Osian Meilir UN3D Cydamserol, gwirion ac aruchel - triawd o ddawnswyr yn cydsymud yn berffaith i gyfeiliant trac sain Bjork a The Police a ddaw â gwên i'r wyneb. Yn cynnwys symudiadau a ysbrydolwyd gan nofio cydamserol, dawnsio llinell a siglo llyfn y Supremes. Mae UN3D yn waith sy'n hyrwyddo cysylltiad dynol dros berffeithrwydd mesuredig. Mae'r dawnswyr, mewn gwisgoedd sidan trawiadol, yn archwilio'r gwahaniaeth rhwng symud gyda'i gilydd a chytgord wrth iddynt anelu at undod a chydbwysedd. Tîm Creadigol UN3D: Osian Meilir Cerddoriaeth: Synchronicity - The Police Unison - Björk Perfformiad: Faye Tan, Paulina Porwollik, Samuel Gilovitz Coreograffwr Osian Meilir Mae Osian Meilir yn artist sy'n creu a pherfformio gwaith dawns a symud ac mae bellach wedi'i leoli yng Nghymru. Yn hanu'n wreiddiol o Bentre'r Bryn, ar arfordir gorllewin Cymru, aeth Meilir ymlaen i hyfforddi yn Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance. Yno, enillodd radd dosbarth cyntaf cyn bwrw ymlaen â'i astudiaethau a chwblhau ei radd Meistr mewn Perfformiad Dawns yn rhan o Transitions Dance Company. Mae gwaith Meilir fel perfformiwr yn cynnwys gweithio gyda artistiaid fel Jo Fong, Lizzi Kew Ross & Co, Gwyn Emberton Dance, Satore Tech a Fearghus O'Conchuir gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Mae ei waith hefyd yn ehangu i fyd theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc drwy berfformio gwaith gan Carlos Pons Guerra a Cahoots NI, yn teithio ledled y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal a’i waith solo ei hun ar gyfer Cwmni Theatr Arad Goch - Palmant / Pridd (Pavement / Pasture). Fe greodd ei berfformiad cyntaf graddfa ganol - 'Qwerin', fel cyfarwyddwr a choreograffydd yn 2021 ac ehangu a datblygu'r gwaith i fod yn gyflawn ar gyfer teithio yn 2022. Bu Qwerin yn teithio yn rhyngwladol yn 2023 gan ymddangos mewn gwyliau yn Awstralia. Mae gan Meilir hefyd brofiad helaeth o arwain gweithdai a dosbarthiadau i blant, phobl ifanc ac oedolion. Mae profiadau cynharaf Meilir, a'i gefndir yn ymhêl â'r ddawns werin Gymreig, wedi golygu bod Meilir yn gwerthfawrogi dawns o bob math o ddiwylliannau gwahanol. Mae hefyd wedi golygu ei fod yn cael mwynhad o ystyried y ffordd y gall dawns godi pontydd pwysig rhwng pobl o bob cwr o'r byd. Galeri