. “Pleser a braint gwirioneddol yw bod yn rhan o’r cyd-gynhyrchiad cyntaf erioed rhwng Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at rannu’r stori dylwyth teg hon gyda chynulleidfaoedd yng Nghymru - yng nghwmni tîm mor frwdfrydig.” Yn ymuno gyda Casi ar y llwyfan, bydd dau o sêr byd dawns Cymru: Osian Meilir, coreograffydd a dawnsiwr sy’n rhan o’r sioe eiconig Qwerin, a’r ddawnswraig Sarah ‘Riz’ Golden, sy’n perfformio’n rheolaidd gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Hwn yw’r cydweithrediad cyntaf rhwng Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru. Ers ymuno gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn 2022, mae Steffan wedi cefnogi datblygiad artistig artistiaid a llawryddion ledled y wlad trwy brosiectau amrywiol yn ogystal â chyfarwyddo tair sioe, gan gynnwys Rhinoseros, a restrwyd fel un o 50 sioe orau 2023 gan The Stage. Ers ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig CDCCymru yn 2021, mae Matthew wedi datblygu cydweithrediadau, prosiectau a rhaglenni ar gyfer y cwmni. Gyda phroffil artistig cyfoethog, mae’r cwmni’n adlewyrchu Cymru gyfoes ar lwyfan rhyngwladol gyda balchder. Fel cyfarwyddwyr y sioe arbennig hon i blant, mae Steffan a Matthew yn dod â thîm creadigol talentog at ei gilydd. Daw byd gaeafol a dirgel Dawns y Ceirw yn fyw ar y llwyfan dan arweiniad y Dylunydd Set a Gwisgoedd Tomás Palmer (Dreaming and Drowning, Blue Mist). Cefnogir gweledigaeth hudolus Tomás gan dyluniadau goleuo gan Joshie Harriette a dylunio sain gan Alex Comana, i greu profiad swynol fydd yn sicr o aros yng nghôf cynulleidfaoedd am amser i ddod. “Ysgrifennu hyfryd Casi Wyn sydd wedi ysbrydoli’r cydweithio cyffrous yma. Dw’i methu aros i rannu Dawns y Ceirw gyda chynulleidfaoedd dros Gymru.” Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig CDCCymru, Matthew William Robinson: Dywedodd Steffan Donnelly o Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae cydweithio wrth galon ein ffordd o greu theatr ac mae'n fraint datblygu partneriaeth gyda chwmni cenedlaethol arall ar y cynhyrchiad yma. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at fod yn yr ystafell ymarfer gyda Casi, Matthew a'r criw lle fydd llawer o ganu, dawnsio a dyfeisio. Mae’r cynlluniau sydd gennym ni ar eich cyfer yn hynod gyffrous - stori freuddwydiol, canu ysbrydoledig, a syrpreisys gweledol - a dwi'n edrych ymlaen i gynulleidfaoedd ifanc ar draws y wlad neidio mewn i fyd y sioe.” Nid yn unig o fewn y theatr y bydd cyfle i gynulleidfaoedd ifanc fwynhau. Bydd Sian Elin James, Cydlynydd Cyfranogi Theatr Genedlaethol Cymru, yn arwain cyfres o weithdai mewn ysgolion ledled Cymru gyda gweithwyr creadigol o'r cynhyrchiad. Cerddoriaeth, symudiad, a ‘sgwennu fydd canolbwynt y gweithdai hyn fydd yn rhoi mewnwelediad i’r sioe a’i themâu i Gymry ifanc ledled y wlad. Bydd Dawns y Ceirw yn agor yng nghartref y Cwmni Dawns, sef Tŷ Dawns, Caerdydd ar 21 Tachwedd ac yna’n teithio ledled Cymru tan 6 Rhagfyr. Cynhelir perfformiadau gyda’r dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain, Cathryn McShane ar 27 Tachwedd yng Nghanolfan y Celfyddydau Memo y Barri, ac ar 5 Rhagfyr yn y Galeri, Caernarfon. Cynulleidfa darged Dawns y Ceirw yw plant 5-9 oed a’u teuluoedd. Amser Rhedeg: 45 munud