Amser i Siarad Mae Diwrnod Amser i Siarad ddydd Iau 4 Chwefror - rhan o ymrwymiad newydd ledled Cymru, sy'n newid y ffordd rydym yn meddwl am iechyd meddwl. Mae 1 ym mhob 4 ohonom yn profi iechyd meddwl gwael ambell flwyddyn - heb sôn am y flwyddyn hon! Gwyddom, o brofiad, fod siarad amdano yn gallu gwneud gwahaniaeth. Os ydych angen help, siaradwch gyda ffrind, aelod o'r teulu, cydweithiwr yn y gwaith, neu edrychwch ar y grwpiau, adnoddau a dolenni gwych hyn – mae croeso i chi gysylltu: Y Celfyddydau Mae Freelancers Make Theatre wedi llunio rhestr wych o adnoddau am ddim a chost isel https://freelancersmaketheatrework.com/wellbeing/ Mae gan Cult Cymru hyfforddiant gwych ar y gweill ar Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a Rheoli Straen. https://cult.cymru/en/hyfforddi-digwyddiadau-training-events/ Platform Gwefan: https://platfform.org/ Mae Platform yn gweithio gyda phobl sy'n profi heriau gyda'u hiechyd meddwl, ac o fewn cymunedau sydd eisiau creu ymdeimlad gwell o gysylltu, meddiant a llesiant yn y llefydd maent yn byw. I'r sector Dawns: Rhestr wych o sefydliadau iechyd a llesiant i ddawnswyr gan People Dancing https://www.communitydance.org.uk/useful-contacts-and-links/dance-health-and-wellbeing Gweminarau iechyd meddwl ar-lein am ddim gan One Dance UK https://www.onedanceuk.org/programme/healthier-dancer-programme/health-events-conferences/ Cymorth clinigol iechyd meddwl i ddawnswyr https://www.nidms.co.uk/mental-health https://www.baatn.org.uk/ Iechyd Meddwl yn y gweithle CIPD Gwefan: https://www.cipd.co.uk/knowledge/culture/well-being Iechyd Meddwl yn y Gwaith - Gwefan: https://www.mentalhealthatwork.org.uk/ Mae'r ddau'n cynnig gwybodaeth i gyflogwyr a staff ar iechyd meddwl yn y gwaith, ac wrth weithio gartref. Os ydych angen siarad â rhywun yng Nghymru: The Mix Ffôn: 0808 808 4994 Neges Destun: 85258 Gwefan: http://themix.org.uk/ E-bost: https://www.themix.org.uk/get-support/speak-to-our-team/email-us Gwasanaeth cefnogi yw The Mix ar gyfer unigolion dan 25 oed, sydd ar gael 365 diwrnod y flwyddyn. Maent yna i'ch help chi wynebu unrhyw heriau o'ch blaen - o iechyd meddwl i arian, o ddigartrefedd i ddod o hyd i swydd, o berthnasau'n chwalu i gyffuriau. Gallwch siarad â nhw dros y ffôn, drwy e-bost, sgwrs ar-lein, a llinell neges destun argyfwng. Gallant hefyd eich helpu chi i gefnogi gwasanaethau yn eich ardal leol. Heads above the Waves Gwefan: https://hatw.co.uk/ Sefydliad nid er elw wedi'i leoli yng Nghaerdydd, sy'n codi ymwybyddiaeth am hunan-niweidio ac iselder mewn pobl ifanc. Y Samariaid Ffôn: 08457 90 90 90 (24 awr y dydd) E-bost jo@samaritans.org Gwefan www.samaritans.org Darparu cefnogaeth emosiynol, anfeirniadol i bobl sy'n profi teimladau o drallod neu anobaith, gan gynnwys y rheiny sy'n arwain at hunanladdiad. Gallwch eu ffonio, e-bostio, ysgrifennu llythyr, neu yn y rhan fwyaf o achosion, siarad â rhywun wyneb yn wyneb. CALL (Llinell Wrando a Chyngor Cymunedol): Ffôn 0800 132 737 Gwefan: www.callhelpline.org.uk Cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar Iechyd Meddwl a materion cysylltiedig i bobl yng Nghymru. Gall unrhyw un sy'n pryderu am eu hiechyd meddwl eu hunain, perthynas neu ffrind, ddefnyddio'r gwasanaeth. Mae Llinell Gymorth C.A.L.L. yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogi cyfrinachol. GIG Galw Iechyd Cymru Ffôn 0845 4647 Gwefan www.nhsdirect.wales.nhs.uk Cyngor iechyd ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. neu GIG One You - Gwefan: https://www.nhs.uk/oneyou/ Cynnig cynllun personol gyda syniadau syml i wella iechyd meddwl. Meic Cymru Ffôn: 0808 80 23456 (8am – hanner nos, saith diwrnod yr wythnos) Neges Destun: 84001 Gwefan: www.meiccymru.org Mae Meic yn wasanaeth llinell gymorth gyfrinachol ac am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Gallwch ffonio, anfon neges destun neu neges uniongyrchol iddynt yn Gymraeg neu Saesneg i gael cymorth, cyngor a gwybodaeth. Llinell Wybodaeth Mind Ffôn: 0300 123 3393 (9am-5pm Dydd Llun i Gwener) E-bost info@mind.org.uk Gwefan www.mind.org.uk Mae Mind yn darparu gwasanaethau gwybodaeth iechyd meddwl cyfrinachol. Mae Mind yn galluogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus gyda chymorth a dealltwriaeth. Hefyd, mae gan Mind rwydwaith o bron i 200 o asiantaethau Mind lleol sy'n darparu gwasanaethau lleol. Saneline Ffôn 0845 767 8000 (6pm-11pm) Gwefan www.sane.org.uk Mae Saneline yn llinell gymorth cenedlaethol sy'n darparu gwybodaeth a chymorth i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl, a'r rheiny sy'n eu cefnogi nhw. Childline Ffôn: 0800 1111 Gwefan: www.childline.org.uk Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sydd ar gael i unrhyw un dan 19 oed yn y DU. Boed yn rhywbeth bach neu fawr, maent wedi'u hyfforddi i'ch cefnogi chi ar unrhyw adeg, ddydd neu nos.