Marvin standing with hand over mouth, sea behind him

Prosiect Plethu/Weave Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn creu barddoniaeth a ffilm o symudiadau ingol i adlewyrchu rhan Cymru yn y fasnach i gaethwasiaeth Traws-Atlantig

Geiriau gan y Bardd Marvin Thompson / Symudiadau gan y Dawnsiwr Ed Myhill

Ar ddydd Sul 23 Awst, yng nghyswllt Diwrnod Rhyngwladol Cofio'r Fasnach i Gaethwasiaeth a'i Dileu, cyhoeddodd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) a Llenyddiaeth Cymru eu ffilm fer nesaf o'u prosiect bardd a dawnsiwr, Plethu/Weave, sy'n canolbwyntio ar ran Cymru yn y fasnach i gaethwasiaeth Traws-Atlantig.

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Cofio'r Fasnach i Gaethwasiaeth a'i Dileu, a ddechreuwyd gan UNESCO, yn flynyddol ledled y byd ar ddydd Sul 23 Awst, sy'n cynnig y cyfle i fyfyrio ar y cyd ar oblygiadau hanesyddol caethwasiaeth.

Bydd y bardd croenddu o Gymru Marvin Thompson, a dawnsiwr CDCCymru Ed Myhill sydd o dras Brydeining Gwyn - fel rhan o brosiect cywaith digidol traws-gelfyddydol arloesol newydd CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru, Plethu/Weave - yn edrych ar ran Cymru yn y fasnach i gaethwasiaeth Traws-Atlantig. Mae Triptych, a fydd yn cael ei rhyddhau ar ddydd Iau 3 Medi yn defnyddio geiriau Marvin ynghyd â sain a symudiadau newydd gan y dawnsiwr Ed Myhill i gyfleu'r anghyfiawnder, y cymunedau a'r bobl yr effeithiwyd arnynt mewn llythyr barddonol grymus.

Dywedodd y bardd Marvin Thompson, "Mae Ed Myhill a minnau wedi creu ffilm wedi'i hysbrydoli gan fy ngherdd 'Triptych.' Mae'r gerdd hon yn ymateb i blac yn Aberhonddu a goffai masnachwr caethweision. Cymerodd Ed Myhill adran gyntaf 'Triptych,' neges agored i Gyngor Tref Aberhonddu, a'i hailgymysgu dros drac sain a gyfansoddodd. Mae'r ffilm yn ymgorffori lluniau o gaeau corn, y môr a symudiad ein corff i ymhelaethu ar themâu o gaethiwo a distrywio ecolegol."

Triptych yw'r trydydd fideo o wyth gan brosiect Plethu/Weave CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru. Mae'r prosiect ffilm ddigidol newydd, Plethu/Weave yn gweld dawnswyr o CDCCymru a'r sector annibynnol, ar y cyd â rhai o feirdd a gomisiynwyd gan Llenyddiaeth Cymru yn creu wyth perfformiad o ffilmiau unigol, byr yn ystod y cyfnod clo.

Dangoswyd y ddwy ffilm gyntaf, Hirddydd gan Mererid Hopwood a Tim Volleman ac Ust gan Ifor Ap Glyn a Faye fel rhan o Ŵyl Ddigidol Ar-lein yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau Awst ac maent bellach ar gael i'w gwylio ar wefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol CDCCymru / Llenyddiaeth Cymru.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, "Gall llenyddiaeth a'r celfyddydau ein harwain tuag at ddealltwriaeth well o faterion cymhleth a phwysig. Drwy farddoniaeth a dawns, mae Marvin Thompson ac Ed Myhill yn archwilio'n agored a gonest rhan Cymru yn y fasnach i gaethwasiaeth Traws-Atlantig, ac mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gefnogi'r gwaith hwn mewn partneriaeth â CDCCymru. Mae Diwrnod Rhyngwladol Cofio'r Fasnach i Gaethwasiaeth a'i Dileu yn achlysur lle dylai pawb ledled y byd - yn cynnwys dinasyddion Cymru - oedi i fyfyrio ar erchyllterau'r gorffennol."

Prif Weithredwr CDCCymru Paul Kaynes, “Mae ‘dawns’ yn ffurf ar gelfyddyd sy’n dibynnu ar gydweithrediadau dwfn - gyda choreograffwyr, cyfansoddwyr, dylunwyr ac yn aml gyda llenorion. Mae dau artist o Gymru - bardd a dawnsiwr - yn cydweithio i wneud gwaith ar gyfer Cymru, ac am Gymru, gan ein hatgoffa o'n gorffennol yn y fasnach gaethweision Drawsiwerydd ac yn ein herio i fyfyrio ar Fywydau Du o Bwys, ddoe a heddiw. Mae pŵer y gwaith maen nhw wedi’i wneud yn glod iddyn nhw fel artistiaid, a pherthnasedd eu pwnc"

Bydd Triptych yn cael ei darlledu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol CDCCymru/Llenyddiaeth Cymru o ddydd Iau 3 Medi a bydd ar gael i'w gwylio am hyd at 12 mis. Bydd y pump o ffilmiau byr nesaf gan Plethu/Weave yn cael eu darlledu bob pythefnos ar-lein fel rhan o raglen ddigidol KiN:Ar-lein CDCCymru. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi bod yn arddangos llawer o'i gynyrchiadau ar-lein am y tro cyntaf er mwyn i gynulleidfaoedd wylio yn rhad ac am ddim fel rhan o'i raglen ar-lein KiN:Ar-lein, gan gynnwys Dream (Christopher Bruce CBE), Rygbi: Annwyl i mi/ Dear To Me (Fearghus Ó Conchúir) yn ogystal â fersiwn ffrydio byw Zoom o Clapping, Ed Myhill.