Rheolwr Prosiect (Gwefan a CRM) Gwahoddiad i Dendro Deadline Date 14/07/2025 - 12:00 Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) yn chwilio am reolwr prosiect profiadol i oruchwylio’r integreiddiad rhwng gwefan newydd a CRM a system docynnau newydd. Cefndir y Cyfle Cwmpas y Gwaith Amserlen Y Dogfennau Tendr Angenrheidiol Gwybodaeth allweddol Sgorio Meini Prawf Asesu a Phwysoli Dyddiad Cau’r Tendr Deadline Date 14/07/2025 - 12:00 Dogfennau i’w lawrlwytho NDCWales Invitation To Tender: Project Manager | PDF NDCWales Invitation To Tender: Project Manager | Word doc CDCCymru Gwahoddiad i Dendro: Rheolwr Prosiect | PDF CDCCymru Gwahoddiad i Dendro: Rheolwr Prosiect | Word doc Cefndir y Cyfle Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (NDCWales) yn dechrau ar siwrne newydd i gysylltu cynulleidfaoedd gyda’u gwaith. Eleni bydd yn rhoi llwyfan Rheoli Gwasanaeth Cwsmeriaid (CRM) a thocynnau ar waith ac yn diweddaru eu gwefan er mwyn sicrhau ei bod yn integreiddio gyda’r gwasanaethau hyn. Bydd y prosiect yn darparu integreiddiad rhwng y wefan a’r CRM gydag amcanion strategol allweddol er mwyn gwella profiad y defnyddiwr yn gyffredinol, arbed amser staff a galluogi mewnwelediadau a dadansoddiadau effeithiol o gynulleidfaoedd. Rydym yn falch bod y prosiect wedi’i ariannu drwy Raglen Bloomberg Philanthropies’ Digital Accelerator, sy’n cefnogi sefydliadau celfyddydol drwy welliannau strategol i seilwaith technoleg. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn awyddus i benodi Rheolwr Prosiect i oruchwylio dwy ffrwd o’r prosiect (CRM a gwefan), gan ddechrau ym mis Gorffennaf 2025 a gorffen ym mis Chwefror 2027. Fel Rheolwr Prosiect, byddwch yn arweinydd hynod o drefnus gyda phrofiad o ddatblygu a gweithredu CRM a mentrau gwefannau. Bydd gennych ddealltwriaeth eglur o brosesu data cwsmer a chael profiad ymarferol o ddefnyddio a rheoli systemau CRM, o ddewis ar gyfer cwmni celfyddydol gyda ffrwd swyddfa docynnau ac ymgysylltu fel ei gilydd. Byddwch yn gyfarwydd gyda mapio gwefannau ac yn fodlon gwneud ymchwil cwsmeriaid trylwyr er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau ar gyfer systemau newydd. Byddwch yn ymrwymedig i gynaliadwyedd a hygyrchedd ym mhob ffrwd o’r prosiect. Cwmpas y Gwaith Rheoli llif gwaith fendwrRheoli llif gwaith mewnol ar gyfer y prosiect Cynnal perthnasoedd fendwr Olrhain ac adrodd ar brif Ddangosyddion Perfformiad Allweddol a cherrig milltir y prosiect Cadw at amserlenni clir y prosiect Rheoli ac ymateb i newid Rheoli’r gyllideb gyfyngedig gan gynnwys rhagweld ac adrodd ar unrhyw amrywiad Goruchwylio rhoi CRM newydd ar waith gan gynnwys mudo data hanesyddol Arwain ar waith ymchwil y defnyddiwr ac adrodd gydag arbenigwyr Cytundebu a rheoli arbenigwyr llawrydd yn ôl angen y prosiect Arwain ar greu, gweithredu a phrofi gwefan newydd Trefnu hyfforddiant staff ar gyfer CRM newydd a Gwefan Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Marchnata Creu a dosbarthu adroddiadau rheolaidd i randdeiliaid allweddol Bod yn fodlon teithio i Gaerdydd ar gyfer cyfarfodydd allweddol Amserlen Mae’r amserlen hon yn amlinellu crynodeb o strwythur tebygol y prosiect. Bydd peth o’r gwaith yn digwydd cyn i’r Rheolwr Prosiect ddechrau. Mehefin 2025: CRM wedi’i Gaffael Mehefin 2025: Datblygwyr gwefan wedi’u cytundebu Gorffennaf 2025: Cychwyn gosod y CRM Medi 2025: Ymchwil defnyddwyr ar y wefan bresennol er mwyn deall y defnydd, yr angen a’r materion problemus Medi: Mudo a glanhau data’n dechrau Hydref 2025: Lansio’r CRM yn fewnol a hyfforddi gweithwyr yn dechrau Hydref 2025: Dechrau ar waith ymchwil cynulleidfa trylwyr (gan ddefnyddio data yn y CRM fel man cychwyn) Tachwedd 2025: Integreiddiad y Wefan a CRM yn dechrau Chwefror 2026: strwythur y wefan wedi gorffen a’r adolygiad yn dechrau Mawrth - Mai 2026: Creu cynnwys, ysgrifennu a chyfieithu Mehefin 2026: hyfforddiant gweithwyr, adolygu cynnwys a phrofi mewnol Gorffennaf-Awst 2026: profi gan ddefnyddwyr cyn lansio Tachwedd - Rhagfyr 2026: lansio’r wefan ynghyd â chyhoeddiad tymor 2027 Ionawr - Chwefror 2027: olrhain ac adrodd am ddadansoddi Y Dogfennau Tendr Angenrheidiol CV (heb fod yn fwy nag un ochr A4) Llythyr cais (heb fod yn fwy nag un ochr A4) Dylai’r CV a’r llythyr amlinellu eich sgiliau a’ch profiad, yn ogystal â sut y byddwch yn gwireddu ac yn cyflawni cwmpas y gwaith sydd i’w ymgymryd ag ef. Os yw’n berthnasol, cynhwyswch os gwelwch yn dda wybodaeth yn y llythyr cais am eich dealltwriaeth o’r sector celfyddydol yng Nghymru, neu eich dealltwriaeth chi ohoni. Astudiaeth achos (heb fod yn fwy nag un ochr A4) yn amlinellu menter berthnasol ddiweddar rydych chi wedi’i darparu sydd o faint a graddfa debyg. Dylech amlinellu amserlen y prosiectau, cwmpas y gwaith, eich dull o’u rhoi ar waith a’u rheoli, y systemau a’r gwasanaethau a’r gwersi a ddysgwyd. Nid ydym yn chwilio am fanylion ariannol i gael eu cynnwys yn yr astudiaeth achos yma. Dogfen (heb fod yn fwy nag un ochr o A4) sy’n amlinellu sut rydych yn bwriadu dyrannu’r gyllideb mewn perthynas â’ch cyfradd ddyddiol, yr amserlen a’r elfennau cyflawni - a sut rydych chi’n bwriadau trefnu eich dyddiau gwaith ym mhob cam yn seiliedig ar yr amserlen uchod. Os hoffech wneud cais gyda sain, fideo neu ffurf sy’n hygyrch i chi, gwnewch hynny, gan gynnwys y pwyntiau isod. Ymholiadau tendr a cheisiadau i: recruitment@ndcwales.co.uk Gwybodaeth allweddol Rydym yn elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig Rydym yn gwmni dawns Cyfoes sydd wedi’i leoli ym Mae Caerdydd Mae’r Tŷ Dawns yn lleoliad ynddo’i hun, yn ogystal â bod yn gartref i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Gan hynny, mae gwefannau Tŷ Dawns a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a’u cyfieithiadau Cymraeg i gyd o fewn y cwmpas Rydym yn falch o gyfrannu i’r Rhaglen Bloomberg Philanthropies’ Digital Accelerator, sy’n cefnogi sefydliadau celfyddydol drwy welliannau strategol i seilwaith technole Mae’r swydd hon wedi’i ariannu gan y Bloomberg Philanthropies’ Digital Accelerator Programme Mae cwmpas terfynol y gwaith a nifer y dyddiau yn ddibynnol ar ariannu sydd i’w ddyfarnu ym mis Gorffennaf 2025 Bydd y prosiect yn galluogi Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru i roi datrysiad CRM newydd ar waith, system docynnau, ac integreiddio’r gwasanaethau hyn drwy ndcwales.co.uk fel rhan o’r rhaglen hwn o newid a thrawsnewid Lleoliad: Gellir ymgymryd â’r swydd yma o bell neu yn un o’n swyddfeydd yng Nghaerdydd. Os ydych chi’n gweithio o bell mae’n rhaid i chi fod yn fodlon teithio i Gaerdydd ar gyfer cyfarfodydd allweddol - nodwch os gwelwch yn dda na all teithio a/neu lety gael eu cynnwys y tu hwnt i’r ffi a amlinellir isod. Hyd yr ymgysylltiad: Mae’r swydd hon yn weithredol o fis Gorffennaf 2025 - mis Chwefror 2027 Ffi Y ffi yw £25,000 yng ngham un (Gorffennaf 2025 - Chwefror 2026) ac £16,600 yng ngham dau (Chwefror 2026 - Chwefror 2027) Mae’r camau hyn mewn perthynas â phatrwm prosiect Bloomberg Philanthropies. Cynhwyswch fanylion yn eich Tendr ynghylch sut rydych yn bwriadu dyrannu’r ffi mewn perthynas â’ch cyfradd ddyddiol, amserlen a’r hyn sydd i’w ddarparu. Sgorio Meini Prawf Asesu a Phwysoli Bydd ceisiadau’n cael eu sgorio yn seiliedig ar a) profiad, sgiliau a gwybodaeth dechnegol a b) gwerth am arian. Mae’r isod yn amlinellu’r meini prawf a’r dystiolaeth y byddwn yn ei defnyddio i asesu ar gyfer pob maes o’r meini prawf. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn seiliedig ar yr elfennau canlynol. Bydd pob maes yn cael ei sgorio ar raddfa o 1 i 3, lle mae: 1 = Tystiolaeth wael 2 = Tystiolaeth dda 3 = Tystiolaeth gref Mae’r sgoriau crai hyn wedyn yn cael eu pwysoli yn ôl eu pwysigrwydd (fel y dangosir yn y tabl) a’u trosi’n ganran. Er enghraiff, mae sgôr o 3 mewn elfen sy’n cael ei phwysoli ar 20% yn cyfrannu at 20% llawn o’r cyfanswm terfynol. Y sgôr derfynol yw swm yr holl gydrannau sydd wedi’u pwysoli, wedi’u mynegi fel canran allan o 100%. Bydd sgoriau’n cael eu pwysoli a’u trosi’n ganran er mwyn penderfynu ar y sgôr gyffredinol. Mae angen lleiafswm sgôr cyffredinol o 50% er mwyn bod yn gymwys. Cydran i’w Hasesu Aseswyd drwy Pwysoliad Cyfradd Sgorio (1-3) Nodiadau Profiad, Sgiliau a Gwybodaeth: CV CV 20% 1–3 Tystiolaeth o brofiad, sgiliau ac arbenigedd perthnasol. Profiad, Sgiliau a Gwybodaeth: Llythyr Cais Llythyr Cais 20% 1–3 Mewnwelediad i ddealltwriaeth yr ymgeisydd o’r rôl. Profiad, Sgiliau a Gwybodaeth: Astudiaeth Achos Astudiaeth Achos 20% 1–3 Arddangos y gallu i ddarparu gwaith tebyg. Gwerth am Arian Llythyr Cais 40% 1–3 Cyfiawnhad dros werth, cost-effeithiolrwydd ac agwedd. CYFANSWM — 100% Rhaid sgorio o leiaf 50% i gymhwyso. Dyddiad Cau’r Tendr Dyddiad Cau: Dydd Llun 14 Gorffennaf 2025, 12pm hanner dydd Sgorio gan y Panel: 15 Gorffennaf 2025 Hysbysiadau: Erbyn 18 Gorffennaf 2025 Cyfweliadau: 29 Gorffennaf 2025 Addewid Recriwtio Byddwn yn cysylltu gyda phob ymgeisydd, p’un a ydynt ar restr fer ai peidio. Gwahoddir ymgeiswyr anabl sy'n dangos eu bod yn bodloni'r fanyleb person am gyfweliad, ac rydym yn ymroddedig i fodloni gofynion mynediad; rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch. Cydraddoldeb Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol yn anelu i gael dawns yn rhan o fywydau pawb ac mae’n cyflwyno ei waith mewn gwahanol fformatau a chyd-destunau ar hyd a lled Cymru ac o amgylch y byd. Credwn y dylai amrywiaeth gael ei ymgorffori'n llawn yn ein diwylliant a'n gwerthoedd cyfundrefnol, ac rydym yn parhau i ehangu amrywiaeth y cwmni a'i waith. I'r perwyl hwnnw rydym yn siarad â phobl o ystod o gymunedau ac yn gwrando arnynt, i gyflwyno dealltwriaeth a mewnwelediad, ac i ganfod newidiadau y gallwn eu gwneud. Mae manylion ynghylch y camau yr ydym yn eu cymryd i'w gweld yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Cyfiawnder Cymdeithasol Mae cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a thegwch yn greiddiol i bopeth mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ei wneud. Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal i gael mynediad at ddawns. Bydd CDCCymru yn ceisio sicrhau na fydd neb yn cael eu trin yn llai ffafriol oherwydd bod ganddynt nodwedd warchodedig. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector dawns, a gan y rhai sy'n profi gwahaniaethu oherwydd hil, hunaniaeth rywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd, cenedlaetholdeb, tarddiad ethnig, anabledd neu oed.